Tuesday, January 13, 2009

Y Toriaid i newid tirwedd etholiadol Cymru?

Mi glywais stori ar y radio y bore yma bod y Blaid Geidwadol yn bwriadu lleihau'r nifer o etholaethau Cymreig, a sicrhau bod yr etholwyr sydd ym mhob etholaeth yn debyg i'r cyfartaledd Prydeinig. 'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod y cyfartaledd hwnnw yn tua 74,000 - uwch o lawer na'r etholaeth fwyaf poblog yng Nghymru - De Caerdydd a Phenarth. Fedra i ddim dod o hyd i'r stori ar y We.

Rhestraf isod yr etholaethau Cymreig, gyda'r nifer o etholwyr oedd yn byw ynddynt pan gafodd yr adroddiad ail wampio'r ffiniau ei gyhoeddi rhai blynyddoedd yn ol. Mae'r ffigyrau erbyn heddiw ychydig yn uwch yn y rhan fwyaf o'r etholaethau, ond nid yw'r gwahaniaeth yn arwyddocaol.

Aberafan 50,509
Aberconwy 44,158
Abertawe Dwyrain 57,419
Abertawe Gorllewin 58,957
Alyn a Glannau Dyfrdwy 60,512
Arfon 43,138
Blaenau Gwent 53,130
Bro Morgannwg
Brycheiniog a Maesyfed 53,596
Pen y Bont 57,166
Caerffili 64,230
Caerdydd Canol 62,211
Caerdydd De a Phenarth 68,340
Caerdydd Gogledd 64,066
Caerdydd Gorllewin 65,012
Caerfyrddin Dwyrain 52,887
Casnewydd Gorllewin 61,091
Caerfyrddin Gorllewin/ De Penfro 57,288
Casnewydd Dwyrain 56,503
Castell Nedd 57,057
Ceredigion 57,721
Clwyd De 51,310
Clwyd Gorllewin 55,501
Cwm Cynon 48,310
Delyn 54,429
Dwyfor Meirion 48,953
Dyffryn Clwyd 49,722
Gwyr 60,729
Llanelli 56,295
Merthyr 55,534
Mynwy 62,615
Ogwr 53,880
Pontypridd 54,216
Preseli Penfro 56,214
Rhondda 50,427
Trefaldwyn 46,775
Torfaen 61,460
Wrecsam 51,061
Ynys Mon 49,896

Yr hyn sy'n amlwg ydi y byddai yna gyflafan petai'r ffigwr cyfartalog yn cael ei newid i 74,000. Gan nad ydi siroedd Cymru yn ffiti i mewn i batrwm 74,000 byddai'r map newydd yn fler iawn o ran torri trwy ffinniau llywodraeth leol. Mae'n ddiddorol ceisio rhagweld yn fras beth fyddai'r Comisiwn Ffiniau yn ei wneud.



Mi fyddai'r newidiadau mwyaf yn y Gymru wledig ac yn y cymoedd. Fe gychwynwn yn y Gogledd. Mae'n debygol y byddai Arfon (rhif 4 ar y map) yn diflanu ac yn cael ei hollti'n ddau, gydag ardal Bangor yn mynd at Ynys Mon (40) ac ardal Caernarfon yn mynd at Meirion Dwyfor (20). Gellid ffurfio tua dwy sedd 74,000 o Aberconwy (2), Gorllewin Clwyd (17)a Dyffryn Clwyd (37). Gellid cyfuno De Clwyd (16) a rhan deheol Alyn a Glannau Dyfrdwy o efo Gogledd Trefaldwyn (26)(gan hollti etholaeth sydd prin wedi ei newid erioed), a gellid ffurfio dwy etholaeth o gweddill Alyn a Glannau Dyfrdwy (3), Delyn (19) a Wrecsam (39).

Byddai'n bosibl cyfuno de Trefaldwyn a Brycheiniog a Maesyfed (6), gan greu bwystfil o etholaeth. Mae'n debyg y byddai Ceredigion (15) yn cael ei hymestyn i'r de - i ogledd Preseli Penfro (32). Yna gellid defnyddio'r hyn sy'n weddill o Breseli Penfro, a'r rhan o Orllewin Caerfyrddin De Penfro (14) sydd ym Mhenfro i greu un etholaeth. Byddai'n bosibl wedyn creu dwy etholaeth o Lanelli (23), gorllewin Caerfyrddin a Dinefwr Dwyrain Caerfyrddin (13).


Gellid diddymu Gwyr (21) a chyfuno'r de efo'r ddwy etholaeth Abertawe (34 a 35) a chyfuno'r gogledd gyda Chastell Nedd Port Talbot (27) i greu un etholaeth.

Mae yna ddigon o etholwyr i gyfiawnhau tair sedd newydd o bedair sedd bresenol Rhondda, Ogwr, Pen y Bont ac Aberafan. Yn yr un modd gellid creu tair etholaeth o Ogledd Caerffili (8), Cwm Cynon (18), Merthyr (24) a Phontypridd (31) - ond byddai de Caerffili yn mynd at Ogledd Caerdydd (10). Yna gellid symud rhan o Benarth o Dde Caerdydd (11) i Fro Morgannwg (38) a chadw pedair sedd ond newid y ffiniau yng Nghaerdydd.

Gellid diddymu Torfaen (36) a chyfuno tua thraean o'r etholaeth honno gydag Islwyn a Blaenau Gwent (5) i greu dwy sedd newydd, tros i draean gyda'r ddwy etholaeth Casnewydd i greu dwy etholaeth newydd (28 a 29) a'r gweddill gyda Mynwy (25).

Golygai hyn golli deg sedd ar lefel San Steffan - byddai'r cyfanswm yn gostwng o 40 i 30. Newid yn wir yn nhirwedd etholiadol Cymru.

28 comments:

Anonymous said...

Dadansoddiad diddorol. Byddai sawl cymhlethdod ymarferol yn perthyn i'r fath newid, heb son am rhai cyfansoddiadol!
Ond a chymryd am eiliad y gall hyn ddigwydd, mae'n debyg y bydd y Comisiwn Ffiniau yn caniatau ychydig mwy na 30 am resymau daearyddol, ac hefyd maent yn dueddol o fod eisiau glynnu at eu 'preserved counties'. Felly er y byddai seddi yn croesi ffiniau awdurdodau lleol presennol, bydd y comisiwn yn dueddol o ddelio ar wahan efo hen siroedd Dyfed, De Morgannwg, Gorllewin Morgannwg, Powys, Gwynedd (sy'n cynnwys Mon ond nid Aberconwy), Clwyd (a'i ffiniau wedi ymestyn i gynnwys Aberconwy) a Chanol Morgannwg / Gwent (a ystyrir yn un ganddynt am ryw reswm).

Yng Ngwynedd, statws Mon yw'r ffactor allweddol. Os oes gwrthwynebiad lleol i uno efo Bangor, mae'n bosib bydd rhaid i'r ffiniau aros fel ag y maent.
Yn Nyfed, cytunaf mai mynd yn ol at sefyllfa 1983-1992 fyddai'n debygol.
Os oes angen lleihau nifer De Morgannwg yna gellid hollti etholaeth od De Caerdydd a Phenarth rhwng y gweddill yn weddol ddidrafferth.
Bydd Powys yn gymhleth. Rhy fawr i un etholaeth, ond yn anodd i uno darnau gydag etholaethau eraill, yn enwedig os yw'r comisiwn am lynnu at eu rheol 'preserved counties'. Felly falle y cedwir yr etholaethau presennol.
Mae nifer o etholaethau bychain yng Nghlwyd, felly efallai bydd rhaid iddi golli 2 sedd. Gwelaf rinweddau y sefyllfa 1983-92. H.y. gellid uno'r ardaloedd arfordirol yn un etholaeth Conwy-Llandudno-Bae Colwyn, ac hefyd yr ardaloedd gwledig ar linellau'r hen De-Orllewin Clwyd (sef etholaeth 'corridor yr A5' fyddai'n cynnwys Llanrwst, Corwen, Dinbych, Rhuthun a Llangollen). Dwi ddim wedi edrych ar y ffigurau poblogaeth yn fanwl i weld sut fyddai hyn yn bosib. Gallai Wrecsam ac Alun & Dyfrdwy dyfu, a Delyn symud tua'r Gorllewin i lyncu Prestatyn ac efallai Rhyl.
Cytunaf mai diddymu Gwyr yw'r ateb tebygol yng Ngorllewin Morgannwg, er y byddai'n rhaid efallai cynnwys Cwm Nedd efo Aberafan.
Byddai Canol Morgannwg / Gwent yn gythreulig o gymhleth. I ddechrau, efo etholaethau 74 mil mae dinas Casnewydd yn rhy fach i gael 2 ond yn rhy fawr i gael 1. Hefyd mae tirwedd y cymoedd yn golygu mai tasg anodd fyddai uno rhai ardaloedd a rhai sy'n ymddangos yn gyfagos ar fap. Efallai byddai etholaeth Merthyr ac Aberdar yn gweithio (ac yn wir fel na roedd hi gan mlynedd yn ol) ond sut dylid ehangu etholaeth y Rhondda?

Ta beth, fel wedes i dwi ddim wedi edrych ar y ffigurau'n fanwl, ond mae posibiliadau o etholaethau tra diddorol dan y drefn newydd.

Meurig.

Cai Larsen said...

Diolch - diddorol iawn.

Os wnes i ddeall y stori'n gywir, roedd y Ceidwadwyr yn dweud y dylai pob etholaeth fod yn agos at y cyfartaledd - neu o leiaf nad oes rheswm iddynt beidio a bod yn debyg o ran maint. Os ydi hyn yn dal bydd yr etholaethau yn edrych yn rhyfedd - does yna ddim ffordd o gadw pethau'n ddaeryddol dwt a chael phoblogaethau tebyg ym mhob etholaeth.

Mater gwleidyddol ydi'r preserved counties yn y bon - bydd yn rhaid i'r Comisiwn Ffiniau weithredu o fewn canllawiau arbennig. Am wn i bod gan y llywodraeth yr hawl i ddeddfu mewn modd sy'n diffinio'r canllawiau os ydynt am wneud hynny.

Os mai tebygrwydd nifer etholwyr ydi'r elfen fydd yn cael y flaenoriaeth - mi fydd y map yn edrych yn rhyfedd ac ni fydd etholaethau megis Mon a Maldwyn yn goroesi yn eu ffurf presenol.

Anonymous said...

Ie, dwi'n gweld y pwynt. Roedd y Ceidwadwyr fodd bynnag yn siarad mas o'u pen-olau. Byddai hafalrwydd o'r fath, er yn ddelfrydol mewn theori, yn golygu newid ffiniau mynych iawn, a thorri ar draws ffiniau naturiol fyddai'n amhoblogaidd iawn.
Er bod trefn eitha tebyg yn bodoli yn Awstralia (ac oherwydd hynny mae etholaethau yn dueddol o gael eu henwi ar ol pobl hanesyddol yn hytrach na llefydd gan eu bod mor symudol) dwi ddim yn gweld y sefyllfa ym Mhrydain yn mynd mor bell. Byddai'r Ceidwadwyr yn ffol iawn i drio israddio'r elfen bwysig o gael pethau 'daearyddol dwt', neu 'natural ties' i ddefnyddio jargon y commisiwn. Er, wrth gwrs dydyn nhw ddim o hyd yn llwyddo yn hyn o beth. Duw a wyr ar ba sail a dynnwyd ffiniau Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, neu Dde Caerdydd a Phenarth.

Meurig

Penderyn said...

Ai ymgais benodol yw hwn i sicrhau dwy sedd yn yr hen Wynedd - un o'r enw Eryri, a'r llall wedi enwi ar ol y blog - Menai! Dyna fyddai canlyniad cynlluniau'r Ceidwadwyr yn ol pob tebyg ...

Cai Larsen said...

Mi fyddai yna fwy na dwy - roedd yr hen Wynedd yn ymestyn at Gyffordd Llandudno.

Penderyn said...

Cywir yn y gorffennol - ond yn y cyfamser mae ffiniau'r hen Wynedd (preserved counties) wedi newid, a bellach mae'r cyfan o Sir Gonwy yn rhan o'r hen Glwyd!

Anonymous said...

I do not even know thе way I finiѕhed uρ here, hoωever
I thought thiѕ put up uѕеd to be grеаt.
I ԁon't realize who you are but definitely you're going to a famous blοgger if you aren't already. Cheers!
Also visit my page - loans for bad credit

Anonymous said...

It's really a cool and helpful piece of info. I am happy that you simply shared this useful information with us. Please keep us up to date like this. Thanks for sharing.
hardwood floor refinishing

Also visit my blog :: engineered hardwood flooring
Also see my web site: hardwood floors

Anonymous said...

Write more, thats all I have to say. Literally, it seems as though you relied on the video to make your point.
You definitely know what youre talking about, why waste your intelligence
on just posting videos to your weblog when you could be giving us something enlightening to read?


Also visit my site: wood floors
Also see my web page :: http://www.flooranddecoroutlets.com/hardwood-solid.html

Anonymous said...

whoah this weblog is great i really like reading your posts.
Stay up the good work! You know, a lot of individuals are searching round for this
information, you could aid them greatly.

Feel free to visit my page: hardwood floors
My webpage: hardwood floors

Anonymous said...

Hi there, just became aware of your blog through Google, and found that it is really informative.

I am gonna watch out for brussels. I'll be grateful if you continue this in future. Numerous people will be benefited from your writing. Cheers!

Stop by my web page: hardwood floors
My webpage :: hardwood flooring

Anonymous said...

This post is actually a pleasant one it helps new internet viewers, who are wishing
in favor of blogging.

My page :: read what he said

Anonymous said...

Hi, I do believe this is a great site. I stumbledupon it ;)
I'm going to revisit yet again since i have bookmarked it. Money and freedom is the greatest way to change, may you be rich and continue to help other people.

Here is my weblog: toenail fungus treatment

Anonymous said...

Usually I do not learn article on blogs, however I wish to say that this write-up very forced me to take a
look at and do it! Your writing taste has been amazed
me. Thank you, quite great post.

Also visit my blog :: toenail fungus treatment
My web page: nail fungus zetaclear

Anonymous said...

Hеllo There. I found your blοg uѕing msn.
Τhis is a νerу well wгittеn aгticlе.

I'll make sure to bookmark it and come back to read more of your useful info. Thanks for the post. I will definitely comeback.

my blog ... losing weight

Anonymous said...

I am really enjoying the theme/design of your blog. Do you ever
run into any web browser compatibility issues? A number of my blog readers have
complained about my website not working correctly in Explorer but looks
great in Opera. Do you have any solutions to help fix this
issue?

Also visit my homepage; hardwood flooring
my webpage :: hardwood floors

Anonymous said...

This website certainly has all of the info I needed concerning
this subject and didn't know who to ask.

My blog post - phoenix house cleaning

Anonymous said...

Whats up very cool blog!! Man .. Beautiful .. Superb .
. I'll bookmark your website and take the feeds additionally? I am happy to search out a lot of helpful information right here in the put up, we'd like work out extra techniques on this regard,
thanks for sharing. . . . . .

Here is my weblog maid services

Anonymous said...

Have you ever thought about creating an ebook or guest authoring on other websites?
I have a blog based on the same subjects you discuss and would love to have you share some stories/information.

I know my visitors would value your work. If you are even remotely
interested, feel free to shoot me an e mail.

Look at my web-site phoenix house cleaning

Anonymous said...

hello there and thank you for your info – I've certainly picked up something new from right here. I did however expertise a few technical issues using this website, as I experienced to reload the web site lots of times previous to I could get it to load properly. I had been wondering if your web hosting is OK? Not that I'm complaining,
but slow loading instances times will very frequently affect your placement in google and can damage your high quality score if
ads and marketing with Adwords. Anyway I'm adding this RSS to my e-mail and could look out for much more of your respective fascinating content. Ensure that you update this again very soon.

my web site ... house cleaning seattle

Anonymous said...

Simply want to say your article is as surprising.
The clarity in your post is simply spectacular and i
can assume you are an expert on this subject.
Well with your permission let me to grab your RSS feed to keep
updated with forthcoming post. Thanks a million and please carry
on the enjoyable work.

Feel free to visit my homepage ... cycle hair growth cycle

Anonymous said...

Hey there! Do you know if they make any plugins to protect against hackers?
I'm kinda paranoid about losing everything I've worked hard on.
Any tips?

my web-site: zetaclear side effects

Anonymous said...

This is usually considered a fun and effective learning method in general.
Now among the advice of your educational materials, shoring jar discover all
the things of the substitute chords. offers free online piano lessons.


Here is my web blog ... free piano chords and scales

Anonymous said...

Oils, beverages and Paleo sweets should also be used
in moderate quantities and also keep in mind that Paleo diet food list does not contain in it
all processed foods made out of dairy products, powdered milk, ice creams, cereal
grains and legumes and should be avoided. Other typical tasks were gathering wood, shelter building, digging, carrying a variety of heavy items, tool construction and dancing.
Always check your physician before making any changes
to your daily habits.

Feel free to surf to my web site :: paleo diet Acne

Anonymous said...

I dοn't even know how I ended up here, but I thought this post was good. I do not know who you are but definitely you're goіng tο a famous blogger
if уou aren't already ;) Cheers!

Feel free to visit my web blog: instant loans

Anonymous said...

When you're learning chords, you learn and study them for only One Key at a time. The sooner you memorize some chords, the easier will be for you to perform plenty of styles of music. It is very soothing to hear the sound of piano and based on such vast change of scales, a song sounds so melodious.

Stop by my site ... piano chords and scales
my web site: piano chords apologize one republic

Anonymous said...

DJ spins out on Saturday nights. Below are listed a few popular pubs
where one can chill in Mumbai. Ask your local club to run this for you.


my weblog :: free quiz answer sheets
my web site - pub Quiz and answers

Anonymous said...

It is through urine and feces that we purge our body of infection.

This will ensure that you treat the right disease when you take the medication.
** Burning Sensation While Urination.

my site :: yeast infection and Bleeding pregnancy