Friday, January 02, 2009

Sut y gall y Blaid yng Ngwynedd gael gwared o'i phlentyn siawns

Mi'r ydw i weithiau (wel yn aml) yn cael fy nghyhuddo o fod yn ddilynwr un llygeidiog i Blaid Cymru. Efallai y byddai'n ychydig o syndod i ambell un fy mod wedi derbyn cwynion gan fwy nag un aelod blaenllaw o'r Blaid oherwydd peth o'r cynnwys sy'n ymddangos yma o bryd i'w gilydd. 'Dwi hefyd wedi derbyn cwynion ac yn wir bygythiadau gan bobl o bleidiau a grwpiau eraill - felly 'tydi cadw blog fel hwn ddim yn ffordd effeithiol iawn o fod yn boblogaidd - ond dyna fo, mae yna bethau sydd angen eu dweud o bryd i'w gilydd.

Mae rhai o'r sylwadau sydd i ddilyn yn feirniadol o'r Blaid yng Ngwynedd - ond 'dwi'n mawr obeithio y byddant yn cael eu cymryd fel beirniadaeth adeiladol.

Fel mae pawb yn gwybod mae'n debyg, collodd Plaid Cymru gyfres o seddi yn Ne a Gorllewin Gwynedd yn ystod etholiadau lleol eleni. Mae llai o sylw wedi ei roi yn y wasg leol a'r blogiau sy'n ymddiddori yn y pethau hyn, mai dyma etholiadau lleol mwyaf llwyddiannus y Blaid erioed y tu allan i'r ardaloedd hynny - ac mae hynny yn cynnwys Dwyrain Gwynedd.

Roedd cyd destun ehangach i golledion y Blaid mewn rhannau o Wynedd ac roedd hwnnw'n gyd destun Cymru gyfan. Dioddefeodd y pleidiau oedd yn rheoli ar hyd a lled Cymru, ac mae rhesymau hawdd i'w hadnabod am hynny - y ffaith bod amgylchiadau ariannol yn anodd a bod y pleidiau oedd yn rheoli yn gorfod gweinyddu'r rheiny. Bydd pethau'n waeth tros y bedair blynedd nesaf, ac o ganlyniad bydd y Blaid o dan fwy o bwysau yng Ngwynedd. O safbwynt etholiadau San Steffan, mae mantais i'r Blaid fod wedi gwneud yn dda, ond methu ag ennill grym yng Ngheredigion a Chaerfyrddin. Bydd rhaid i weinyddiaethau sydd yn cynnwys y Rhyddfrydwyr a Llafur weithredu toriadau yn y ddwy sir yn y misoedd cyn etholiad cyffredinol.

Roedd y cynllun ail strwythuro ysgolion yn broblem ychwanegol yng Ngwynedd wrth gwrs. Mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith bod natur cefnogaeth y Blaid yng Ngwynedd yn ei hanfod yn wrth sefydliadol (mae rhesymau hanesyddol am hyn - ac efallai y cawn gyfle i edrych ar hynny rhywbryd), a bod hynny'n golygu ei bod yn hanfodol o safbwynt etholiadol nad ydi'r Blaid yn cael ei gweld fel un sefydliadol. Roedd y broses ymgynghori ynglyn ag ail drefnu ysgolion yn un a wnaeth i'r Blaid ymddangos yn sefydliadol

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu na ddylai'r Blaid gael ei hun mewn sefyllfaoedd lle maent yn ennill ac yn ymarfer grym - i'r gwrthwyneb. Ond mae'n golygu y dylid ymddwyn mewn ffordd arbennig pan enillir grym - fel mae'r Blaid wedi ei wneud yng Ngwynedd ers cryn gyfnod bellach. I symleiddio pethau mae'n bwysig creu'r ddelwedd ein bod yn defnyddio strwythurau sefydliadol i hyrwyddo buddiannau grwpiau o bobl sy'n ein cefnogi - a sydd yn eu hanfod yn wrth sefydliadol. I'w roi mewn ffordd arall, mae'n bwysig peidio a dangos mwy o barch at y strwythurau sefydliadol yr ydym yn eu rheoli nag ydym yn ei ddangos at y bobl sydd yn ein hethol.

'Rydym eisoes wedi edrych ar sut oedd y llanast ysgolion yn torri'n gwbl groes i'r egwyddor yma. Nid y bennod ail strwythuro ysgolion ydi'r unig esiampl o fethiant yn y cyswllt yma - mae cynllunio wedi bod yn fater cynhenus ers talwm mewn ardaloedd gwledig. Ysgolion ddaeth a phethau i fwcwl mewn aml i gymuned wledig, ond mae'r ffordd mae polisi cynllunio'r sir yn cael ei weithredu wedi bod yn erydu cefnogaeth y Blaid ers tro, ac mae'n parhau i wneud hynny.

Mae cynllunio'n bwysig - mae'n fater sy'n effeithio yn uniongyrchol ar le mae pobl yn byw, neu lle mae eu plant a'u wyrion yn byw. Mae polisiau cynllunio yn aml yn penderfynu os ydi pobl yn gallu byw yn y pentrefi lle cawsant eu magu, os ydynt yn gallu byw yn agos at gefnogaeth eu teulu estynedig - rhywbeth sy'n bwysig os ydi'r ddau riant yn gallu cael mynedoiad llawn i'r farchnad waith. Does yna prin ddim byd sy'n bwysicach i bobl na'r materion hyn.

Cyn mynd ymlaen hoffwn dynnu sylw at erthygl yn rhifyn cyfredol y Ddraig Goch gan Dafydd Iwan. Ymdrin a pholisi cenedlaethol y Blaid ar gynllunio mewn ardaloedd gwledig mae'r erthygl. Fedra i ddim anghytuno efo dim yn yr erthygl - dim. Mae'n amlinelliad o bolisi ymarferol, hyblyg ac yn bwysicach na dim, yn un ag iddo gydymdeimlad ag anghenion gwledig. Y broblem yng Ngwynedd ydi ein bod wedi gorfodi polisi cenedlaethol pobl eraill gyda gormod o arddeliad yn lleol. Mewn geiriau eraill rydym wedi dangos gormod o barch at strwythur sefydliadol hyd yn oed pan mae'n ymarfer polisi nad ydym yn cytuno efo fo. O safbwynt etholiadol mae hyn yn ymgais ar hunan laddiad. Ystyrier y stori isod er enghraifft:

Gwnaed cais am hawl i godi ty fforddiadwy yn ddiweddar gan gwpl ifanc, lleol o Drefor, Dwyfor. Mae'r cwpl a'u plentyn yn byw mewn carafan y tu ol i dy rhieni'r gwr. 'Rwan codi ty eu hunain ydi unig opsiwn ymarferol os ydyn nhw am fforddio ty addas iddyn nhw eu hunain i aml i gwpl ifanc yn y Gymru wledig. Y drefn arferol ydi eu bod yn prynu darn o dir ac yn trefnu'r adeiladu eu hunain. Gellir gwneud hyn yn rhad trwy wneud peth o'r gwaith eu hunain, cael cyfeillion sydd efo arbenigedd i wneud rhannau ohono'n rhad ac ati. Yn yr achos yma roedd y cwpl yn berffaith fodlon i ddynodi'r ty fel un fforddiadwy sy'n golygu bod cyfyngiadau sylweddol pan mae'n dod i'w werthu ymlaen yn ddiweddarach. Eisiau cartref, nid buddsoddiad oeddynt.

Roedd caniatau hawl cynllunio ar y darn tir y gwnaed cais i godi ty arno yn groes i bolisi cynllunio Cyngor Gwynedd. Efallai y dyliwn aros yma am ennyd i egluro'n fras y polisi hwnnw. Ceir rhai lleoedd dynodedig lle caniateir adeiladu. Mae'r lleoedd yma fel rheol y tu mewn i bentrefi. Mae o fewn y polisi hefyd i ganiatau adeiladau ar dir sydd yn ffinio efo'r darnau tir dynodedig.

Caniatawyd y cais yn wreiddiol gan y Pwyllgor Ardal (Dwyfor) er ei fod y tu allan i'r polisi ar y sail ei fod yn ffinio gyda darn o dir lle'r oedd ty eisoes yn cael ei godi arno. Roedd y darn tir hwnnw yn ffinio gyda thir dynodedig.

Cyfeirwyd y cais i'r Pwyllgor Canol gan y swyddog, ac fe'i gwrthodwyd oherwydd ei fod y tu allan i ganllawiau'r polisi. Pleidleisiodd y cynghorydd annibynnol lleol a chynghorydd Llais Gwynedd o blaid y cais, ond pleidleisiodd y tri aelod Plaid Cymru, a'r gweddill yn erbyn. Ni chaniatawyd y cais, ac mae'r teulu o dan sylw yn byw mewn carafan o hyd.

'Rwan, mae yna nifer o bethau i'w dweud yma. Yn gyntaf roedd penderfyniad y Pwyllgor Canol yn unol a pholisi'r Cyngor - does yna ddim amheuaeth am hynny (Mae polisi'r cyngor wedi ei yrru i raddau helaeth gan gyfarwyddiadau'r Cynulliad wrth gwrs). Ond - ac mae'n ond mawr - mae dadleuon da tros dorri'r polisi yn yr achos yma.

Yn gyntaf, fel y nodwyd mae'r safle, er ar gyrion y pentref yn ffinio efo tir lle ceir adeiladu ar hyn o bryd. Yn ail mae ffin naturiol i'r pentref - llwybr i'r fynwent - dau ddwsin o lathenni ymhellach allan o'r pentref. Yn drydydd nid oes unrhyw dir arall ar gael ar hyn o bryd i adeiladu arno yn y pentref. Dydi'r darn arall o dir dynodedig yn y pentref ddim ar werth ar hyn o bryd - a beth bynnag nid yw'n addas ar gyfer datblygiad unigol - byddai'n rhaid wrth gwmni adeiladu i'w ddatblygu. Gan nad oes unrhyw gwmniau adeiladu am fuddsoddi yn y farchnad gydag amodau fel y maent ar hyn o bryd, 'does yna ddim tir i adeiladu arno yn Nhrefor, ac felly ni all Trefor ddatblygu.

'Rwan mae yna geisiadau am hawl cynllunio yn cael eu gwneud sydd ymhell y tu allan i'r polisi, a lle nad oes dadl tros dorri'r polisi. Oddi tan yr amgylchiadau hynny, nid oes dewis mewn gwirionedd ond gwrthod. Byddai methiant parhaus i gydymffurfio a pholisiau cynllunio'r Cynulliad yn gallu arwain at golli'r hawl i reoli'r broses yn ei chyfanrwydd - a byddai hynny'n drychineb i gymunedau gwledig yng Ngwynedd.

Ond, nid yw'r achos 'dwi wedi ei amlinellu - ynghyd ag aml i achos arall yn bell y tu allan i'r polisi. Neu i roi'r peth mewn ffordd mwy rhesymegol - mae'n weddol hawdd creu naratif effeithiol i gyfiawnhau torri'r polisi.

Dylid torri'r polisi pan mae gwneud hynny yn ateb gofynion lleol, a phan ei bod yn bosibl cyfiawnhau hynny. Mae dau reswm am hyn.

Ymwna'r cyntaf a gwleidyddiaeth etholiadol - mae'n llesol yn etholiadol i'r Blaid godi dau fys ar reolau sefydliadol, ac mae'n bwysicach iddi gael ei gweld fel plaid sy'n fodlon troi pob carreg i roi cymorth i bobl leol.

Ymwna'r ail a bod yn driw i bolisiau cenedlaethol ni ein hunain - maent yn llawer callach na'r rhai cenedlaethol presenol, a dylid gwneud pob dim posibl i wneud i'r ffordd mae'r gyfundrefn cynllunio yn gweithredu yn y llefydd yr ydym yn eu rheoli, neu gyda dylanwad ynddynt, mor debyg a phosibl i'n polisiau cenedlaethol ni ein hunain. Mae gweithredu fel hyn yn rhesymegol, yn gyson, yn llesol i'r Blaid ac yn rheoli'r risg o gael ymyrraeth o'r tu allan. 'Dydi plesio swyddogion cyflogedig ddim yn rhan o'r cyfrifiad yma. Pwrpas a dyletswydd swyddogion cyflogedig ydi gwireddu ewyllus cynghorwyr etholedig - nid y gwrthwyneb.

Yn anffodus mae tueddiad y Blaid yng Ngwynedd i ganiatau i'w delwedd ddatblygu i fod yn un o blaid sefydliadol, wedi creu tir gwleidyddol gwag, ac mae hwnnw wedi ei lenwi gan Lais Gwynedd. I'r graddau hynny creadigaeth y Blaid ydi Llais Gwynedd - rhyw fath o blentyn siawns os y mynnwch - un o ganlyniadau anffodus posibl gweithredu'n amhriodol.

'Dwi ddim yn credu bod dyfodol hir dymor i Lais Gwynedd - dydi hi ddim yn bosibl creu plaid wleidyddol trwy ddod ag amrediad eang o elfennau gwleidyddol gwrthnysig at ei gilydd. Mae'n ddigon anodd weithiau i bleidiau sy'n cynnwys pobl sydd a llawer iawn yn gyffredin yn wleidyddol gadw ar yr un llwybr, heb son am grwp sydd ond yn gytun ynglyn a'r hyn nad ydynt yn ei hoffi.

Mater cymharol fach felly ar un olwg ydi 'delio' a Llais Gwynedd - eu hamddifadu o'u tir gwleidyddol. Golyga hyn newid y ddelwedd sydd i'r Blaid yn rhannau gwledig y sir - ac mae hynny yn ei dro yn golygu addasu rhyw gymaint ar y ffordd yr ydym yn rheoli - yn arbennig felly wrth ddelio a materion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl.

'Dwi ddim eisiau rhoi'r argraff nad ydwyf yn sylweddoli bod rhaid gwneud rhai pethau amhoblogaidd - 'does yna ddim dewis o dan yr amgylchiadau presennol - mi fydd yna byllau nofio yn gorfod cau, a thai hen bobl, a thoiledau. Bydd rhaid i pob cyngor wneud y math yma o beth yn yr amgylchiadau argyfyngys sy'n bodoli mewn llywodraeth leol ar hyn o bryd. Ond mae llawer iawn y gellir ei wneud i newid delwedd y Blaid yn lleol lle nad oes oblygiadau cyllidol. Mae hyn yn arbennig o wir am faes cynllunio.

Un pwynt bach olaf - mae hefyd yn bwysig i droi pob carreg er mwyn sicrhau bod y polisi cenedlaethol yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth y Cynulliad, a bod y polisi hwnnw yn cael ei adlewyrchu yng nghyfarwyddiadau'r Cynulliad.

31 comments:

rhydian fôn said...

Cytuno'n llwyr blogmenai, ac efallai y dylid ychwanegu ein bod ni fel Plaid wedi cymeryd cefnogaeth yr ardaloedd gwledig yn ganiataol. Wrth edrych yn ol, roedd llwyddiant Llais Gwynedd mewn sawl ardal yn anochel - mae colli ysgol lleol neu cynlunio yn faterion pwysig a personol i bobl, na ellir ei ddarbwyllo gan gyfeirio at bolisi cenedlaethol.

Nid wyf yn credu i ti bwysleisio digon ar y tyndra rhwng etholaethau Seneddol Arfon a Dwyfor-Meirionnyd - y mater trefol v gwledig y cyfeiriais ato yn ddiweddar. Wedi'r cwbl, 9% o'r bleidlais yn Arfon gafodd Llais Gwynebdd, ond roeddent 2-3% yn unig y tu ol i Blaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd. Rhaid meddwl am hyn wrth ail-ystyried polisi.

Er fy mod yn cefnogi polisiau Plaid
Cymru, rwyf wedi bod yn feirniadol iawn o gyfarwyddid uwch-swyddogion y cyngor ar bob pwnc, a'n anhapus pan mae Grwp Cynghorwyr y Blaid yn rhoi gormod o sylw i'r cyfarwyddid.
Bydd y broblem yn gwaethygu yn fuan, gan fod ail-strwythuro diweddaraf y Cyngor wedi cael gwared o nifer o swyddi polisi, a'r bobl sydd yn deall eu pynciau. O ganlyniad, bydd polisi wedi ei lunio gan uwch-swyddogion sydd heb gefndir yn eu maes - yn arwain at benderfyniadau annoeth.

Y broblem gyda anwybyddu polisi yw ei fod yn aml yn mater o gyfraith. Byddai anwybyddu polisi yn golygu fod y Cyngor yn y llys, yn talu costau enfawr. Mae grwp yn arwain cyngor yn ofni hyn - beth yw'r ateb
?

menaiblog said...

Dau bwynt Rhydian.

Mae'r hollt trefol / gwledig yn un sydd yn bodoli yng Ngwynedd. Mae etholiadau yn Arfon yn cael eu hennill a'u colli ar stadau tai mawr Bangor a Chaernarfon a'r pentrefi mawr cyfagos. 'Dydi cynllunio nag ysgolion ddim yn faterion pwysig mewn lleoedd felly. Hefyd bu gogwydd sylweddol tros y Gymru drefol yn erbyn Llafur yn yr etholiadau lleol diwethaf, ac i'r graddau hynny roedd roedd Arfon yn dilyn patrwm ehangach.

O safbwynt achos llys y cwestiwn ydi pwy sydd am fynd a'r cyngor i gyfraith? Os mai'r Cynulliad ydi'r ateb, efallai ei bod werth achos llys ar achos ymylol - byddai hyn yn dangos i'r cyhoedd o leiaf mor anhyblyg ac anaddas ydi'r polisiau presenol - a byddai'n dangos bod y cyngor gyda'i ddwylo wedi eu clymu.

Gyda llaw - oes yna gyngor yng Nghymru wedi cael ei hun yn y llys am faterion cynllunio.

rhydian fôn said...

Ti'n iawn wrth gwrs - be' dwi'n tanlinellu yw mae achosion llys ac ati mae'r cyngor ofn. Mae llythyren deddf yn dweud ABC, a felly mae swyddogion yn dilyn yr ABC. Mae unrhyw grwp sydd yn arwain cyngor angen meddwl cyn gwrthod gwneud ABC, rhag ofn.

Ond dwi yn cytuno fod angen sialens yma. A mae rhaid i gynghorwyr peidio a gwrando ar uwch-swyddogion am bopeth. Eu swydd nhw yw gwneud y gorau i'r sîr o fewn canllawiau deddfwriaeth yn unig. Am un peth, dyma pam mae angen sustem craffu annibynol a chyngor annibynol i gynghorwyr,

rhydian fôn said...

Wedi cymeryd brec bach i ystyried dy ddadlam y trefol/gwledig blogmenai. Ar y pwynt yma, rhaid i fi anghytuno.

Fel yr wyt yn dweud, mae'r hollt yma yn bodoli ar draws Gwynedd, ond mae'n codi mwy yn Nwyfor-Meirionnydd. De Arfon (gan gynnwys y ward lle dwi yn byw) yw'r ardal gwledig - mae'r rhan fwyaf yn ardal y gellir ei ystyried yn drefol. Heblaw am Porthmadog a Dolgellau, mae Dwyfor-Meirionnydd yn wledig.

Cyn i unrhywun fy nghamddeall, nid wyf yn dadlau y dylid israddio anghenion Dwyfor-Meirionnydd. Yr hyn dwi yn ceisio tanlinellu ydi fod rhaid i'r Blaid ystyried agenda etholiadol i'r ardaloedd ar wahan, yn lle ceisio ffurfio polisi ar draws Gwynedd. Mae Gwynedd yn sîr mawr, gyda amgylchiadau gwahanol iawn o un pen i'r llall.

Oes gen ti unrhyw syniad am hyn?

menaiblog said...

Mae'r rhan fwyaf o bobl Arfon yn byw mewn wardiau trefol - ond mae rhai wardiau gwledig.

Mae'r rhan fwyaf o bobl Meirion Dwyfor yn byw mewn wardiau gwledig - ond mae rhai yn byw mewn wardiau trefol.

Fel mae'n digwydd cafodd y Blaid amser caled yn nifer o wardiau trefol Dwyfor / Meirion - yn arbennig ym M

hwllheli ac ym Mlaenau Ffestiniog. 'Roedd yna amgylchiadau arbennig yn y ddwy dref.

rhydian fôn said...

Dyna un ffordd o edrych ar bethau blogmenai. Ffordd arall fyddai mynnu bod Blaenau Ffestiniog yn dref fach o fewn ardal gwledig, tra mae bron yr holl o Arfon yn perthyn i'r rhwydwaith Caernarfon-Bangor.

Hynny yw, mae nifer o wardiau De Arfon yn bentrefi lloeren i Gaernarfon, ac ynglhwm yn ei twf. Mae pentrefi a trefi bach Dwyfor-Meirionnydd yn rhanu cyswllt
fel rhan o rwydwaith economaidd gwledig o bentrefi a threfi bach.

Nid oes synnwyr mewn datblygu maniffesto wahanol i'r ddwy ardal. Ond beth am ddatblygu maniffesto trwy bwyllgor wedi ei ffurfio o bwyllgorau etholaeth yr ardaloedd, yn lle fod un neu ddau o awduron yn unig?

Dyfrig said...

Dwi'n Gynghorydd Plaid Cymru sydd yn digwydd eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio Canolog, felly does dim modd i mi fod yn trafod engrheifftiau penodol. Ond dwi yn anghytuno yn llwyr gyda byrdwn dy neges di, Blogmenai. Ti'n dadlau y dylid bod yn barod i dorri polisi cynllunio, a hynny er mwyn sicrhau mantais etholiadol i ni fel plaid. I mi, mae'r syniad hwnw yn foesol wrthyn, ac yn ddinistriol i'r Cyngor.
Mae'r syniad yn foesol wrthyn oherwydd fy mod i'n credu yn gryf mewn sicrhau tegwch a chwarae teg i bawb, beth bynnag fo eu sefyllfa. Yr unig ffordd o wneud hyn yw drwy fabwysiadu set o reolau, a glynnu at y rheolau hynny yn gaeth. Fedrwn ni ddim dechrau dweud bod y rheolau yn berthnasol mewn un pentref, ond nid mewn un arall. Ti wedi son ar y blog yma am y "Gombeen Man" Gwyddelig. Petai Plaid Cymru yn dechrau rhoi caniatad cynllunio i bobl er mwyn ennill mantais wleidyddol, yna sir y Gombeen Man Cymreig fyddai Gwynedd.
Mae 'na rai engrheifftiau lle mae gan Gynghorwyr le i ddehongli polisi, ac yn yr achosion hyn, dwi'n credu y dylid rhoi caniatad cynllunio i unigolion lleol cyn amled a sy'n bosib. Fy mhrofiad personol i yw bod hyn yn digwydd bron yn ddi-eithriad - ac bod yr awydd yma i roi'r hawl i bobl leol adeiladu tai yn ddyhead sydd yn torri yn llwyr ar draws ffiniau pleidiol.
Ond mae'r ceisiadau sydd yn cyrraedd y Pwyllgor Cynllunio Canolog yn rhai sydd yn amlwg, ddiamheuaeth, gwbl groes i bolisi. Mae'n ddigon hawdd i flogiwr eistedd adref a chreu "naratif" sydd yn cyfiawnhau rhoi caniatad cynllunio i dy sydd tu allan i'r ffin ddatblygu. Ond mae dy ddadl di yn osgoi'r ffaith bod Pwyllgor Cynllunio Canolog yn gorff statudol, sydd a chyfrifoldebau cyfreithiol. Mae'r gwaith 'da ni'n ei wneud yn agosach at waith barnwrol na dim arall. Fel barnwyr neu reithgor, ein swyddogaeth ni yw penderfynnu os yw'r mater sydd o'n blaenau yn gyfreithiol, a nid os yw'n gyfiawn. Fe elli di ddadlau nad yw hyn yn beth dymunol, ond dyma'r cyfrifoldeb sydd yn cael ei roi ar ein ysgwyddau gan ddeddf gwlad. Dyw "naratif" yn da i ddim i ni - er mwyn caniatau cais, rhaid i ni gofnodi penderfyniad manwl, sydd yn cyfeirio at yr union gymalau o fewn yr union bolisiau sydd yn berthnasol.
A dyma sydd tu ol i fy ail bwynt i. Mewn sawl ystyr, mae Pwyllgor Cynllunio Canolog yn gwbl wahanol i bob pwyllgor arall ar y Cyngor. Mae'n rhaid i ni gynnal y pwyllgor yn ol deddf gwlad, ac mae'n rhaid iddo weithredu o fewn canllawiau cyfreithiol llym. Os ydym ni yn caniatau cais cynllunio sydd yn groes i bolisi, mae gan y Cynulliad yr hawl i wyr-droi ein penderfyniad. Os yw hynny'n digwydd yn ddigon aml, fe fydd y Cyngor yn colli rheolaeth dros holl faes cynllunio - hynny yw, fe fyddai pob cais cynllunio yng Ngwynedd yn cael ei benderfynnu gan swyddfa yr arolygydd yng Nghaerdydd. A creda fi, petai hyn yn digwydd, fe fyddai 'na lawer iawn yn fwy o drigolion Gwynedd yn cwyno eu bod nhw'n cael cam.

rhydian fôn said...

Dyfrig: Fel y dywedais i blogmenai, mae deddf gwlad yn rhywbeth na fedrir ei anwybyddu heb boeni am achos cyfreithiol, yn arwain at reolaeth yn symud i lywodraeth canolog.

Ond rhaid cofio nad yw tegwch yn golygu yr un peth i bawb. Mae anghenion gwahanol mewn gwahanol ardaloedd -tegwch yw nodi hyn, ac ymateb i sefyllfa ar sail angen lleol. Hawdd yw dweud hyn wrth gwrs, ond rhaid sicrhau ein bod yn ymdrechu i wneud hyn lle mae'n bosib o fewn canllawiau deddf gwlad.

Dyfrig said...

Ym maes cynllunio, mae deddf gwlad yn gwbl glir. Ni ellir caniatau datblygiadau mewn cefn gwlad agored, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol - sef bod y datblygiad yn gwbl angenrheidiol i alluogi gweithiwr amaethyddol neu weithiwr coedwigaeth wneud ei waith. Os nad yw'r datblygiad yn cydymffurfio a'r maen prawf yma, yna mae'n groes i bolisi cynllunio cenedlaethol. Does gen i, fel cynghorydd Gwynedd, ddim mymrun o ddylanwad dros y ffaith yma.
Yn bersonol, dwi ddim yn cytuno a'r polisi. Fe hoffwn ei weld yn cael ei newid, er mwyn ei gwneud hi'n haws i drigolion cefn gwlad godi tai. A dwi wedi pwyso ar y Cynulliad i wneud hyn, fel rhan o ymgynghoriad diweddar i'r maes, ac yn fy ngholofn olygyddol yn Barn.
Ond hyd nes y bydd y polisi wedi ei newid gan Gaerdydd, mae dyletswydd statudol gan y Cyngor i barchu'r polisi. Mae rhai Cynghorwyr yn credu mai'r ffordd ymlaen yw drwy dorri'r polisi yn gyson, fel rhyw fath o weithred o anufudd-dod sifil. Ond dwi'n credu bod dilyn y trywydd yma yn ddinistriol. Yn un peth, mae'n ffordd fympwyol o lunio polisi, sydd yn rhoi mantais annheg i drigolion Cynghorwyr gwrthryfelgar - neu lwgr. Ond fel dwi wedi ei nodi uchod, mae yn strategaeth hunan-ddinistriol, a fydd yn arwain yn y pen draw at drosglwyddo grym yn y maes yma o Gaernarfon i Gaerdydd.
Mae angen newid rheolau cynllunio, er mwyn dod o hyd i atebion gwahanol ar gyfer yr ardaloedd gwledig/ardaloedd Cymraeg ei hiaith. Ond mae'n rhaid i'r newid yma ddod o Gaerdydd - does dim diben gweld bai ar Gynghorwyr am eu bod nhw'n gwneud eu gwaith mewn dull cydwybodol a chyfreithiol.

rhydian fôn said...

Digon teg Dyfrig, ond mae dy ddisgrifiad o'r sefyllfa yn tanlinellu anhyblygrwydd y canllawiau y mae cynghorwyr yn eu dilyn. Os felly, a fyddai'n gwneud gwahaniaeth os y byddai'r Cynuliad yn cymeryd materion cynllunio i Gaerdydd?

Os na fyddai, rhaid bod ceisio gwrthryfela - gan bryfocio achos llys - yn werth gwneud i ddangos i drigolion Gwynedd faint mor anhyblyg mae'r sustem. Wedi'r cwbl, yr unig beth i'w golli fyddai pwerau cynllunio na allem ddefnyddio y tu hwnt i ddeddf gwlad.

Os y byddai, rhaid bod rhyw fantais i gael pwerau cynllunio o fewn llywodraeth leol. Os oes mantais, rhaid bod hyn i'w wneud a rhyw fath o hawl i ddewis mewn materion lleol. Os felly, rhaid sicrhau ein bod yn defnyddio unrhyw ddisgresiwn i'r eithaf, gan wneud yn sicr fod pobl yn gwybod hyn.

menaiblog said...

Dyfrig - ti'n dweud y canlynol:

Ti'n dadlau y dylid bod yn barod i dorri polisi cynllunio, a hynny er mwyn sicrhau mantais etholiadol i ni fel plaid. I mi, mae'r syniad hwnw yn foesol wrthyn, ac yn ddinistriol i'r Cyngor. Mae'r syniad yn foesol wrthyn oherwydd fy mod i'n credu yn gryf mewn sicrhau tegwch a chwarae teg i bawb, beth bynnag fo eu sefyllfa.

Mae hyn yn ddadlennol i'r graddau ei fod yn adrodd cyfrolau am y bwlch sydd wedi agor rhwng gwleidyddion lleol a chenedlaethol o pob lliw a'u hetholwyr. I'r rhan fwyaf o bobl gyffredin - hynny yw yr etholwyr - y peth anheg ydi nad ydi pobl yn gallu fforddio ty yn eu pentrefi eu hunain ac yn gorfod byw mewn carafan. Dyna sy'n foesol wrthyn i'r rhan fwyaf o bobl.

'Dwi wedi ail ddarllen fy narn, a fedra i ddim gweld unrhyw beth sy'n ymdebygu i argymell gwleidyddiaeth gombeen. Gwleidyddiaeth gombeen ydi trefn lle mae cynrychiolwyr unigol yn effeithio ar brosesau llywodraethol er budd ei etholwyr ac yn uniongyrchol, neu'n anuniongyrchol ei fudd ei hun.

Argymell trefn fwriadus o wthio'r rheolau fel bod deilliannau'r broses gynllunio yng Ngwynedd yn dod ychydig yn nes at bolisiau cenedlaethol y Blaid ydw i - a 'dwi'n meddwl bod hynny'n eithaf clir.

Ti'n dweud nad wyt ti'n cytuno efo'r rheolau cynllunio presenol - ond nad oes dewis gan y Pwyllgor Canolog ond ymddwyn fel y ddynas honno yn Little Britain - 'Computer says no'

Os felly beth ydi'r broblem efo profi'r drefn a chaniatau ceisiadau nad ydynt crwydro ymhell oddi wrth y rheoliadau? Os nad ydi'r Cynulliad yn dod yn ol atat ti wedi creu hyblygrwydd oddi mewn i'r drefn. Os ydyn nhw yn dod yn ol pob tro, mae'n haws i ti gyfiawnhau dy anhyblygrwydd.

Dyfrig said...

Fe wna i ateb Rhydian gyntaf, cyn dod at Blogmenai.

Mae 'na elfen o hyblygrwydd yn perthyn i'r drefn gynllunio, ac mae gan Gynghorwyr waith pwysig i'w wneud yn pwyso a mesur ceisiadau sydd ddim yn rhai du a gwyn, lle mae elfen o dehongli rheolau. Petai'r hawl i benderfynnu ceisiadau cynllunio yn cael eu trosglwyddo i Gaerdydd, mae'n deg dyfalu y byddai llawer iawn o geisiadau 50/50 yn cael eu gwrthod, yn hytrach na'u caniatau.
Ond mae Blogmenai yn cyfeirio yn benodol at geisiadau cynllunio sydd wedi eu cyfeirio i'r pwyllgor canolog. Mae'r ceisiadau hyn - fel arfer - yn gwbl ddu-a-gwyn. Maent yn torri un o reolau sylfaenol cynllunio, gan eu bod - fel arfer, eto - yn ymwneud a chais i godi ty tu allan i ffin ddatblygu pentref. Fyddai trosglwyddo pwerau i Gaerdydd ddim yn cael rhyw lawer o effaith ar y rhain, efallai. Ond byddai yn cael effaith sylweddol ar geisiadau cynllunio mwy amhwys, lle mae tueddiad gan gyngor Gwynedd i ganiatau lle bo hynny'n bosib.

Dyfrig said...

Blogmenai,

Dwinnau'n credu bod y sefyllfa bresennol, lle mae pobl yn methu a chodi tai yn eu cymunedau, yn un sydd yn foesol wrthyn. Ond nid y fi, fel cynghorydd lleol, sydd yn gyfrifol am hyn. Gweithredu rheolau sydd wedi eu llunio yng Nghaerdydd ydw i, a dim arall. Dwi ddim yn hapus am hyn, ond y ffaith sylfaenol yw mai dyma sut mae llywodraeth leol yng Nghymru yn gweithio. Mae llywodraeth ganol yn caniatau y mymrun lleiaf o rym i nim cyn belled ac ein bod ni'n gwneud penderfyniadau sydd yn syrthio o fewn eu canllawiau hwy. Does gennym ni fel cyngor ddim y grym i wneud fel y mynnom. Yn amlach na pheidio, gwaith y Cyngor yw dewis rhwng A,B neu C. Os ydym ni'n penderfynnu peidio a dewis A, B, neu C, a llunio dewis D, mae perygl y bydd Caerdydd yn diddymu ein hawl ni i wneud y penderfyniad o gwbl. Mae'n sefyllfa drist ac anghyfiawn, ond dyna realiti llywodraeth leol. Drwy weld bai ar y Cyngorwyr am hyn, ti'n gwneud yr un cangymeriad a Llais Gwynedd.

O ran y Gombeen, dwi ddim yn dadlau bod yr hyn ti'n ei awgrymu yn wleidyddiaeth Gombeen. Yr hyn dwi yn ei ddadlau yw y byddai yn agor y drws i wleidyddiaeth gombeen. Am bob cais i dorri polisi am resymau anrhydeddus - hynny yw, i sicrhau ty fforddiadwy - fe fyddai 'na hanner dwsin o geisiadau yn dod ger bron am resymau llwgr.

O ran dy bwynt olaf, ynglyn a "phrofi'r system", dwi'n credu mod i wedi ateb hwn yn barod. Os oes digon o geisiadau yn cael eu caniatau yn groes i bolisi, ac os yw'r Cynulliad yn gwyr-droi ein penderfyniad yn ddigon aml, fe fyddwn ni'n colli ein hawl i benderfynnu ar unrhyw gais cynllunio. A fel dwi wedi ei nodi yn fy ateb i Rhydian, uchod, fe fyddai hynny yn arwain at sefyllfa llawer iawn gwaeth.

marc jones said...

Dwi'm yn credu fod Dyfrig yn gwbwl gywir drwy ddweud nad oes gan gynghorwyr unrhyw hawl i benderfynnu ar y drefn gynllunio. Yma yn Wrecsam, rydan ni wrthi'n llunio Cynllun Datblygu Lleol fydd yn para tan 2021.
Prif bwyslais cynghorwyr y Blaid yn lleol ydi ceisio dad-wneud y polisi blaenorol, oedd yn gyfrifol am ganiatau i dros fil o dai y flwyddyn gael eu hadeiladu.
Er nad ydan ni am ganiatau adeiladu yng nhefn gwlad - gyda'r peryglon mae hynny'n codi o ran "urban sprawl" - rydan ni wedi gwthio am bolisi eithriadol mewn ardal wledig fod hyd at 10 ty yn medru cael eu codi y tu allan i ffiniau pentre neu dre *os ydyn nhw'n dai fforddiadwy*.
Fedrith Gwynedd fabwysiadu'r un math o bolisi er mwyn sicrhau (a) fod y teulu mewn ciarifan yn cael cartref a (b) nad oes datblygiadau o dai moethus yn britho cefn gwlad?

Tai fforddiadwy ydi'r her fwya yn y Gymru wledig a threfol, dim amheuaeth. Falle'i bod hi'n fwy amlwg yn wledig ond mae'r diffyg tai cyngor yn y trefi a phentrefi mawr yn golygu fod pobl yn byw mewn fflatiau anaddas, teuluoedd ar chwal a hyn i gyd yn creu tensiynau mawr.

rhydian fôn said...

Fel yr oeddwn yn tybio Dyfrig, ti yn cytuno fod rhywfaint o hyblygrwydd lle nad yw'r materion yn ddu a gwyn. Wyt ti'n credu ein bod ni, fel Plaid, yn tynnu digon o sylw at hyn? I raddau, mae blogmenai yn gywir fod Plaid Cymru wedi dod i ymddangos yn sefydliadol - gan osod rheolaethau yn gyntaf. A oes lle i ni wneud defnydd gwell o'r adegau pan mae materion yn cael eu trin gyda hyblygrwydd - er mwyn dangos ein bod, lle mae'n gyfreithiol, yn hyblyg?

Hefyd, a wyt ti yn gyfforddus bod disgresiwn yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf? Yn amlwg, lle mae rheolaethau a cosbau llym, mae arweinwyr Cyngor yn gwynebu temptasiwn i 'chwarae'n saff' o ran dehongli llythyren y ddeddf, a wedi eu cynghori gan swyddogion a cyfreithwyr y Cyngor i wneud hyn. Wyt ti yn meddwl ein bod ni yn chware'n rhy saff - oes lle i gymeryd risg weithiau?

menaiblog said...

Diolch Marc - mae'r wybodaeth yna'n ddiddorol a pherthnasol iawn i'r ddadl yma.

Dyfrig - mae gen i ofn bod rhaid i ni anghytuno ynglyn a pham mor barod, neu amharod i fentro ypsetio'r Cynulliad y dylai cyngor fod. Dy ddadl di ydi na ddylid cicio yn erbyn y tresi o gwbl, mewn unrhyw ffordd rhag ofn i'r worse case scenario ddigwydd. 'Dwi ddim yn credu bod y safbwynt yma'n gredadwy.

Yn ol at y gombeen. 'Dydi'r ddadl llifddorau, na un ynglyn a llygredd ddim yn rhai rhesymegol.

Doedd yna ddim llygredd mewn llywodraeth leol yng Ngwynedd yn ystod y dyddiau hynny pan nad oedd rheoliadau canolog mor gaeth a phan roedd mwy o ddisgresiwn o lawer gan gynghorwyr unigol. Mae'r un peth yn wir am y rhan fwyaf o'r Gymru wledig. Codi bwganod ydi honna mae gen i ofn.

'Dwi ddim yn deall y ddadl llifddorau chwaith. Dydi'r ffaith dy fod yn addasu rhyw gymaint ar yr hyn sydd yn dderbyniol am nad ydi'r drefn bresenol yn gweithio ddim yn golygu bod pob dim yn fwyaf sydyn yn dderbyniol.

Dyfrig said...

Fe wna i ateb pob neges yn ei thro, unwaith eto.

Marc,
Mae gan Gwynedd polisi eithrio gwleidig mewn lle yn barod. O dan y drefn cynllunio yng Ngwynedd, mae modd caniatau ceisiadau cynllunio sydd tu allan i'r ffin ddatblygu, cyn belled a'u bod nhw yn gyfochrog (hynny yw, bod y plot tir yn cyffwrdd y ffin) ac eu bod yn fforddiadwy - a nad oes tir arall ar gael o fewn ffiniau'r pentref.
Mae'r achosion mae Blogmenai yn eu crybwyll yn hollol wahanol. Mae'r ceisiadau cynllunio sydd yn cyrraedd y pwyllgor cynllunio canolog yn ymwneud a tir sydd ddim yn cydymffurfio a'r tri maen prawf uchod. Fel arfer, mae nhw'n geisiadau i godi tai ymhell tu allan i'r ffin ddatblygu, mewn cefn gwlad agored.

menaiblog said...

Dyfrig - dydw i ddim yn son am unrhyw achos sydd yng nghanol y wlad - son am le sydd oddi mewn i bentref ydw i.

Dyfrig said...

Rhydian,
Mae fy mhrofiad i wedi ei selio ar wasanaethu ar bwyllgor cynllunio Arfon, a'r pwyllgor cynllunio canolog. Ac fe fyddwn i'n dadlau bod y rhan fwyaf o gynghorwyr yn ymladd yn galed iawn i gael caniatad i'w hetholwyr lleol gael codi tai newydd. Os oes man gwan, yna y tueddiad i fod yn wrthwynebus i ddatblygwyr yw hwnw, a gall cael caniatad i godi stad fawr o dai newydd - hyd yn oed os oes cyfran helaeth ohonyn nhw yn fforddiadwy - fod yn dalcen caled. Ond adlewyrchu dymuniadau eu hetholwyr mae'r Cynghorwyr hyn fel rheol, gan fod datblygiadau mawr yn dueddol o fod yn amhoblogaidd.
Felly i ateb dy gwestiwn, dwi'n credu bod cynghorwyr Plaid Cymru - fel pob plaid yng Ngwynedd - yn gweithio yn galed iawn i geisio sicrhau bod unigolion lleol yn cael yr hawl i godi tai. Ac er mwyn gwneud hyn, maent yn gwthio'r ffiniau yn gyson. Ond nid gwthio'r ffiniau yw'r hyn y mae Blogmenai yn son amdano. Ceisiadau cynllunio sydd yn amlwg yn torri rheolau cenedlaethol yw'r rhai sydd yn dod ger bron y pwyllgor canolog, fel rheol.
Er tegwch hefyd, mae'n rhaid nodi bod swyddogion Gwynedd yn gyfrifol am wthio'r ffiniau. Mae polisiau megis tir eithrio gwledig a chreu pentrefi gwledig yn syniadau arloesol, ac mae swyddogion Gwynedd wedi brwydro yn galed i gael y polisiau hyn wedi eu derbyn gan Gaerdydd.

Dyfrig said...

Blogmenai,
Fe gei gredu beth lici di, ond mae'r bygythiad yn un cwbl gredadwy. A nid y "worst case scenario" yw'r unig ffactor i'w ystyried. Ar y funud, mae Gwynedd ar fin mabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol, pen-llanw 9 mlynedd o waith. Mae'r CDU yn cynnwys nifer o bolisiau arloesol, fel dwi wedi eu nodi eisoes, ac mae Gwynedd wedi gorfod brwydro i gynnwys nifer o'r polisiau blaengar hyn. Yn y pen draw, fe ennillodd Gwynedd y frwydr gyda'r arolygydd, ond un o'r ffactorau a gyfranodd at y fuddugoliaeth hon oedd y ffaith fod Gwynedd yn cymeryd y cyfrifoldeb o blismona ein rheolau cynllunio o ddifri. Petai Gwynedd a record o ganiatau nifer helaeth o geisiadau sydd yn groes i bolisi, yna fe fyddai wedi bod yn llawer anoddach i ni ennill y frwydr dros bentrefi gwledig - un o bolisiau pwysicaf Gwynedd.
O ran y Gombeen, mae pob un cynghorydd sydd yn dod o flaen y Pwyllgor Cynllunio Canolog erbyn hyn yn defynddio'r angen am "dai fforddiadwy" fel dadl dros ganiatau, hyd yn oed mewn achosion pan fo'r tai "fforddiadwy" hyn yn blasdai enfawr. Caniatawyd un o'r rhain yn ddiweddar, ac oherwydd ei leoliad fe fydd werth o leiaf miliwn o bunnoedd wedi iddo gael ei gwblhau. Nid gwamalu yw hyn - mae yn rhywbeth sydd wedi digwydd o fewn y chwe mis diwethaf. Dwi'n fwy na bodlon datgelu manylion mewn e-bost, os y byddai hyn yn helpu dy ddarbwyllo.
O ran dy neges ddiweddaraf di, mae'n amhriodol i mi drafod gormod ar gais unigol. Ond yng nghyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol, mae unrhywbeth sydd tu allan i ffin datblygu pentref yn cael ei ystyried yn gefn gwlad agored, ac mae yn nesaf peth at amhosibl caniatau tai arno. Does dim ots os wyt ti 100 llath o'r ty agosaf, neu ar ben y Wyddfa, mae popeth tu allan i'r ffin datblygu yn cael ei drin yr un fath.

Alwyn ap Huw said...

O dderbyn pwynt Dyfrig nad oes gan y pwyllgor cynllunio unrhyw ddewis ond i weithredu llythyren y gyfraith, mae pwynt Cai yn parhau i fod yn un ddilys. Mae'r ffaith bod y pwyllgor wedi gwrthod caniatâd ac yn gorfodi teulu ifanc (gorau oll os oes babi yn y stori) i few mewn carafán trwy'r gaeaf oer yn fel; ar fysedd y gwrthbleidiau. A gwaeth peidio â beio'r gwrthbleidiau am ddefnyddio'r naratif yma i'w dibenion gwleidyddol eu hunain - dyma'n union be fyddai Plaid Cymru yn gwneud pe bai hi yn wrthblaid.

Pam na all aelodau'r pwyllgor gwrthod y caniatâd o dan brotest gan wneud yn glir mae biwrocratiaid / llywodraeth Lloegr / y Blaid Lafur yng Nghaerdydd neu unrhyw un arall werth ei feio wedi gorfodi'r penderfyniad hurt ar y pwyllgor? A gwneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr a'r wasg yn gwybod hyn!

Mae cyngor Conwy i'w gweld i ddefnyddio'r dacteg yma yn rheolaidd - bron pob wythnos bydd hanesyn yn y North Wales Weekly News lle bydd y cynghorwyr yn cwyno bod y Cynulliad wedi gorfodi nhw i wneud toriadau amhoblogaidd neu i god costau yn erbyn eu hewyllys.

Sional said...

Fel y deallaf hyd yma, mae'n ymddangos fod Pwyllgor Cynllunio'r ardal wedi cefnogi'r cais. Sut felly mae Dyfrig yn credu fod ganddo ef a'i gyd aelodau fwy o hawl a gwybodaeth neilltuol i benderfynnu gwrthod yr hyn sydd yn cael ei gymeradwyo gan aelodau lleol sydd a mwy o wybodaeth am yr ardal na aelod/au ymhell o'r safle?

Ai dim y gwir yw mae pypedau ydi aelodau y pwyllgor cynllunio canol i swyddogion sydd am gael amser distaw wrth beidio codi cnex hefo'r sefydliad.

.Os nad wrth gwrs fod y cais yn berthnasol i'w hardaloedd arbennig hwy!!!!

rhydian fôn said...

Ar y pwynt yma, rwyf yn cytuno gydag Alwyn. Mae o yn ymddangos i mi nad ydi'r Blaid yng Ngwynedd yn ei gwneud hi yn glir iawn mae biwrocratiaeth o'r cannol sydd yn creu'r anhawster. Os felly, ydym ni yn creu problemau i ni ein hunain? Beth wyt ti'n ei feddwl Dyfrig?

Sionai, fel mae Dyfrig wedi esbonio, mae datblygiadau sydd y tu allan i ffin cynllunio yn erbyn y gyfraith (er bod hyblygrwydd ar dir cyferbyn a'r ffin). Byddai torri cyfraith yn golygu y byddai'r Cynulliad yn symud pwerau cynllunio i'r cannol. Nid oes ffordd heibio hyn. Mae'r pwyllgor cynllunio ardal yn cefnogi cais sydd angen ei ddehongli wrth ddeddf gwlad yn cael ei yrru i'r pwyllgor canolog. Os ydi cais yn anghyfreithlon, mae rhaid i'r pwyllgor ei wrthod, dim ots faint mor hurt mae'r ddeddf yn ymddangos.

menaiblog said...

Mae HRF yn sicr yn gwneud pwynt rhesymol - mae cymryd y bai'n ddi niwed am ddeilliannau polisi pobl eraill yn anoeth.

Mae sylw Dyfrig ynglyn a'r caniatad ar gyfer ty (drud iawn) a ganiatawyd gan y Pwyllgor Canolog yn cryfhau fy mhwynt 'dwi'n credu.

Caniatawyd hwnnw a nid yw'r awyr wedi syrthio ar ein pennau. 'Dwi ddim yn meddwl ei bod yn gywir dweud bod y ty hwnnw yn un fforddiadwy - yn ol fy nealltwriaeth gwrthodwyd yr amodau hynny gan berchenog y safle, ond cafodd ganiatad beth bynnag.

Nid am leoedd felly 'dwi'n son - 'dwi'n son am ddatblygiadau sy'n ymateb i ofynion lleol, sy'n fforddiadwy a sydd yn cyffwrdd a datblygiadau presennol (ond sydd y tu allan i'r polisi fel mae hwnnw'n sefyll ar hyn o bryd).

Hynny yw maent yn agos iawn at y polisi - ac mae'n hawdd adeiladu stori i'w caniatau. Byddai hyn yn rhoi pellter rhwngom ni a pholisi sydd yn wirioneddol amhoblogaidd yng nghefn gwlad.

Dyfrig said...

Sional,
Efallai y byddai'n syniad i mi esbonio'r drefn gynllunio.

1) Mae cais cynllunio yn cael ei wneud. Mewn nifer fawr o achosion, caiff ei gymeradwyo gan y swyddogion, heb fynd o flaen yr un pwyllgor.

2) Mewn rhai achosion, mae'r cais yn mynd ger bron y pwyllgor ardal lleol. Yn yr achosion yma, mae'r swyddogion yn paratoi dogfen yn amlinellu'r cais, ac yn argymell caniatau neu gwrthod. Mae'r Cynghorwyr yn pleidleisio i dderbyn neu gwrthod argymelliad y swyddogion.

3) Mewn nifer fechan iawn o achosion, mae'r swyddogion yn argymell gwrthod cais cynllunio am ei fod yn groes i bolisi cenedlaethol. Yn yr achosion yma, gall y Pwyllgor Ardal ei ganiatau yr un fath, ond maent yn cael eu hysbysu y bydd eu penderfyniad yn cael ei gyfeirio i fyny i'r pwyllgor cynllunio canolog.

4) Gwaith y pwyllgor cynllunio canolog yw penderfynnu os yw'r cais cynllunio yn groes i bolisi cenedlaethol neu beidio. Mae gwaith y pwyllgor canolog yn wahanol i waith y pwyllgor ardal - fel dwi wedi esbonio eisoes, gwaith barnwrol, yn y bon, yw gwaith y pwyllgor canolog. Os yw'r pwyllgor cynllunio canolog yn penderfynnu caniatau, yna mae'n rhaid rhoi cyfiawnhad cyfreithiol am y penderfyniad, gan nodi yn union pa rannau o pa bolisi sydd yn cyfiawnhau caniatau. Mewn 9 o bob 10 achos, mae'n anodd iawn dod o hyd i unrhyw gyfiawnhad cyfreithiol, ac felly mae'n rhaid gwrthod.

Dyfrig said...

Blogmenai,

Dwi ddim yn credu bod neb ohonom ni yn cymeryd y bai yn ddi-niwed am ddeilliannau polisi eraill. Dwi'n syrffedu clywed fy hun yn ail-adrodd yr un lein yn mhob cyfarfod o'r Pwyllgor Canolog - "Dwi'n anghytuno gyda'r polisi yn chwyrn, ac mae gen i bob cyd-ymdeimlad gyda'r ymgeisydd......ond does gennym ni ddim dewis ond gwrthod".
Dwi'n credu dy fod yn cam-ddeallt y pwynt dwi'n ei wneud ynglyn a'r ty yn Abersoch. Dyw'r ty hwn ddim yn fforddiadwy o gwbl - ond wrth bledio ei achos, llwyddodd yr aelod lleol i greu "naratif" gref a oedd yn chwarae ar y thema o fforddiadwyaeth ac angen lleol. Os ydym ni'n rhoi caniatad i adeiladu tai ar sail naratif, yn hytrach na pholisi, yna fy nadl i yw ein bod ni'n agor y drws i drefn fympwyol a fydd yn arwain i lawr llwybr y gombeen.

rhydian fôn said...

Dwi'n credu i ti ddisgrifio'r drefn yn dda iawn yna - diolch am hyn. Ond wyt ti wir yn credu fod y Blaid yn gwneud digon i gwffio yn erbyn yr argraff mae ni sydd ar fai am ddeillianau polisi canolog?

Oes unrhyw man gwan yn ein strategaeth yma? Mae nifer o bobl yn ein beio pan mae cais yn erbyn polisi canolog - oes yna rywbeth y gellir ei esbonio'n well?

menaiblog said...

Dyfrig - mae'r rhesymeg yma yn amheus.

Ti yn y bon yn dadlau y bydd cam ddefnydd sylweddol os ti'n llacio'r rheoau ac yn caniatau rhai gwyriadau - sydd yn ol fy nealltwriaeth i yn dderbyniol beth bynnag.

Efallai bod naratif yr aelod mewn un achos wedi dwyn perswad ar aelodau eraill i ganiatau datblygu cwbl anaddas.

Ond dydi hi ddim yn dilyn bod hynny'n digwydd. 'Doedd y ty ti'n son amdano ddim yn un fforddiadwy, ac nid oedd y perchenog yn fodlon cadw at gyfyngiadau ty fforddiadwy. Mae'n amheus gen i bod unrhyw ddadl synhwyrol fod y datblygiad yn ymateb i ofynion lleol.

Fy awgrym i ydi bod aelodau yn bod yn fwy hyblyg pan mae ceisiadau lleol, fforddiadwy sy'n agos at y polisi beth bynnag - nid am blasdy ar ben clogwyn.

Mae dadlau bod un peth o reidrwydd yn arwain at y llall fel dadlau bod pawb am droi'n crac adicts oherwydd i canabis gael ei raddio ar categori 3.

Son ydw i gyda llaw am naratif a fyddai'n dderbyniol i'r Cynulliad - nid i aelodau eraill.

Dyfrig said...

Blogmenai,
Y pwynt dwi'n ei wneud yw bod yn rhaid cael rheolau sydd yn cael eu gweithredu mewn modd cwbl gyson. Unwaith ti'n dweud bod hi'n dderbyniol i ni wyro oddi wrth y polisi mewn rhai achosion, mae'n anorfod y bydd rhai aelodau yn troi'r "gwyro" yma i'w mantais eu hunain. Bydd, fe fydd 'na rhai ceisiadau teilwng yn cael eu caniatau. Ond fe fydd 'na lawer iawn o rhai annheilwng yn cael eu caniatau hefyd. A natur llywodraeth leol yw y bydd pob aelod yn disgwyl cael "gwyro" o fewn eu wardiau hwy.

Dyfrig said...

Rhydian,
Mae dy gwestiwn di yn un teg, ond y gwirionedd ydi bod hi'n anodd iawn i Blaid Cymru yng Ngwynedd i sicrhau bod unrhyw fath o neges bositif ynglyn ac unrhyw bolisi yn cyrraedd y cyhoedd. Fe allwn ni brotestio bod ein dwylo wedi eu clymu hyd syrffed, ond y gwir yw y bydd y wasg leol yn dewis gweld y pwnc o safbwynt ein gwrthwynebwyr. Dwn i ddim os oes unrhywbeth y gallwn ni ei wneud ynglyn a hyn. Trist, ond dyna gwirionedd y sefyllfa.

menaiblog said...

Dyfrig

Mae gen ti reolau ar hyn o bryd - mae'r rheiny yn rhai sydd wedi eu seilio ar bolisi Gwynedd sydd yn ei dro wedi ei lywio gan reoliadau canolog. Mae'r rheiny wedi eu seilio yn eu tro ar bolisi'r Cynulliad - un nad yw'n dderbyniol i'r Blaid yn genedlaethol.

Yr oll 'dwi'n awgrymu ydi bod cynghorwyr yn ystyried tri pheth ychwanegol - ydi'r angen yn un lleol? ydi'r datblygiad yn un fforddiadwy? ydi'r cais yn agos i'r polisi?

Os nad ydi'r ateb yn ia pob tro, paid a'i ganiatau.