Mi'r ydw i weithiau (wel yn aml) yn cael fy nghyhuddo o fod yn ddilynwr un llygeidiog i Blaid Cymru. Efallai y byddai'n ychydig o syndod i ambell un fy mod wedi derbyn cwynion gan fwy nag un aelod blaenllaw o'r Blaid oherwydd peth o'r cynnwys sy'n ymddangos yma o bryd i'w gilydd. 'Dwi hefyd wedi derbyn cwynion ac yn wir bygythiadau gan bobl o bleidiau a grwpiau eraill - felly 'tydi cadw blog fel hwn ddim yn ffordd effeithiol iawn o fod yn boblogaidd - ond dyna fo, mae yna bethau sydd angen eu dweud o bryd i'w gilydd.
Mae rhai o'r sylwadau sydd i ddilyn yn feirniadol o'r Blaid yng Ngwynedd - ond 'dwi'n mawr obeithio y byddant yn cael eu cymryd fel beirniadaeth adeiladol.
Fel mae pawb yn gwybod mae'n debyg, collodd Plaid Cymru gyfres o seddi yn Ne a Gorllewin Gwynedd yn ystod etholiadau lleol eleni. Mae llai o sylw wedi ei roi yn y wasg leol a'r blogiau sy'n ymddiddori yn y pethau hyn, mai dyma etholiadau lleol mwyaf llwyddiannus y Blaid erioed y tu allan i'r ardaloedd hynny - ac mae hynny yn cynnwys Dwyrain Gwynedd.
Roedd cyd destun ehangach i golledion y Blaid mewn rhannau o Wynedd ac roedd hwnnw'n gyd destun Cymru gyfan. Dioddefeodd y pleidiau oedd yn rheoli ar hyd a lled Cymru, ac mae rhesymau hawdd i'w hadnabod am hynny - y ffaith bod amgylchiadau ariannol yn anodd a bod y pleidiau oedd yn rheoli yn gorfod gweinyddu'r rheiny. Bydd pethau'n waeth tros y bedair blynedd nesaf, ac o ganlyniad bydd y Blaid o dan fwy o bwysau yng Ngwynedd. O safbwynt etholiadau San Steffan, mae mantais i'r Blaid fod wedi gwneud yn dda, ond methu ag ennill grym yng Ngheredigion a Chaerfyrddin. Bydd rhaid i weinyddiaethau sydd yn cynnwys y Rhyddfrydwyr a Llafur weithredu toriadau yn y ddwy sir yn y misoedd cyn etholiad cyffredinol.
Roedd y cynllun ail strwythuro ysgolion yn broblem ychwanegol yng Ngwynedd wrth gwrs. Mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith
bod natur cefnogaeth y Blaid yng Ngwynedd yn ei hanfod yn wrth sefydliadol (mae rhesymau hanesyddol am hyn - ac efallai y cawn gyfle i edrych ar hynny rhywbryd), a bod hynny'n golygu ei bod yn hanfodol o safbwynt etholiadol nad ydi'r Blaid yn cael ei gweld fel un sefydliadol. Roedd y broses ymgynghori ynglyn ag ail drefnu ysgolion yn un a wnaeth i'r Blaid ymddangos yn sefydliadol
'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu na ddylai'r Blaid gael ei hun mewn sefyllfaoedd lle maent yn ennill ac yn ymarfer grym - i'r gwrthwyneb. Ond mae'n golygu y dylid ymddwyn mewn ffordd arbennig pan enillir grym - fel mae'r Blaid wedi ei wneud yng Ngwynedd ers cryn gyfnod bellach. I symleiddio pethau mae'n bwysig creu'r ddelwedd ein bod yn defnyddio strwythurau sefydliadol i hyrwyddo buddiannau grwpiau o bobl sy'n ein cefnogi - a sydd yn eu hanfod yn wrth sefydliadol. I'w roi mewn ffordd arall, mae'n bwysig peidio a dangos mwy o barch at y strwythurau sefydliadol yr ydym yn eu rheoli nag ydym yn ei ddangos at y bobl sydd yn ein hethol.
'Rydym
eisoes wedi edrych ar sut oedd y llanast ysgolion yn torri'n gwbl groes i'r egwyddor yma. Nid y bennod ail strwythuro ysgolion ydi'r unig esiampl o fethiant yn y cyswllt yma - mae cynllunio wedi bod yn fater cynhenus ers talwm mewn ardaloedd gwledig. Ysgolion ddaeth a phethau i fwcwl mewn aml i gymuned wledig, ond mae'r ffordd mae polisi cynllunio'r sir yn cael ei weithredu wedi bod yn erydu cefnogaeth y Blaid ers tro, ac mae'n parhau i wneud hynny.
Mae cynllunio'n bwysig - mae'n fater sy'n effeithio yn uniongyrchol ar le mae pobl yn byw, neu lle mae eu plant a'u wyrion yn byw. Mae polisiau cynllunio yn aml yn penderfynu os ydi pobl yn gallu byw yn y pentrefi lle cawsant eu magu, os ydynt yn gallu byw yn agos at gefnogaeth eu teulu estynedig - rhywbeth sy'n bwysig os ydi'r ddau riant yn gallu cael mynedoiad llawn i'r farchnad waith. Does yna prin ddim byd sy'n bwysicach i bobl na'r materion hyn.
Cyn mynd ymlaen hoffwn dynnu sylw at erthygl yn rhifyn cyfredol y
Ddraig Goch gan Dafydd Iwan. Ymdrin a pholisi cenedlaethol y Blaid ar gynllunio mewn ardaloedd gwledig mae'r erthygl. Fedra i ddim anghytuno efo dim yn yr erthygl - dim. Mae'n amlinelliad o bolisi ymarferol, hyblyg ac yn bwysicach na dim, yn un ag iddo gydymdeimlad ag anghenion gwledig. Y broblem yng Ngwynedd ydi ein bod wedi gorfodi polisi cenedlaethol pobl eraill gyda gormod o arddeliad yn lleol. Mewn geiriau eraill rydym wedi dangos gormod o barch at strwythur sefydliadol hyd yn oed pan mae'n ymarfer polisi nad ydym yn cytuno efo fo. O safbwynt etholiadol mae hyn yn ymgais ar hunan laddiad. Ystyrier y stori isod er enghraifft:
Gwnaed cais am hawl i godi ty fforddiadwy yn ddiweddar gan gwpl ifanc, lleol o Drefor, Dwyfor. Mae'r cwpl a'u plentyn yn byw mewn carafan y tu ol i dy rhieni'r gwr. 'Rwan codi ty eu hunain ydi unig opsiwn ymarferol os ydyn nhw am fforddio ty addas iddyn nhw eu hunain i aml i gwpl ifanc yn y Gymru wledig. Y drefn arferol ydi eu bod yn prynu darn o dir ac yn trefnu'r adeiladu eu hunain. Gellir gwneud hyn yn rhad trwy wneud peth o'r gwaith eu hunain, cael cyfeillion sydd efo arbenigedd i wneud rhannau ohono'n rhad ac ati. Yn yr achos yma roedd y cwpl yn berffaith fodlon i ddynodi'r ty fel un fforddiadwy sy'n golygu bod cyfyngiadau sylweddol pan mae'n dod i'w werthu ymlaen yn ddiweddarach. Eisiau cartref, nid buddsoddiad oeddynt.
Roedd caniatau hawl cynllunio ar y darn tir y gwnaed cais i godi ty arno yn groes i bolisi cynllunio Cyngor Gwynedd. Efallai y dyliwn aros yma am ennyd i egluro'n fras y polisi hwnnw. Ceir rhai lleoedd dynodedig lle caniateir adeiladu. Mae'r lleoedd yma fel rheol y tu mewn i bentrefi. Mae o fewn y polisi hefyd i ganiatau adeiladau ar dir sydd yn ffinio efo'r darnau tir dynodedig.
Caniatawyd y cais yn wreiddiol gan y Pwyllgor Ardal (Dwyfor) er ei fod y tu allan i'r polisi ar y sail ei fod yn ffinio gyda darn o dir lle'r oedd ty eisoes yn cael ei godi arno. Roedd y darn tir hwnnw yn ffinio gyda thir dynodedig.
Cyfeirwyd y cais i'r Pwyllgor Canol gan y swyddog, ac fe'i gwrthodwyd oherwydd ei fod y tu allan i ganllawiau'r polisi. Pleidleisiodd y cynghorydd annibynnol lleol a chynghorydd Llais Gwynedd o blaid y cais, ond pleidleisiodd y tri aelod Plaid Cymru, a'r gweddill yn erbyn. Ni chaniatawyd y cais, ac mae'r teulu o dan sylw yn byw mewn carafan o hyd.
'Rwan, mae yna nifer o bethau i'w dweud yma. Yn gyntaf roedd penderfyniad y Pwyllgor Canol yn unol a pholisi'r Cyngor - does yna ddim amheuaeth am hynny (Mae polisi'r cyngor wedi ei yrru i raddau helaeth gan gyfarwyddiadau'r Cynulliad wrth gwrs). Ond - ac mae'n ond mawr - mae dadleuon da tros dorri'r polisi yn yr achos yma.
Yn gyntaf, fel y nodwyd mae'r safle, er ar gyrion y pentref yn ffinio efo tir lle ceir adeiladu ar hyn o bryd. Yn ail mae ffin naturiol i'r pentref - llwybr i'r fynwent - dau ddwsin o lathenni ymhellach allan o'r pentref. Yn drydydd nid oes unrhyw dir arall ar gael ar hyn o bryd i adeiladu arno yn y pentref. Dydi'r darn arall o dir dynodedig yn y pentref ddim ar werth ar hyn o bryd - a beth bynnag nid yw'n addas ar gyfer datblygiad unigol - byddai'n rhaid wrth gwmni adeiladu i'w ddatblygu. Gan nad oes unrhyw gwmniau adeiladu am fuddsoddi yn y farchnad gydag amodau fel y maent ar hyn o bryd, 'does yna ddim tir i adeiladu arno yn Nhrefor, ac felly ni all Trefor ddatblygu.
'Rwan mae yna geisiadau am hawl cynllunio yn cael eu gwneud sydd ymhell y tu allan i'r polisi, a lle nad oes dadl tros dorri'r polisi. Oddi tan yr amgylchiadau hynny, nid oes dewis mewn gwirionedd ond gwrthod. Byddai methiant parhaus i gydymffurfio a pholisiau cynllunio'r Cynulliad yn gallu arwain at golli'r hawl i reoli'r broses yn ei chyfanrwydd - a byddai hynny'n drychineb i gymunedau gwledig yng Ngwynedd.
Ond, nid yw'r achos 'dwi wedi ei amlinellu - ynghyd ag aml i achos arall yn bell y tu allan i'r polisi. Neu i roi'r peth mewn ffordd mwy rhesymegol - mae'n weddol hawdd creu naratif effeithiol i gyfiawnhau torri'r polisi.
Dylid torri'r polisi pan mae gwneud hynny yn ateb gofynion lleol, a phan ei bod yn bosibl cyfiawnhau hynny. Mae dau reswm am hyn.
Ymwna'r cyntaf a gwleidyddiaeth etholiadol - mae'n llesol yn etholiadol i'r Blaid godi dau fys ar reolau sefydliadol, ac mae'n bwysicach iddi gael ei gweld fel plaid sy'n fodlon troi pob carreg i roi cymorth i bobl leol.
Ymwna'r ail a bod yn driw i bolisiau cenedlaethol ni ein hunain - maent yn llawer callach na'r rhai cenedlaethol presenol, a dylid gwneud pob dim posibl i wneud i'r ffordd mae'r gyfundrefn cynllunio yn gweithredu yn y llefydd yr ydym yn eu rheoli, neu gyda dylanwad ynddynt, mor debyg a phosibl i'n polisiau cenedlaethol ni ein hunain. Mae gweithredu fel hyn yn rhesymegol, yn gyson, yn llesol i'r Blaid ac yn rheoli'r risg o gael ymyrraeth o'r tu allan. 'Dydi plesio swyddogion cyflogedig ddim yn rhan o'r cyfrifiad yma. Pwrpas a dyletswydd swyddogion cyflogedig ydi gwireddu ewyllus cynghorwyr etholedig - nid y gwrthwyneb.
Yn anffodus mae tueddiad y Blaid yng Ngwynedd i ganiatau i'w delwedd ddatblygu i fod yn un o blaid sefydliadol, wedi creu tir gwleidyddol gwag, ac mae hwnnw wedi ei lenwi gan Lais Gwynedd. I'r graddau hynny creadigaeth y Blaid ydi Llais Gwynedd - rhyw fath o blentyn siawns os y mynnwch - un o ganlyniadau anffodus posibl gweithredu'n amhriodol.
'Dwi ddim yn credu bod dyfodol hir dymor i Lais Gwynedd - dydi hi ddim yn bosibl creu plaid wleidyddol trwy ddod ag amrediad eang o elfennau gwleidyddol gwrthnysig at ei gilydd. Mae'n ddigon anodd weithiau i bleidiau sy'n cynnwys pobl sydd a llawer iawn yn gyffredin yn wleidyddol gadw ar yr un llwybr, heb son am grwp sydd ond yn gytun ynglyn a'r hyn nad ydynt yn ei hoffi.
Mater cymharol fach felly ar un olwg ydi 'delio' a Llais Gwynedd - eu hamddifadu o'u tir gwleidyddol. Golyga hyn newid y ddelwedd sydd i'r Blaid yn rhannau gwledig y sir - ac mae hynny yn ei dro yn golygu addasu rhyw gymaint ar y ffordd yr ydym yn rheoli - yn arbennig felly wrth ddelio a materion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl.
'Dwi ddim eisiau rhoi'r argraff nad ydwyf yn sylweddoli bod rhaid gwneud rhai pethau amhoblogaidd - 'does yna ddim dewis o dan yr amgylchiadau presennol - mi fydd yna byllau nofio yn gorfod cau, a thai hen bobl, a thoiledau. Bydd rhaid i pob cyngor wneud y math yma o beth yn yr amgylchiadau argyfyngys sy'n bodoli mewn llywodraeth leol ar hyn o bryd. Ond mae llawer iawn y gellir ei wneud i newid delwedd y Blaid yn lleol lle nad oes oblygiadau cyllidol. Mae hyn yn arbennig o wir am faes cynllunio.
Un pwynt bach olaf - mae hefyd yn bwysig i droi pob carreg er mwyn sicrhau bod y polisi cenedlaethol yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth y Cynulliad, a bod y polisi hwnnw yn cael ei adlewyrchu yng nghyfarwyddiadau'r Cynulliad.