Tuesday, October 02, 2007

Gair bach o gyngor i'r Blaid

Ymddengys ein bod ar drothwy etholiad arall eto fyth - etholiad cyffredinol y tro hwn.

Mae hyn yn newyddion drwg i rhywun fel fi oedd wedi bwriadu mynd ar ei wyliau yn ystod y gwyliau hanner tymor, ond dyna fo - waeth i ddyn heb a chwyno ynglyn a mater na all effeithio arno.

Un o nodweddion cyfnod etholiad ydi bod gwleidyddion yn gwneud ymdrech i dramgwyddo ar dir gwleidyddol eu gwrthwynebwyr er mwyn ceisio dwyn eu pleidleisiau. Wele ymgais Nic Bourne i ddwyn pleidleisiau'r Blaid er enghraifft.

Ymdrech mwy uchelgeisiol oedd un Gordon Brown i ddwyn pleidleisiau Toriaidd trwy roi gwahoddiad i'r fonesig Thatcher i de yn 10 Downing Street.

Mae'n weddol ddealladwy pam bod Brown yn gwneud hyn - mae llawer iawn o Doriaid yn Lloegr, ac mae cyfran ohonynt yn hynod anhapus ag ymdrechion Cameron i adleoli ei blaid rhywle yng nghanol, gwyrdd, corsiog, aneglur gwleidyddiaeth Lloegr.

Mae hyn yn gwneud synwyr gwleidyddol yn Lloegr - ond nid felly yng Nghymru - 'does yna ddim cymaint o lawer o bleidleiswyr Toriaidd yma, ac mae'r Fonesig Thatcher wedi ei thrawsnewid yn rhyw fath o ddiafol gwleidyddol.

Mae hyn yn rhannol oherwydd rhai o bolisiau'r Fonesig a'i phersenoliaeth wrth gwrs, ond mae hefyd yn deillio o'r ffaith mai prif dacteg y Blaid Lafur Gymreig ydi creu rhyw fytholeg plentynaidd am orffennol erchyll Thatcheraidd a fydd yn dychwelyd i ddifa'r wlad oni bai bod pawb yn bihafio ac yn pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad.

Dyna pam nad ydi delwedd o Gordon Brown yn sefyll yn nrws 10 Downing Street gyda'r Fonesig Thatcher ddim yn un sy'n debygol o anwylo Brown i bobl Cymru. A dyna pam y dylai'r Blaid ddangos y ddelwedd a'i hail ddangos hyd at syrffed.

Dyma ddechrau arni.

Tuesday, August 07, 2007

Mewnfudo i'r DU - peth da neu ddrwg?

O pob mater cyfoes o bwys sy’n fater trafodaeth ar lefel Prydeinig, byddwn yn tybio mai’r un lle mae’r lleiaf o resymeg yn sail i’r drafodaeth honno ydi’r un ynglyn a mewnfudiad.

Y pwynt cyntaf i’w wneud ydi bod y lefelau uchel o fewnfudiad a geir ar hyn o bryd (mae tua 10% o boblogaeth y DU wedi eu geni mewn gwledydd eraill) yn creu sgil effeithiau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol. Mae rhai o’r sgil effeithiau hyn yn debygol o fod yn fyr dymor tra bod eraill am greu newidiadau hir dymor. Wrth ffurfio barn ynglyn a phriodoldeb lefelau uchel o fewnfudiad mae’n briodol i ystyried y tri factor uchod.

O ran yr economi, mae’n debyg bod mewnfudo yn llesol yn gyffredinol. Mae mewnfudwyr yn fodlon gweithio am gyflogau isel, ac mae hyn yn ei dro yn arwain at brisiau is. Mae hefyd yn deg dweud bod angen mewnfudwyr ar hyn o bryd – mae cyfraddau geni Prydain yn weddol isel, ac wedi bod felly ers cryn gyfnod. O ganlyniad mae’r boblogaeth yn gymharol hen a ‘does yna ddim digon o bobl i wneud rhai mathau o waith.

A derbyn bod mewnlifiad yn gyffredinol lesol i’r economi, mae’n bwysig deall nad yw’n llesol i bawb. Mae’n llesol i’r sawl sy’n talu i bobl i gadw’r ty ac i bobl sy’n cael gwaith wedi ei wneud ar eu tai – mae au pairs a bricis o Wlad Pwyl yn fodlon gweithio am llai o lawer na rhai lleol. Yn yr un modd mae llawer o fusnesau – gwestai, tafarnau ac ati yn elwa oherwydd bod cyflenwad di ben draw o bobl sy’n fodlon gweithio’n rhad ar gael iddynt. ‘Dydi’r sefyllfa ddim cystal i bobl leol sy’n gwneud yr un math o waith – maent yn colli eu gwaith, neu’n gorfod cystadlu am waith gyda mewnfudwyr – ac felly gweithio’n rhatach nag y byddent fel arall.

I roi pethau mewn ffordd arall, mae mewnlifiad yn llesol i bobl sydd a lefelau cymharol uchel o incwm ac i fusnesau, ond mae’n ddrwg i bobl sydd yn gwneud gwaith sy’n gofyn lefelau isel o sgiliau.

Mae’n gwestiwn gen i os ydi ‘r effaith mae mewnlifiad yn ei gael ar bobl sydd ar incwm isel yn derbyn llawer o ystyriaeth pan fod polisi mewnfudo yn cael ei ffurfio. Cymhlethdod pellach efallai ydi bod pobl sy’n gweithio i’r cyfryngau yn gymharol gefnog, ac yn gweithio mewn swyddi nad ydi mewnfudwyr yn eu bygwth mewn unrhyw ffordd. Mae elfennau sylweddol o’r wasg Brydeinig yn wrth fewnfudiad wrth gwrs – mwy felly na mewn llawer o wledydd Ewropiaidd eraill. – ond pe byddai mewnfudwyr yn gymaint o fygythiad i ohebwyr yr Independent neu’r BBC nag ydynt i fricis, ‘dwi’n amau y byddai agwedd y naill neu’r llall yn union fel ag y mae heddiw – ac felly byddai’r tirwedd gwleidyddol y creir polisi ynddo yn gwahanol.

Beth bynnag am y sgil effeithiadau economaidd, mae’r sgil effeithiadau gwleidyddol hefyd yn bell gyrhaeddol – efallai mwy felly. Gan bod cymaint o bobl o rannau eraill o’r byd yn byw yn y DU – llawer ohonynt gyda eu prif ymrwymiad i wledydd a gwareiddiadau eraill, mae'n creu sgil effeithiadau gwleidyddol. Bellach mae polisi tramor y DU yn gallu bod yn fater gwirioneddol gynhenys mewn gwleidyddiaeth domestig – hyd yn oed pan fod y polisi wedi ei lunio i amddiffyn buddiannau’r DU ei hun.

‘Rwan, fyddwn i byth yn ceisio amddiffyn polisi Prydain tuag at y Dwyrain Canol – mae’n wirioneddol drychinebus ar sawl cyfrif. Ond mae’n rhaid gen i bod sefyllfa lle mae deilliannaupolisi tramor yn arwain at ymysodiadau gan ddinasyddion Prydeinig ar ddinasyddion Prydeinig eraill yn un newydd.

Yn ychwanegol mae sefyllfa lle mae niferoedd sylweddol o boblogaeth y DU yn dod o wareiddiadau eraill yn creu faultlines cymdeithasol newydd. At ei gilydd nid yw gwleidyddiaeth Prydain yn llwythol yn yr ystyr bod carfannau sylweddol o bobl yn pleidleisio mewn ffordd arbennig oherwydd eu cefndir ethnig – ar wahan i Ogledd Iwerddon wrth gwrs. Mae trefn wleidyddol o’r math yma yn ei hanfod yn llai sefydlog nag un sydd yn cael ei yrru gan wrthdaro economaidd ymysg pobl sy’n derbyn bod llawer yn gyffredin rhyngddynt.

Yn y pen draw y cwestiwn ydi hyn – I ba raddau mae gwella budd economaidd byr dymor rhan o’r boblogaeth werth newid strwythur cymdeithasegol a gwleidyddol gwladwrieth yn yr hir dymor?

Mae’r cwestiwn yn un sydd rhaid ei ofyn – a nid yw’n weithred hiliol i godi’r cwestiwn. Mater i’r wladwriaeth sy’n derbyn mewnfudwyr ydi ateb y cwestiwn mewn ffordd rhesymol a phenu ar gyfraddau mewnfudo rhesymol yng ngoleuni ei hateb i’r cwestiwn.

Thursday, July 26, 2007

Etholiad Cyffredinol Nesaf - Y Gogledd

Mae Vaughan Roderick wedi bod yn trafod canlyniadau posibl yr etholiad cyffredinol nesaf ar ei flog.

Amgaeaf fy marn i - sydd wedi ei bostio ar flog Vaughan.

‘Dwi ddim yn derbyn un o ragdybiadau dy ddadansoddiad Vaughan. Mae hi’n ddigon posibl y bydd gogwydd tuag at Llafur. Er mai’r patrwm hanesyddol lle ceir llywodraeth yn rheoli am gyfnod maith ei bod yn raddol golli cefnogaeth, roedd etholiad 2005 yn anarferol oherwydd ei bod yn cael ei hymladd yng nghysgod rhyfel Irac. O ganlyniad roedd pleidlais Llafur ychydig bwyntiau (hyd at bum pwynt efallai) yn is nag y byddai fel arall, ac roedd pleidlais y Lib Dems yn uwch. Bydd y rhyfel yn llai o factor o lawer y tro hwn. ‘Rwan ‘dwi ddim yn dweud y bydd gogwydd at Lafur – ond mae posibilrwydd pendant.

Byddwn yn tybio bod Wrecsam ac Alyn a Glanau Dyfrdwy a De Clwyd yn saff i Lafur.

Gallai Gorllewin Clwyd yn hawdd fynd yn ol i Lafur. Digon di drefn ydi peirianwaith etholiadol y Toriaid, a bydd pob dim yn troi o gwmpas faint o bleidleisiau tactegol fydd yn digwydd. Byddwn yn disgwyl i bleidleisiau tactegol fynd i Lafur yn hytrach na’r Toriaid.

Delyn – sedd Brydeinig iawn o ran patrymau pleidleisio. Roedd pethau’n agos iawn yn yr etholiad Cynulliad, ond mae angen gogwydd o 10% yn yr etholiad San Steffan. ‘Dydi hyn ddim am ddigwydd.

Dyffryn Clwyd – Nes byth yn yr etholiad Cynulliad (ond Ann Jones oedd ymgeisydd Llafur)ac angen llai o ogwydd i’r Toriaid ennill – ond mae 7% yn dipyn i’w ofyn – go brin y bydd yn newid dwylo.

Aberconwy – Un anodd braidd i’w darogan. Mae’r ychwanegiadau i’r sedd yn Nyffryn Conwy wedi rhoi pleidleiswyr naturiol Plaid Cymru yn yr etholaeth – a ni fydd y bobl hyn yn pleidleisio’n dactegol. Serch hynny, byddwn yn cytuno mai’r Toriaid sydd fwyaf tebygol o ennill – yn arbennig os mai Guto sy’n sefyll ac yn cario o leiaf ychydig o’r bleidlais Gymreig yn ne’r etholaeth – ond bydd yn agos rhwng y Toriaid a Llafur – yn arbennig os mai Betty fydd yr ymgeisydd Llafur.

Gyda llaw mae cwestiwn mawr yn wynebu Bet – lle i sefyll Arfon neu Aberconwy? Yn yr etholiad Cynulliad roedd Llafur yn ail yn Arfon ond yn drydydd yn Aberconwy – ond roedd y bwlch yn llawer llai yn Aberconwy. Ac wrth gwrs, Denise druan oedd yr ymgeisydd yn Aberconwy. Pe byddwn i yn ei lle, Aberconwy fyddai’r dewis.

Arfon – sedd anarferol iawn. Y fwyaf Cymreig o ran iaith yng Nghymru. O’r ugain ward sydd ar ol gyda mwy nag 80% yn siarad Cymraeg mae eu hanner yma. Da i Blaid Cymru. Mae hi hefyd yn drefol a dosbarth gweithiol. Da i Lafur. Ar bapur dylai Llafur ei hennill o fymryn mewn etholiad San Steffan (ond colli pob tro mewn etholiad Cynulliad)– ond mae pawb sy’n adnabod yr etholaeth yn dda yn gwybod bod pethau’n fwy cymhleth. Mae llawer o Bleidwyr yn Nyffryn Ogwen ac i raddau llai Bangor efo hanes o bleidleisio i Lafur (neu’r Lib Dems) i gadw’r Tori allan. Dim ond Plaid neu Llafur all ennill yn y byd dosbarth gweithiol, trefol, Cymreig yma – felly ni fydd hyn yn ffactor. Hefyd mae gan y Blaid beirianwaith etholiadol sylweddol – tros i fil o aelodau a thair cangen fwyaf Cymru (Caernarfon, Bangor a Dyffryn Ogwen). Gwan iawn yw trefniadaeth Llafur, ac os mai Martin sy’n sefyll mae’r ymgeisydd yn tila. Gall Llafur ennill – ond byddai’n rhaid i dri pheth ddod at ei gilydd – ymgeisydd da (Bet nid Martin), gogwydd tros Gymru tuag at Lafur a nifer sylweddol o bobl yn pleidleisio (roedd canran y bleidlais yn isel iawn yn rhai o wardiau Llafur – 24% ym Marchog er enghraifft). Plaid i ennill oni bai bod y tri ffactor uchod yn dod ynghyd.

Ynys Mon – sedd anarferol arall. Heb amheuaeth mae Peter yn niweidio’r Blaid a’r Toriaid. Hefyd mae Albert yn ymgeisydd cymharol dda i Lafur – distaw a di garisma – ond gweithgar ac yn osgoi tynnu neb i’w ben. Mae ganddo gefnogaeth sylweddol yng Nghaergybi. Hefyd, er gwaethaf ei henw, mae llawer iawn o bobl Mon yn byw mewn cymunedau trefol neu fwrdeistrefol.

Serch hynny os na fydd Peter yn sefyll, Plaid fydd yn ennill gyda’r Toriaid a Llafur yn weddol agos at ei gilydd. Os bydd Peter ar y papur bydd yn agos iawn rhwng Llafur a Phlaid – ond mae ymgeisydd y Blaid efo’r holl gysylltiadau lleol sydd eu hangen – rhywbeth allweddol yn yr etholaeth yma – y mwyaf plwyfol o’r cwbl.

Sunday, July 22, 2007

Y glymblaid efo Llafur - peth da neu beth drwg?

Ychydig o sylwadau ynglyn a’r datblygiadau diweddar.

Fy newis cyntaf i yn bersonol fyddai clymblaid yr enfys – nid am fy mod yn meddwl bod y Toriaid a’r Lib Dems damaid gwell na Llafur – ond oherwydd y byddai dylanwad y Blaid yn gryfach o lawer nag yw o dan y trefniant presenol.


Mi fyddwn yn derbynnad ydi'r Blaid wedi llwyddo i gael digon o seddau yn y cabinet - dylai'r gymhareb seddau cabinet o leiaf adlewyrchu'r gymhareb seddi.

Cymharer gyda'r hyn a ddigwyddodd yn Ngweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar. Y tair plaid sydd mewn llywodraeth ydi'r Blaid Werdd, Fianna Fail a'r PDs. Yn yr etholiad cafodd FF 78 sedd, Y Blaid Werdd 6 a'r PDs 2. Rhannwyd y seddi cabinet fel a ganlyn: FF 15, Gwyrddion 2, PDs 1 - hynny yw dwywaith y gymhareb seddi i'r Gwyrddion a llawer mwy na hynny i'r PDs (er bod rheswm da tros roi iechyd i'r PDs – mae deiliad y swydd yma yn siwr o fod yn fethiant, a gellir beio rhywun arall am y methiant hwnnw. Angola ydi term FF am y portffolio iechyd). Byddai’, deg nodi yma na lwyddodd y Gwyrddion na’r PDs i gael unrhyw gonsesiynau polisi gwerth son amdanynt o groen FF.

Er gwaethaf y methiant hwn, gyda’r penderfyniad wedi ei wneud, ‘dwi’n mawr obeithio y bydd yn parhau am bedair blynedd.

Mae’n debyg gen i bod rhai manteision i’r cytundeb presenol o gymharu a’r cytundeb enfys arfaethiedig – ac mae’r manteision hynny yn eu hanfod yn troelli o gwmpas un ffaith allweddol – bod y Blaid Lafur yn bwysicach o lawer yng ngwleidyddiaeth Cymru nag yw’r Toriaid. Plaid ymylol i wleidyddiaeth Cymru ydi’r Blaid Doriaidd, plaid sy’n apelio at ardaloedd ac elfennau mwyaf Seisnig y wlad. Yn y pen draw ‘dydi’r Blaid Doriaidd ddim yn dderbyniol i elfennau sylweddol, o gymdeithas yng Nghymru.

‘Dydi hyn ddim yn golygu na ddylid byth gynghreirio gyda nhw wrth gwrs – ond mae’n golygu bod elfen gryf o risg wrth wneud hynny. Wedi’r cwbl unig ddadl Llafur tros pam y dylai dyn bleidleisio trostynt yn ystod yr etholiadau diweddar oedd y byddai pleidlais i unrhyw un arall yn sicrhau y byddai John Redwood yn ymddangos o rhywle ac yn bwyta ei blant, yn taflu ei rieni hynafol i mewn i’r ffynnon ac yn llusgo ei wraig y tu ol i’r llwyni.

Pe byddai yna gyfle gwirioneddol o gael pedair blynedd mewn grym gyda’r Toriaid, a bod y bedair blynedd yna yn rhai eithaf llwyddiannus, yna byddai’r bygythiad yma wedi ei gladdu am byth. Ond, gyda'r Lib Dems chwit chwat mewn llywodraeth, ‘doedd yna ddim sicrwydd o bedair blynedd. Byddai etholiadau lleol sal iddyn nhw yn y dinasoedd y flwyddyn nesaf wedi chwalu’r llywodraeth. Byddai Llafur yn ol mewn grym, ni fyddai blwyddyn wedi bod yn ddigon o amser i newid pethau er gwell, a byddai’r gri Vote Plaid get the Tories mor ddilys ag erioed yn 2011. Fel mae pethau’n sefyll mae’r darn yma o bropoganda wedi ei ddarnio – a bydd yn anodd gwneud defnydd ohono eto.

Hefyd wrth gwrs, mae’r broses o gynghreirio wedi bod yn llawer mwy cynhenus i’r Blaid Lafur nag yw wedi bod i’r Blaid, ac mae wedi arddangos holltau sylweddol o fewn y blaid honno. 60% / 40% oedd yr hollt ymhlith y blaid ei hun pan ddaeth yn amser pleidleisio ar y gynghrair. Mae hollt wedi ei greu rhwng yr Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad, ac mae adain ‘unoliaethol’ y Blaid Lafur wedi ei churo – am y tro beth bynnag. Mae’n rhaid bod rhywfaint o ddaioni mewn unrhyw beth sy’n gwneud i Neil Kinnock a Huw Lewis grio.

Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi ei thynnu i gyfeiriad mwy cenedlaetholgar ar hyn o bryd, ac mae hynny’n beth da siawns. Yn ddi amau byddai’r Toriaid wedi eu symud i gyfeiriad tebyg, ond fel plaid ymylol i wleidyddiaeth Cymru, ‘dydi’r wobr honno ddim mor fawr.

Rhywbeth arall sy’n dechrau ei amlygu ei hun yw’r posibilrwydd pendant bod penderfyniad y Toriaid i fynd i lawr y llwybr Cameron yn drychineb strategol o’r radd flaenaf. Maent wedi dewis arweinydd gweddol ysgafn o ran sylwedd oherwydd ei allu i gyfathrebu a’i ddelwedd fodern (o gymharu a David Davies sydd yn wleidydd o sylwedd, ond sydd a sgiliau cyfathrebu cymhedrol iawn).

Aeth hwnnw yn ei dro i’r tir canol i chwilio am bleidleisiau, yn hytrach na disgwyl i’r tirwedd gwleidyddol symud i’r dde. Mae’n anodd gweld sut y gall guro Llafur ar ei thiriogaeth ei hun. ‘Dwi’n gwybod ei bod yn gynnar i farnu, ond mae canlyniad trychinebus yr is etholiad yn Ealing yr wythnos diwethaf ynghyd a
'r polau piniwn diweddar yn awgrymu nad ydi’r Toriaid am fod fawr mwy poblogaidd pan ddaw’r etholiad nesaf nag oeddynt yn ystod y dair etholiad diwethaf. A fyddai’n dda o beth i’r Blaid fod wedi ei chlymu i blaid sy’n methu’n etholiadol yn barhaus ar lefel Prydeinig, heb son am un Gymreig?

‘Dwi’n dechrau rhyw deimlo bod y glymblaid gyda Llafur yn un o’r achosion hynny o’r penderfyniad cywir yn cael ei wneud am y rhesymau anghywir. Mae hyn yn digwydd yn amlach nag y byddai dyn yn meddwl.

Hanes fydd yn barnu hynny wrth gwrs, ond yr her i’r Blaid mae’n debyg ydi peidio gadael i’r Blaid Lafur ein dominyddu, a sicrhau nad gwasanaeth fel arfer a geir o du’r weinyddiaeth yng Nghaerdydd. Mae’r ychydig fisoedd cyntaf yn bwysig yn hyn o beth – dyma pryd y bydd goslef yr ychydig flynyddoedd nesaf yn cael ei gosod.

Ond o lwyddo i wneud hyn, efallai y bydd y daith droellog sydd wedi dod a ni i’r pwynt yma, er gwell i’r Blaid ac i Gymru yn y pendraw.

Thursday, June 21, 2007

Llongyfarchiadau i Anne Bill ar ei M.B.E

Da iawn gweld bod teyrngarwch yn dal yn fyw ac yn iach mewn oes o siniciaeth. Da gweld bod y Goron yn dal i wobreuo ei gweision ffyddlonaf, er nad ydi hynny pob amser yn boblogaidd. Felly llongyfarchiadau gwresog i Anne Bill ar ei M.B.E.

I'r ychydig nad ydynt yn gyfarwydd a chymwynasau arwrwraig yma efallai y dyliwn egluro ei bod yn un o arweinwyr yr Upper-Ardoyne Residents Association, y mudiad oedd yn gyfrifol am bicedu ysgol Babyddol genethod yr Holy Cross yn yr Ardoyne yn 2001.

Yn ogystal a rhegi, sgrechian sarhad a lluchio cerrig at genod bach a'u mamau oedd yn ceisio gwneud eu ffordd i'r ysgol roedd Anne a'i chyfeillion yn taflu balwns yn llawn o biso atynt, taflu bom neu ddau, stwffio lluniau pornograffaidd i wynebau'r genod bach, ac yn gwneud sylwadau am offeiriaid yn sodomeiddio plant bach na fyddai yn gyfreithlon i'w hail adrodd ar fforwm agored fel hwn.

Da iawn Mr Blair, da iawn Mrs Windsor, da iawn Anne.

Mae'n debyg y byddai'n ormod i ddisgwyl i'r stori bach yma wneud i'r Cymry 'da' hynny sydd wedi derbyn medalau'r ymerodraeth amau gwerth eu lwmp o efydd.

Un neu ddau o luniau i gofio'r dyddiau da:




















Sunday, June 17, 2007

Clymblaid arall

Gyda’r holl son am glymbleidio coch / gwyrdd, neu enfys neu beth bynnag tros y dyddiau diwethaf yng Nghymru, mae’n debyg gen in ad oes neb wedi cymryd llawer o sylw o ddrama digon tebyg tros y dwr ym mhrif ddinas un o’n cymdogion agosaf, Iwerddon.

Ers i’r etholiad gael ei gynnal ddiwedd mis Mai, mae trafod di baid wedi bod rhwng gwahanol bleidiau yn y wlad hynod aml bleidiol yma. ‘Doedd yna fawr o amheuaeth mai Bertie Ahern fyddai’r taiseach unwaith eto, gan i Fianna Fail ddod o fewn chew sedd i ennill mwyafrif llwyr. Ond y cwestiwn oedd pwy fyddai partner / partneriaid FF y tro hwn.



Wedi amser maith o drafod, ffraeo, cerdded allan a cherdded yn ol i mewn i’r trafodaethau, death llywodraeth at ei gilydd – Fianna Fail, gweddillion y Progressive Democrats, pedwar aelod annibynnol, a – yn eithaf anisgwyl – y Blaid Werdd.

Gadewch i ni edrych yn frysiog iawn ar y pleidiau:

(1) FF – plaid fwyaf y Weriniaeth ym mhob etholiad ers y tri degau. O ran ideoleg mae’r blaid wedi ei gwreiddio yng nghenedlaetholdeb chwyrn degawdau cynnar y ganrif ddiwethaf. Bellach, er ei bod yn tueddu i ddenu pleidleisiau cenedlaetholwyr, plaid bragmataidd, hyblyg sy’n ymddiddori yn bennaf mewn ennill, cadw ac ymarfer grym gwleidyddol ydi hi.

(2) Y Progressive Democrats – plaid a gollodd yn drwm yn etholiad mis Mai, gan gael ei hun gyda dwy sedd yn unig. Roedd ganddi 8 yn y Dail diwethaf. Plaid a ffurfwyd ddiwedd yr 80au pan adawodd nifer o aelodau blaenllaw FF oherwydd ffraeo di ddiwedd gyda Charles Haughey. Er bod y ddwy blaid yn elynion chwerw ar y cychwyn, mae’r PDs wedi bod yn rhan o pob llywodraeth FF ers hynny. Yn gwahanol i FF mae’r PDs yn ideolegol iawn – adain dde o ran polisiau ariannol, rhyddfrydig o ran polisiau cymdeithasol.

(3) Y Blaid Werdd – digon tebyg i pob plaid werdd arall (oni bai bod yr iaith Wyddeleg yn agos at eu calonau). Yr hyn sy’n anhygoel ydi bod y blaid yma sydd i’r Chwith yn nhermau gwleidyddiaeth Iwerddon wedi mynd i lywodraeth gyda FF a’r PDs. Mae FF yn gallu gogwyddo i’r Dde neu i’r Chwith yn ol y gofyn, ond roedd Blaid Werdd yn eu hystyried yn hollol llwgr. Yn wir, addawodd Trevor Sargent, eu harweinydd, y byddai’n ymddiswyddo cyn arwain ei blaid i glymblaid gyda FF – a gwnaeth hynny – er ei fod wedi pleidleisio tros y glymblaid ac yn disgrifio diwrnod y cytundeb fel diwrnod hapusaf ei fywyd (eglurch honna i fi os gwelwch yn dda). Dirmyg llwyr ydi agwedd y PDs a’r Gwyrddion at ei gilydd.

(4) Aelodau annibynnol. Pump yn unig a etholwyd y tro hwn – i lawr yn sylweddol. Pedwar yn unig a gafodd wahoddiad i glymbleidio.

Ni chafodd Tony Gregory (Chwith, gweriniaethol) yr alwad ffon. Mae’n rhannu etholaeth efo Ahern, ac mewn un cyfri (tua ugain mlynedd yn ol ‘dwi’n meddwl) aeth at Ahern a bygwth torri ei wddf oherwydd i rai o weithwyr etholiadol hwnnw ddwyn ei bosteri. Ni faddeuodd Ahern erioed iddo.

Daw Finian McGrath o’r etholaeth nesaf, ac mae iddo wleidyddiaeth tebyg iawn i Gregory. Cafodd ymuno a'r glymblaid.

Felly hefyd Jackie Healy Ray o Kerry – dyn sy’n tynnu am ei bedwar ugain ac a adawodd FF ddegawd yn ol oherwydd i’r blaid honno beidio a’i ddewis i sefyll am y Dail. Mae Jackie’n nytar llwyr.

Aeth Michael Lowry yn hynod o boblogaith yn North Tipp wedi cael ei daflu allan o Fine Gael oherwydd amheuaeth (amheuaeth a chryn gyfiawnhad iddo) o lygredd. Dechreuodd pleidleiswyr naturiol FF bleidleisio iddo am y tro cyntaf. Ers yr 'anffawd'hwn bydd yn dod ar ben y pol yn ddi eithriad.

Mae Beverly Cooper Flynn yn anhygoel bron wedi cael ei thaflu allan o FF oherwydd cam ymddwyn ariannol. Mae hi’n anodd iawn cael eich taflu allan o FF am y rheswm arbennig yma. Ni chafodd hyd yn oed ei thad ei daflu allan – ac roedd o mewn strach ariannol dragwyddol. Mae Bev mewn ychydig o helynt efo’r awdurdodau , ac mae disgwyl y bydd yn gorfod talu biliau cyfreithiol maes o law – tua dwy filiwn a chwarter ewro. Os na all dalu, caiff eu gwneud yn fethdalwr, a dyna ddiwedd ar ei gyrfa seneddol.

Yr hyn sy’n ddiddorol ydi bod y glymblaid cryn dipyn yn fwy na sydd rhaid iddi fod – ond mae rheswm am hyn. Mae Ahern eisiau clymblaid bullet proof. Dydi o ddim ots os y bydd Jackie yn marw (neu’n cael ei roi mewn cartref), na os ydi Bev yn cael ei hun yn y carchar. Fydd o ddim ots chwaith os ydi’r PDs yn pwdu, nag os ydi’r Blaid Werdd yn pwdu chwaith. Byddai rhaid i o leiaf ddau o’r uchod ddigwydd i chwalu’r glymblaid. Nid ar chwarae bach mae dyn yn cael ei alw yn the most cunning, the most devios, the most ruthless of the all gan Haughey.

Yr hyn sy’n ddiddorol o’n safbwynt ni yng Nghymru ydi bod elfennau mor gyfangwbl gwahanol yn gallu ffurfio llywodraeth efo’i gilydd. Mae clymbleidio rhwng pobl o safbwyntiau gwleidyddol hollol wahanol yn gwbl normal yn yr Iwerddon. Bydd yr un mor normal yma yn y dyfodol.

Monday, May 07, 2007

Etholiadau Cynulliad 2007 - edrych yn ol

Un neu ddau o bwyntiau brysiog am yr etholiad cyn gorffen efo hi:

(1) Mae’r sylwadau hyn ynglyn a’r Lib Dems gan Vaughan Roderick ar ei flog hynod ddarllenadwy yn ddiddorol. Byrdwn y ddadl ydi bod y Lib Dems wedi cam ddeall y ffordd mae’r drefn gyfrannol yn gweithio yng Nghymru a bod y canolbwyntio unffurf ar berswadio pobl i bleidleisio yn dactegol trostynt yn y rhan etholaethol ar drael y rhan rhanbarthol o’r etholiad yn wrth gynhyrchiol.

Yn sicr, gwobr digon tila ydi parhau gyda chwe aelod yn unig am ollwng 2.23 miliwn pamffled trwy ddrysau pobl. Gellir dadlau mai’r lleiafswm posibl o seddi y gallai’r Lib Dems eu cael yng Nghymru ydi 5 – un ar gyfer pob rhanbarth. Yr oll maent wedi llwyddo i’w gael mewn tair etholiad Cynulliad yn olynnol ydi chwech – un yn fwy na’r lleiafswm posibl. Mae rhywbeth mawr o’i le yn y ffordd maent yn ymgyrchu yn yr etholiadau hyn.

(2) Mae dadl yn mynd rhagddi ar faes e ar hyn o bryd ynglyn a’r ffaith nad yw’r Blaid wedi llwyddo i ‘dorri trowodd’ yn y Cymoedd – a’r consensws ydi mai gweddol anobeithiol ydi gobeithio gwneud hynny. Yn sicr, o edrych ar fap gwleidyddol mae gafael y blaid yn edrych yn weddol soled – coch ydi pob un o seddi’r Cymoedd ag eithrio Blaenau Gwent. Ond mae ffordd arall o edrych ar bethau. Isod wele pleidlais a chanranau’r Llafur yn 1997 (etholiad cyffredinol) ac yn 2007 (etholiad Cynulliad). (Dwi’n defnyddio ‘Cymoedd mewn ffordd eithaf llac yma).

1997 2007

Blaenau Gwent 31,493 (79.5%) 7,365 (31.32%)
Caerffili 30,687 (67.8%) 8,937 (33.2%)
Penybont 25,115 (58.1%) 9,889 (40.28%)
Cwm Cynon 23,307 (69.7%) 11,058 (56.66%)
Islwyn 26,995 (74.2%) 8,883 (37.7%)
Merthyr 30,012 (76.7%) 7,776 (36.98%)
Castell Nedd 30,324 (73.5%) 10,934 (43.39%)
Ogwr 28,163 (74%) 11,761 (51.66%)
Pontypridd 29,290 (63.9%) 9,836 (41.85%)
Rhondda 30,381 (74.5%) 12,875 (58.24%)
Torfaen 29,863 (69.1%) 9,921 (42.74%)

Y gwir ydi mai gweddol fregys ydi gafael y Blaid Lafur ar y Cymoedd erbyn hyn. Y broblem ydi bod y gwrthwynebiad i Lafur wedi ei hollti ac nad oes yr un plaid mewn sefyllfa i herio oherwydd hynny. Yr her i Blaid Cymru ydi creu naratif gwleidyddol sy’n dod a’r gwrthwynebiad i Lafur at ei gilydd. Yr hyn sydd ei angen ydi i'r Blaid lwyddo i ddod a'r holl wrthwynebiad yn y Cymoedd at ei gilydd o dan un to - rhywbeth tebyg i'r hyn a lwyddodd yr SNP i'w wneud ar hyd yr Alban ddiwydiannol (neu ol ddiwydiannol a bod yn fwy cywir).

Mae angen nifer o bethau i hyn weithio - arweinyddiaeth a phropffeil uchel iddo ydi un, a naratif gwleidyddol syml a chlir ydi un arall.

(3) Llwyddodd Plaid Cymru i wneud yn dda yn y Fro Gymraeg, a llwyddwyd i sefydlogi a throi dirywiad graddol yng Ngheredigion ac Ynys Mon. Yn wir mae’r map etholaethol yn edrych yn ddigon gwyrdd i’r gorllewin o’r Llychwr ac Afon Conwy bellach. Byddai’n gwbl wyrdd pen a bai hen ardal Seisnig De Penfro yn bodoli. Yn ychwanegol mae’r rhan fwyaf o’r seddi yn edrych yn ddigon diogel ar gyfer y dyfodol.

(4) Mae pethau’n edrych yn well i’r Toriaid hefyd, ac yn wir cawsant fwy o bleidleisiau na’r Blaid yn yr etholiad rhanbarthol. Maent wedi cryfhau eu sefyllfa’n sylweddol yn y brifddinas a rhai o’r etholaethau cyfagos, ac meant wedi gwneud yr un peth yn etholaethau ffiniol y Gogledd Ddwyrain. Serch hynny, mae’n anodd teimlo nad ydynt yn gwneud digon – cwpwl o bwyntiau canrannol yn unig oeddynt yng Nghymru o dan arweinyddiaeth Cameron nag oeddynt o dan arweinyddiaeth Iain Duncan Smith.

Thursday, May 03, 2007

Darogan canlyniadau'r etholiad

Fel yma 'dwi'n ei gweld hi. Dwi'n cymryd y bydd Plaid yn cael tros chwarter y bleidlais, Llafur o dan traean, Toriaid tua pumed a Lib dems o dan bumed. Dwi hefyn yn cymryd y bydd tua 43% o'r etholwyr yn pleidleisio. Os ydyw llawer yn is na 40% bydd UKIP yn ennill seddi - yn y Canolbarth a'r Gogledd.

Gogledd Cymru

Ynys Mon – Plaid (Dim newid). Y son ydi bod PC wedi cael tua 40% o’r pleidleisiau bost yn yr etholiad uniongyrchol a 50% yn yr un ranbarthol.
Caernarfon – Plaid (Dim newid)
Aberconwy – Plaid - Pleidlais Llafur i syrthio’n sylweddol iawn yma – mae’r ymgeisydd yn wael, ac mae’r newid ffiniau wedi bod yr un mor wael.
Alyn a Glanau Dyfrdwy – Llafur – (Dim newid).
Gorllewin Clwyd – Plaid – (Ennill oddi wrth Lafur) Anodd iawn dweud yma – ond dwi’n teimlo y bydd rhywun yn curo Llafur yma – ac mae ymgeisydd y Blaid yn ymddangos yn gryfach o lawer nag un y Toriaid)
Delyn – Ceidwadwyr (Ennill oddi wrth Lafur) Sedd Seisnig iawn a allai ddilyn patrwm Prydeinig.
Dyffryn Clwyd – Ceidwadwyr (Ennill oddi ar Lafur)
De Clwyd – Llafur (Dim newid)
Wrecsam – Annibynnol (Dim newid) Agos iawn – ond bydd y bleidlais gwrth Lafur yn hel o gwmpas Marek.

Seddi uniongyrchol – Plaid – 4
Llafur – 2
Ceidwadwyr - 2
Lib Dems – 0
Eraill – 1

Seddi rhanbarth – Plaid 1
Ceidwadwyr 1
Lib Dems - 1
Llafur – 1

Cyfanswm – Plaid – 5
Llafur - 3
Ceidwadwyr -3
Lib Dems – 1
Eraill - 1

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Meirion / Dwyfor – Plaid (Dim newid)’
Ceredigion Plaid (Dim newid) Hwyrach y gall y Lib Dems ein curo ni ar gyfradd pleidleisio o 67%, ond go brin y gallant wneud hynny ar un fydd yn nes at 50%.
Dwyrain Caerfyrddin Plaid (Dim newid)
Llanelli – Plaid (Ennill oddi wrth Lafur). Byddai’r gogwydd lleiaf yn ei rhoi hi i’r Blaid, ac mae pethau’n fwy ffafriol byth yma gan bod un o’n aelodau cynulliad mwyaf effeithiol yn erbyn un o rai lleiaf effeithiol Llafur.
Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro – Plaid (Ennill oddi wrth Lafur). Mae rhywun am guro Gwyther, mae’r gwynt yn debygol o fod yn ein hwyliau ni yn genedlaethol – felly ni fydd yn gwneud hynny. Gallai Llafur yn hawdd fod yn drydydd.
Preseli Penfro – Ceidwadwyr (Ennill oddi ar Lafur). Gallai hon fod yn agos iawn rhwng tri, a gallai Llafur yn hawdd ddod yn drydydd.
Trefaldwyn – Lib Dems (Dim newid) Gallai hon fod yn agos iawn rhwng y Ceidwadwyr a’r Lib Dems – dydi cheeky boy heb helpu’r achos yma, ac mae’r ymgeisydd Ceidwadol yn gryf – ond mae fy mhres i ar y Lib Dems.

Felly:

Seddi uniongyrchol – Plaid – 5
Llafur – 0
Ceidwadwyr - 1
Lib Dems – 2
Eraill – 0

Seddi rhanbarth – Plaid 1
Llafur – 2
Ceidwadwyr 1
Lib Dems - 0
UKIP –
A defnyddio’r ffigyrau dwi wedi eu defnyddio, mae’r sedd olaf yn agos iawn rhwng Plaid, Ceidwadwyr, Lib Dems ac UKIP. Mae yna lais bach anymunol yn dweud wrthyf mai UKIP aiff a hi.

Cyfanswm – Plaid – 5
Llafur - 2
Ceidwadwyr -2
Lib Dems – 2
UKIP – 1

Gorllewin De Cymru:

Dwyrain Abertawe – Llafur (Dim newid). Dydi’r Blaid Lafur heb fod yn gwneud yn dda iawn yn Abertawe yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a fyddwn i ddim yn rhyfeddu gweld eu mwyafrif yn cwympo i lain a 1,000.
Gorllewin Abertawe – Plaid – Mae hon yn un anodd iawn i’w darogan. Petai pleidlais Llafur yn syrthio chwech neu saith y cant – sy’n ddigon posibl yn ol y polau, yna byddai Llafur yn colli’r sedd. Alla id dim dweud os ma i ni neu’r Lib Dems y digwydd hynny, ond mi ro i gynnig ar Plaid.
Aberafon – Llafur (Dim newid).
Castell Nedd – Llafur (Dim newid). Fyddwn i ddim yn syfrdan petai mwyafrif Llafur i lawr yn sylweddol iawn yma chwaith. Plaid Cymru fydd yn pwyso y tro hwn.
Ogwr – Llafur (Dim newid)
Pen y Bont – Llafur (Dim newid) Gallai’r Toriaid ddod yn agos yma, ond go brin y byddant yn ennill.
Gwyr – Llafur (Dim newid) Gallai’r mwyafrif fod yn fach yma eto.

Felly:

Seddi uniongyrchol – Plaid – 1
Llafur – 6
Ceidwadwyr - 0
Lib Dems – 0
Eraill – 0

Seddi rhanbarth – Plaid - 2
Llafur – 0
Ceidwadwyr -1
Lib Dems - 1
UKIP –

Cyfanswm – Plaid – 3
Llafur - 6
Ceidwadwyr - 1
Lib Dems – 1
UKIP –

Canol De Cymru

Rhondda – Llafur (Dim newid).
Cwm Cynon – Llafur (Dim newid)
Pontypridd –
Canol Caerdydd – Lib Dem (Dim newid) Bydd hon ymhlith seddi mwyaf saff y wlad ar ol Mai 3.
Gogledd Caerdydd – Ceidwadwyr (Ennill oddi wrth Lafur) – y Ceidwadwyr i fynd a hon yn hawdd.
De Caerdydd a Phenarth – Llafur (Dim newid) Hwyrach y bydd y Toriaid yn eithaf agos yma.
Gorllewin Caerdydd – Llafur (Dim newid) Mwyafrif Rhodri i gwympo yn sylweddol a’r Blaid i ddod yn ail cryf.
Bro Morgannwg – Toriaid (Ennill oddi wrth Lafur)
Pontypridd – Llafur (Dim newid)

Seddi uniongyrchol – Plaid – 0
Llafur – 5
Ceidwadwyr - 2
Lib Dems – 1
Eraill –

Seddi rhanbarth – Plaid - 2
Llafur – 0
Ceidwadwyr - 1
Lib Dems - 1


Cyfanswm – Plaid – 2
Llafur - 5
Ceidwadwyr - 3
Lib Dems – 2


Dwyrain De Cymru –

Islwyn – Plaid (Ennill oddi wrth Lafur) Sioc fawr 1999. Ymgeisydd Llafur yn wan iawn.
Caerffili – Plaid (Ennill oddi wrth Lafur) Hollt yn y Blaid Lafur yn rhoi cyfle i’r Blaid.
Gorllewin Casnewydd – Llafur (Dim newid)
Dwyrain Casnewydd – Llafur (Dim newid)
Torfaen – Llafur (Dim newid)
Mynwy – Ceidwadwyr (Dim newid)
Blaenau Gwent – Annibynnol (Dim newid).
Merthyr – Llafur (Dim newid)



Seddi uniongyrchol – Plaid – 2
Llafur – 4
Ceidwadwyr - 1
Lib Dems – 0
Eraill – 1

Seddi rhanbarth – Plaid - 1
Llafur – 1
Ceidwadwyr - 1
Lib Dems - 1
UKIP –

Cyfanswm – Plaid – 3
Llafur - 5
Ceidwadwyr - 2
Lib Dems – 1
Eraill - 1

Wednesday, April 25, 2007

Plan 3 y Blaid Lafur

Un neu ddau o bwyntiau brysiog ynglyn a stori fawr y diwrnod:

Yn gyntaf mae beth ddigwyddodd yn gwbl rhyfeddol. Canolbwynt ymgyrch Llafur hyd yma oedd Vote Plaid, get Tory. Yn sicr, dyma unig thema etholiadol yr ymgeisydd Llafur yn yr ardal yma. Eto - os ydi stori'r BBC i'w gredu, bwriad gwirioneddol Llafur ydi dod i gytundeb a Phlaid Cymru wedi'r etholiad - rhywbeth maent wedi tyngu na fyddent yn ei wneud ers misoedd.

Mae Rhodri Morgan bellach yn gwadu hyn, ac mae Peter Hain wedi rhyddhau datganiad sydd ar yr olwg gyntaf yn gwadu'r honiad - ond o edrych yn agosach nid yw'n gwadu'r peth o gwbl.

Mae sawl eglurhad:

(1) Mae'r gohebydd a dorrodd y stori, Vaughan Roderick, yn dweud celwydd.

(2) Mae Rhodri Morgan yn dweud celwydd.

(3) Mae rhywun oddi fewn i'r Blaid Lafur yn gweithredu tu cefn i Rhodri, ac yn ol pob tebyg yn cynllwynio yn ei erbyn.

(4) Mae Rhodri yn rhyw hanner dweud y gwir hy mae yn gynnil efo'r gwirionedd.

Fe allwn ddiystyru (1) cyn gwneud dim byd arall. Mae'n gwbl sicr y byddai'n rhaid i Vaughan brofi tu hwnt i pob amheuaeth i reolwyr y Bib bod y stori'n wir, neu ni fyddai wedi ei rhyddhau gan y Bib. Petai Vaughan yn cael ei ddal yn dweud celwydd, byddai yn sefyll yng nghiw dol Cowbridge Road yn fuan yr wythnos nesaf.

Fe allwn hefyd anghofio (3). Efallai bod gan Rhodri elynion oddi mewn i'w blaid - a rhai sydd yn gogwyddo tuag at Plaid Cymru ar hynny - ond mae'r wybodaeth mor ffrwydrol yng nghyd destun yr etholiad arbennig yma, fel ei bod yn anhebygol y byddant yn darnio eu hymgyrch eu hunain er mwyn niweidio Rhodri - yn sicr yng nghanol etholiad.

Mae (2) yn bosibl. Bydd gwleidyddion yn dweud celwydd yn aml.

Ond (4) yw'r mwyaf tebygol. Mae'n debyg gen i bod Llafur wedi bod yn edrych ar eu data canfasio, ac wedi dod i'r casgliad na allant reoli ar eu pen eu hunain, a'i bod yn fwy na phosibl na fyddant yn gallu ffurfio llywodraeth efo'r Democratiaid Rhyddfrydol chwaith. Mae trafodaeth fewnol anffurfiol wedi mynd rhagddi, ac mae plan C wedi ei ffurfio - llywodraeth Lafur yn cael ei chefnogi o'r tu allan gan y Blaid. Dydi Rhodri heb arwain hyn, ond mae'n ymwybodol o'r deillianau. Mae rhywun wedi penderfynu paratoi'r ffordd trwy siarad gyda Vaughan, ond nid yw Rhodri wedi rhoi caniatad iddynt wneud hynny.

Beth bynnag Vaughan, da iawn chdi - hwyrach bod y bennod bach hon am wneud mwy o les i Walia nag a lwyddaist i'w wneud yn dy orffennol pell mwy, ah hem, chwyldroadol.

Tuesday, April 24, 2007

Pam mor bwysig ydi posteri mewn etholiadau erbyn hyn?

Mae llai o lawer o sticeri o gwmpas mewn ffenestri tai a cheir yn etholaeth Arfon (a hyd y gwelaf i, Meirion Dwyfor) nag a fu mewn rhai etholiadau blaenorol. Roedd llawer iawn, iawn o bosteri o gwmpas yn 97 - ond y penllanw yn fy marn i oedd 83.

'Dwi'n deall bod llawer o bosteri yng Ngheredigion heddiw. Cymharol ychydig oedd i'w gweld yno pan oeddwn i'n fyfyriwr yn Aber yn ol yn 1979 - yn sicr o gymharu ag etholaeth Caernarfon. Am wn i bod ffasiwn yn newid - a mae posteri yn rhyw fath o gaseg eira - mae pobl yn tueddu i'w rhoi nhw i fyny pan mae cymdogion o berswad arall yn rhoi eu rhai nhw i fyny.

Ond y cwestiwn diddorol ydi - pam mor effeithiol ydi posteri?

Yn fy marn bach i, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ‘dydi posteri ddim yn bwysig iawn. ‘Dwi’n siwr bod un neu ddau o bobl yn cael eu argyhoeddi gan bosteri – ond prin iawn ydi’r bobl hyn. Yn achos Ceredigion, neu Arfon mae’n hysbys i bawb pwy fydd y ddwy blaid fwyaf, felly, eto yn fy marn i, ni fydd posteri yn cael dylanwad mawr ar y pleidleisio (er bod rhywun ddylai wybod yn well wedi dweud wrthyf heddiw mai trydydd fydd Llafur yn Arfon).

‘Dwi ddim yn amau chwaith bod mor o bosteri yn codi’r gyfradd bleidleisio rhyw ychydig, oherwydd bod pobl yn cael eu hatgoffa o’r etholiad trwy’r amser – ond mae’r gyllell yma yn torri dwy ffordd. - mae cefnogwyr pleidiau eraill yn cael eu hatgoffa o’r etholiad hefyd.

Fodd bynnag, ‘dwi’n credu bod posteri yn effeithiol o dan rhai amgylchiadau. Mewn edefyn arall mae’r Gath yn dweud ei fod o’r farn bod y mor o bosteri a godwyd gan Lafur yn etholiad 97 yn hen etholaeth Caernarfon wedi bod o gymorth iddynt (er ei fod hefyd o’r farn nad yw posteri at ei gilydd yn effeithiol). ‘Dwi’n digwydd cytuno bod y defnydd o bosteri yn yr achos arbennig hwnnw wedi bod yn effeithiol.

Y rheswm oedd bod Llafur wedi bod yn hynod o aneffeithiol wrth dynnu sylw atyn nhw eu hunain yn yr etholiadau blaenorol, a bod y Blaid wedi cornelu cyfran helaeth o’r bleidlais wrth Doriaidd. Pleidlais Lafur oedd cydadran go lew o honno yn y bon. Roedd y posteri, fel rhan o ymgyrch ehangach, ac mewn cyd destun lle’r oedd y gwynt yn hwyliau Llafur, yn ffordd nerthol o atgoffa pobl bod yr opsiwn Llafur ar gael. Ymgyrch Eifion Williams yn hen etholaeth Caernarfon yn 97 ydi un o’r rhai mwyaf effeithiol rwy’n ei chofio. Roedd y defnydd o bosteri yn rhan bwysig o’r ymgyrch honno.

Sefyllfa arall lle mae’r defnydd o bosteri yn bwysig ydi lle mae hollt tair (neu bedair) ffordd, lle mae posibilrwydd o bleidleisio tactegol, a lle nad yw’n hysbys pwy sy’n debygol o ennill. Mae seddi Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro ac i raddau llai Penfro Preseli yn syrthio i’r categori hwn. Mae siarad ar y stryd yn bwysicach na phosteri – ond gall posteri gyfranu at y canfyddiad cyffredinol o pwy sy’n gystadleuol mewn sefyllfa fel hyn.

Mewn geiriau eraill, dydi posteri ond yn effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd arbennig, ac hynny ond fel rhan o ymgyrch ehangach effeithiol.

Sunday, April 22, 2007

Vote Plaid, get Conservative. Strategaeth anonest.

Mae gen i daflen Llafur o fy mlaen ar hyn o bryd – y daflen honno sy’n cael ei dosbarthu trwy Gymru – hynny yw eu prif daflen. Mae tua dau draean ohoni yn amrywiaeth ar y thema bod perygl mawr i’r Toriaid ddod i rym yng Ngymru, bod pleidlais i bawb arall yn bleidlais tros lywodraeth Doriaidd, ac y byddai angau, gwae a gwewyr yn dilyn o hynny. Cymharol ychydig o ymdrech a wneir i frolio ‘llwyddiannau’ Llafur tros y ddau dymor diwethaf, nag yn wir i werthu addewidion y blaid honno ar gyfer y tymor nesaf. Mewn geiriau eraill, ceisio dychryn pobl i bleidleisio trostynt ydi prif thema’r daflen. A barnu oddi wrth eu cyfraniadau yn y cyfryngau a blogiau, megis un Martin, dyma brif thema eu hymgyrch.

O sefyll yn ol am ennyd, mae’r cysyniad yn gwbl chwerthinllyd. Ystyrier y canlynol:

(1) Llafur oedd yn gyfrifol am greu’r dull rhannol gyfrannol a ddefnyddir i ethol y Cynulliad. Er bod y dull yn un gwael, maent i’w canmol am wneud hynny. Byddai trefn first past the post llwyr wedi creu rhyw fersiwn genedlaethol o’r hen Gyngor Canol Morgannwg, ac wedi amddifadu’r Toriaid o unrhyw gynrychiolaeth o gwbl bron, er bod ganddynt gefnogaeth digon soled. Byddai’r ddau sefyllfa wedi body n drychineb i ddemocratiaeth Gymreig.

Un o brif nodweddion dull cyfrannol o ethol gwleidyddion ydi ei fod yn amlach na pheidio yn gorfodi gwleidyddion i gyd weithio.

(2) Ymddengys bod Llafur yn gwrthod cydweithredu efo dwy o’r tair prif blaid – er ei bod yn ymddangos bod rhai o’u hymgeiswyr o dan yr argraff nad ydynt am gyd weithredu efo neb.

(3) Os ydw i’n deall pethau yn iawn, yr esgys tros wrthod cyd weithredu efo’r Toriaid ydi gwahaniaethau ideolegol, a’r ffaith bod Llafur wedi argyhoeddi eu hunain y byddai’r awyr yn syrthio ar ein pennau petai’r Toriaid gyda mymryn o ddylanwad ar lywodraeth.. Duw a wyr beth ydi’r gwahaniaethau, mae’n anodd cael papur sigarets rhwng y ddwy blaid yn y rhan fwyaf o feysydd.

(4) Dydi Plaid Cymru ddim ffit i rannu grym efo Llafur oherwydd eu bod yn rhyw hanner credu mewn annibyniaeth. ‘Rwan mae hyn yn eithaf chwerthinllyd – dydi’r Blaid ddim yn galw hyd yn oed am refferendwm ar y mater (er mawr gywilydd iddi). Mae’n debyg y byddai’r Blaid yn ei chael yn haws i gyd weithredu efo Llafur nag efo’r Toriaid.

Felly, mae’r sefyllfa lle mae yna bosibilrwydd y bydd y Toriaid yn cael eu hunain mewn llywodraeth yn un sydd wedi ei chreu yn llwyr gan y Blaid Lafur ei hun – ac mae wedi ei chreu i raddau helaeth am resymau sy’n ymwneud a strategaeth etholiadol.

Yn ymarferol os ydi Llafur yn gwrthod cyd weithredu efo’r Blaid, nag efo’r Toriaid, a’n bod yn darganfod ar Fai 4 nad oes ganddyn nhw a’r Democratiaid Rhyddfrydol y niferoedd o ran seddi i ffurfio llywodraeth, yna unig ddewis y pleidiau eraill fydd cyd weithredu i ffurfio llywodraeth, neu adael y wlad yn ddi lywodraeth i bob pwrpas am bedair blynedd. Fyddai yna ddim dewis yn ymarferol. Byddai’r glymblaid PC / Toriaid wedi ei chreu gan y Blaid Lafur ei hun.

Dwi ddim yn siwr pam mor effeithiol fydd y strategaeth - dwi wedi canfasio rhai canoedd o bobl bellach yn nhref Caernarfon, ac nid oes yr un enaid byw wedi son am y peth.

Friday, April 20, 2007

Llafur yn drydydd yng Ngorllewin Clwyd?

Allan yn canfasio yng Nghaernarfon heddiw, a chael sgwrs rhwng y drysau efo ambell un sydd wedi bod wrthi ar hyd a lled y Gogledd.

Y son oedd bod Llafur yn debygol o ddod yn drydydd mewn dwy sedd maent yn eu dal ar hyn o bryd - Aberconwy a Gorllewin Clwyd.

Tybed lle arall bydd Llafur yn dod yn drydydd neu waeth?

Ynys Mon mae'n siwr, er mai nhw sy'n dal y sedd seneddol. Gallent yn hawdd ddod yn drydydd yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro a hyd yn oed ym Mhenfro Preseli. Pedwerydd fyddant yng Ngheredigion ac efallai yn Nhrefaldwyn. Trydydd fydd eu safle ym Mrycheiniog Maesyfed.

Tybed os oes yna unrhyw le arall y daw plaid Blair yn drydydd neu waeth ynddo.

Wednesday, April 18, 2007

Pam nad ydi pobl dlawd na phobl gyfoethog yn cwyno?

Allan yn canfasio yng Nghae Gwyn a Ffordd Ysgubor Wen yng Nghaernarfon heno.

I'r rhai ohonoch nad ydych yn adnabod tref y Cofis yn dda iawn, mae'r ardal yma yn gefnog iawn - mae'n debyg ei bod ymysg y llefydd cyfoethocaf yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Roedd y ganfas yn un hynod o gadarnhaol, ac roedd yn noson lle nad oedd yr un enaid byw yn cwyno am ddim. Cefais noswaith debyg nos Lun o ran y cwyno beth bynnag - canfasio Bro Seiont yn Ne'r dre. Un o ardaloedd tlotaf y Gogledd Orllewin. Neb yn cwyno am ddim.

Mae ambell i ardal lle mae pobl yn cwyno am pob math o bethau - dim digon o ddatblygu yn y dre, gormod o ddatblygu, dim byd yma, y pethau sydd yma fel y Galeri a'r Ganolfan Denis yn wastraff arian, dim digon o le i barcio, pob dim yn mynd i Gaerdydd, y ffaith bod yr ymgeisydd Llafur yn gwisgo crys T tyn, pinc, rhyfel Irac, gormod o Saeson, gormod o bwyslais ar y Gymraeg, cyffuriau, baw ci, diffyg cyfyngder gyrru, datblygiad newydd Watkin Jones ac ati ac ati.

Ond anaml iawn mewn ardal dlawd - na mewn ardal gyfoethog. Pam tybed?

Tuesday, April 17, 2007

Pam bod Plaid Cymru yn gwneud yn well mewn etholiadau Cynulliad?

'Dwi'n gwybod fy mod wedi gaddo gwneud rhywbeth arall, ac fe wnaf hynny maes o law - ond hyd yr etholiad fe geisiaf 'sgwennu gair neu ddau yn ddyddiol.

I roi fy nghardiau ar y bwrdd cyn cychwyn, 'dwi'n aelod o Blaid Cymru, 'dwi'n canfasio yn aml i'r blaid honno - yn ardal Caernarfon fel rheol, a 'dwi'n gadeirydd y Blaid yn nhref Caernarfon ar hyn o bryd. Cangen fwyaf Cymru fel mae'n digwydd bod.

Beth bynnag, at y cwestiwn - mae pawb yn gwybod bod y Blaid yn gwneud yn gymharol dda mewn etholiadau Cynulliad, ond ychydig o bobl sy'n deall pam. Yn fy marn i mae pedwar prif reswm am hyn:

(1) Mae pobl yn tueddu i resymu'n gwahanol mewn etholiad Cymru gyfan - dydi'r hen ddadl bod pleidlais i'r Blaid yn wastraff o bleidlais ddim yn dal dwr.

(2) Mae'r gyfradd pleidleisio yn is nag yw mewn etholiad San Steffan - ac mae Pleidwyr yn well am fynd allan i bleidleisio na dilynwyr y pleidiau Prydeinig - yn arbennig mewn etholiad Gymreig.

(3) Mae'r sylw a gaiff y pleidiau ar y cyfryngau yn weddol gyfartal.

(4) Ac yn bwysicach na dim efallai mae'r gwariant yn fwy cyfartal. Mae'r pleidiau Prydeinig yn fodlon gwario llawer iawn, iawn ar etholiadau San Steffan - ond nid ydynt yn fodlon gwario yn agos cymaint ar etholiadau Cymreig. Ystyrier y ffigyrau hyn sy'n dangos faint a wariwyd gan pob plaid fawr yng Nghymru yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf (2005):

Llafur - £1,075,470.00
Torïaid - £845,015.71
Dem Rhydd - £258,115.00
Plaid - £38,879.00

Yn anhygoel gwariodd y Toriaid £280,000 am pob un o'i tair sedd yng Nghymru.

Ffordd arall i edrych ar hyn ydi faint mae pob plaid yn ei wario y bleidlais. Dyma'r ffigyrau tros Brydain yn 2005:

Llafur: £1.90
Toriaid: £2.03
Lib Dems: 72p
SNP: 47p
Plaid Cymru: 22p
UKIP: £1.07
Plaid Werdd: 62p
BNP: 58p

Felly, mae'n dda gen i ddweud - y blaid ydi'r Blaid mwyaf cost effeithiol ym Mhrydain - mewn etholiadau o leiaf.

Sunday, March 18, 2007

Demograffeg Gogledd Iwerddon

Am rhyw reswm bum ddigon ffol i addo edrych ar hyn ar faes e yr wythnos diwethaf - felly dyma ni.

Y data pwysicaf sydd ar gael i ni ydi deilliannau y cwestiwn ar grefydd yng nghyfrifiad 2001. Nodaf y ffigyrau isod:

Pabyddion - 678,462 (40.26%)
Eglwys Anglicanaidd - 257,788 (15.30%)
Presbeteriaid - 348,742 (20.69%)
Methodistiaid - 59,173 (3.51%)
Cristnogion Eraill - 102,211 (6.07%)
Crefyddau Eraill - 5,082 (0.33%)
Di Grefydd neu heb ateb y cwestiwn - 233,853 (13.88%)

I roi rhyw fath o gyd destun i’r uchod mae’n dangos parhad mewn patrwm a sefydlwyd ar ddechrau’r ‘rhyfel’ yn nechrau’r 70au o dwf graddol yn y ganran Babyddol a chwymp yn y canrannau Protestanaidd. Er enghraifft y ganran Babyddol yn 1971 oedd 31.4%, y ganran Anglicanaidd oedd 22.0%, tra bod y ganran Bresbeteraidd yn 26.7% a’r un Fethodistaidd yn 4.7%.

Yn ol at ffigyrau 2001 – mae’n amlwg bod y ganran Babyddol yn uwch nag yw cyfanswm canrannau y tri enwad a gysylltir fel rheol gyda gwleidyddiaeth unoliaethol – Anglicaniaid, Presbeteriaid a Methodistiaid – 40.26% i 39.5%. Serch hynny, yn fy marn i mae’n rhesymol ychwanegu bron i’r cwbl o’r sawl a ddisgrifir fel ‘Cristnogion Eraill’ at y cyfanswm Unoliaethol / Protestanaidd. Ceir dwsinau o grwpiau yma – gan gynnwys yr Eglwys Uniongred – sy’n sicr ddim yn Brotestaniaid, a’r Crynwyr sydd yn draddodiadol heb fod a llawer o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth llwythol y dalaith. Ond, o ran niferoedd mae mwyafrif llethol y 6% yn perthyn i rhyw sect Brotestanaidd neu’i gilydd.

Felly, mae mwy o Brotestaniaid na sydd o Babyddion – o tua 5.5% - goruwchafiaeth – ond un fyddai’n diflannu mewn 10 i 15 mlynedd pe bai tueddiadau’r ychydig ddegawdau diwethaf yn parhau – ond nid yw pethau mor syml a hynny wrth gwrs.
Y prif gymhlethdod mae’n debyg ydi’r ffaith bod mwy o lawer o bobl bellach yn syrthio i’r categori ‘di grefydd neu heb ateb y cwestiwn' nag erioed o’r blaen - 233,853, neu 13.88% o’r boblogaeth. Yn amlwg mae agweddau gwleidyddol y grwp / grwpiau hyn o’r pwysigrwydd eithaf mewn cyd destun lle mae’r cyd bwysedd crefyddol / llwythol mor dyn.

Mae’n amlwg bod swyddfa’r cyfrifiad yn cytuno oherwydd iddynt fynd ati i geisio priodoli ‘cefndir’ crefyddol aelodau’r grwp yma. Mae’n debyg i sawl dull gael ei ddefnyddio wrth briodoli – ond un o’r pwysicaf oedd priodoli pobl yn ol cod post. Mae cymdeithas yng Ngogledd Iwerddon wedi ei segrigeiddio, ac mae cod post unigolyn yn rhoi syniad eithaf clir o’i grefydd a’i wleidyddiaeth.
Casgliad yr ystadegwyr oedd mai’r canrannau wedi ail ddosbarthu’r grwp oedd bod 43.75% yn ‘Babyddion’, 53.12% yn ‘Brotestaniaid’ a bod 3.13% yn wir heb gefndir crefyddol / gwleidyddol. Roeddynt wedi priodoli pobl ar raddfa o 7:4 i’r grwp Protestanaidd.

Fel pob dim arall yn y dalaith roedd anghytuno ynglyn a hyn – roedd rhai er enghtaifft yn dadlau bod Pabyddion sy’n byw mewn ardaloedd Protestanaidd yn debygol iawn o gyfaddef hynny ar ffurflen swyddogol. Does gen i ddim barn ynglyn a’r mater, ac am weddill y darn hwn byddaf yn defnyddio y ffigyrau ‘cefndir crefyddol’ sydd wedi eu cynhyrchu gan swyddfa’r cynulliad, yn hytrach na’r data gwreiddiol. Byddwn yn nodi fodd bynnag, y byddai’r mwyafrif Protestanaidd yn debygol o ddod i ben tua chanol y ddegawd nesaf petai swyddfa’r cyfrifiad wedi priodoli ar raddfa o 1:1 yn hytrach na 7:4. Byddai’n cymryd ychydig mwy o amser i’r mwyafrif etholiadol i ddod i ben.

Y cwestiwn allweddol ydi – a fydd tueddiadau’r degawdau diweddar yn parhau?

Y peth cyntaf i ddweud ydi bod ‘baby boom’ mawr Pabyddol y 70au a’r 80au wedi dod i ben i bob pwrpas. Er enghraifft 1.95 plentyn y wraig ydi graddfa ffrwythlondeb West Belfast (y sedd seneddol mwyaf Pabyddol) – uwch na chyfradd y chwe sir yn ei gyfanrwydd, ond is na’r raddfa sydd ei hangen i gadw’r boblogaeth yn sefydlog. Mae ambell i le lle mae’r gyfradd geni yn dal yn uchel iawn – mae rhai o wardiau South Armagh gyda chyfradd ffrwythlondeb o fwy na 3.0 er enghraifft – ond eithriadau ydi’r rhain.

Yr ail beth y dylid ei nodi ydi bod y dosbarthiad o Babyddion a Phrotestaniaid o fewn y strwythyr oed yn anwastad iawn. Fel y dywedwyd eisoes, yn ol yr ystadegwyr mae 43.75% o’r boblogaeth o gefndir Pabyddol tra bod 53.12% o gefndir Protestanaidd. Ond mae’r darlun yn newid os ydym yn rhannu’r ffigyrau hyn i oedranau gwahanol:

0-4 oed – cefndir Pabyddol 49.08%, cefndir Protestanaidd 43.10%.
5-15 oed - cefndir Pabyddol 50.07%%, cefndir Protestanaidd 45.11%.
16 – 24 oed - cefndir Pabyddol 50.44%, cefndir Protestanaidd 46.10%.
25 – 44 oed - cefndir Pabyddol 44.74%, cefndir Protestanaidd 52.22%.
45 – 64 oed - cefndir Pabyddol 39.20%, cefndir Protestanaidd 59.02%.
65+ oed - cefndir Pabyddol 32.98%, cefndir Protestanaidd 66.23%.

Mewn geiriau eraill mae mwyafrif y sawl sydd o dan 30 bellach o gefndir Pabyddol, tra bod dau draean o’r sawl sydd tros 70 yn Brotestaniaid. Ar ben hynny mae’r ganran o bobl o gefndir Protestanaidd yn y boblogaeth yn disgyn trwy’r grwpiau oedran.

Y trydydd peth y dylid ei nodi ydi bod ffactorau eraill ar waith. Mae mewnfudiad wedi effeithio ar bethau erioed – gyda mewnfudiad o’r Weriniaeth yn effeithio ar ardaloedd fel Tyrone a Derry, tra bod mewnfudiad mwy sylweddol o Loegr i’r ardaloedd Dwyreiniol. Mae’n anodd barnu arwyddocad y mewnlifiad hwn gan ei bod yn dra phosibl mai pobl o’r dalaith yn symud adref oedd llawer o’r rhain. Ond heddiw mae mewnlifiad sylweddol – degau o filoedd o bobl mae’n debyg o Ddwyrain Ewrop. Pabyddion ydi llawer iawn o’r rhain, ond maent yn tueddu i fyw mewn ardaloedd Protestanaidd – mae’n rhatach rhentu mewn lleoedd felly mae’n debyg. Pan fydd eu plant yn mynd i’r ysgol byddant yn mynd i ysgolion Pabyddol. A fyddan nhw yn mabwysiadu gwleidyddiaeth eu cyd Babyddion? Mae’n anodd dweud – ond efallai mai’r ateb ydi y bydd y bobl hyn yn pleidleisio (os byddant yn gwneud hynny o gwbl) ar seiliau economaidd yn hytrach na dilyn ystyriaethau llwythol.

Yr un ffaith sydd rhaid ei ddeall am wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon ydi bod perthynas agos iawn rhwng crefydd pobl a'r ffordd maent yn pleidleisio. Mae mwyafrif llethol Pabyddion yn pleidleisio i Sinn Fein neu'r SDLP tra bod mwyafrif tebyg o Brotestaniaid yn pleidleisio i'r DUP neu'r UUP.

Ceisiaf edrych ar oblygiadau tebygol hyn oll ar batrymau pleidleisio’r chwe sir tros y ddegawd neu ddau sydd o’n blaenau yn y blog nesaf.

Sunday, March 11, 2007

Etholiadau Gogledd Iwerddon

Bu etholiad yng Ngogledd Iwerddon a gwelwyd perfformiad gwael gan y ddwy blaid fawr ‘gymhedrol’. Yn fy marn i mae’r canlyniadau yn arwyddocaol iawn am sawl rheswm. Yn y blog hwn byddaf yn edrych ar yr effaith tymor canolig y bydd y canlyniadau yn eu cael ar bleidiau’r Gogledd.

Bellach yr UUP ydi pedwerydd plaid y Gogledd o ran nifer pleidleisiau. Mae hyn yn anhygoel. Y blaid yma ydi plaid fwyaf llwyddiannus Iwerddon erioed. Llwyddodd y blaid i ddal grym yn ddi dor am hanner canrif – prin iawn, iawn o bleidiau gorllewinol sydd wedi gwneud hyn o’r blaen. Ddegawd yn ol – yn etholiad cyffredinol 1997 roedd eu pleidlais yn dod i 32.7% o’r cyfanswm, cawsant 10 aelod seneddol. Yn etholiad cyffredinol 2005 un aelod seneddol oedd ganddynt – yn North Down. Ar ffigyrau dydd Mercher byddai honno wedi cwympo hefyd. Yn etholiad y cynulliad 2003 cawsant 22.7%. Ddydd Mercher 14.9% oedd eu canran. Mae llawer o’u haelodau etholedig yn hen – rhai ohonynt yn hen iawn.

Mae’n weddol amlwg fod y blaid yn datgymalu, a bod ei dyfodol tymor canolig yn hynod amheus. Does ganddyn nhw ddim dyfodol ar eu ffurf presenol.

Dydi cwymp yr SDLP ddim mor amlwg – cwymp o 24.1% yn 1997 i 15.2% ddydd Mercher, ac mae ganddynt dei Aelod Seneddol San Steffan o hyd. Gallant yn hawdd gadw’r rheiny yn yr etholiad San Steffan nesaf – oherwydd pleidleisio tactegol gan Unoliaethwyr.

Ond o edrych yn fanwl ar y tirewdd gwleidyddol ‘dydi eu rhagolygon tymor canolig fawr gwell na rhai’r UUP. Ystyrier y canlynol:

Roedd cwymp canran pleidlais yr SDLP rhwng 2003 a 2007 yn dod i bron i 2%. Os bydd cwymp tebyg yn digwydd o’r etholiad yma i’r un nesaf yn 2011 (os y bydd yn mynd rhagddi) bydd yr effaith etholiadol yn arwyddocaol iawn). Roedd cwymp sylweddol mewn lleoedd arwyddocaol iawn iddyn nhw – F/S Tyrone 5%, North Antrim 3%, Gorllewin Belfast 6%, South Antrim 3%, North Belfast 3%, Upper Bann 3%.

I sicrhau sedd yng nghynulliad Gogledd Iwerddon mae’n rhaid sicrhau ychydig tros 14% o’r bleidlais erbyn diwedd y cyfrif – ac mae’n bwysig cyrraedd yn agos at hynny yn y cyfrif cyntaf. Os oes mwy nag un ymgeisydd dydi 14% hyd yn oed ddim yn sicrhau sedd. Cawsant fwy nag 14% ar y cyfrif cyntaf yn West Tyrone ond methwyd sicrhau sedd oherwydd bod y bleidlais wedi hollti dair ffordd a ni ddaeth yn ol at ei gilydd erbyn y diwedd.

Y sefyllfa ar hyn o bryd yn yr etholaethau yma yw F/S Tyrone 14% - N Antrim 12.2% - W Belfast 12.2% - S Antrim 11.1%, N Belfast 13.7%, Upper Babb 12.7%. Byddai cwymp tebyg i’r un a gafwyd rhwng 03 ac 07 yn colli’r cwbl o’r rhain iddynt - mae'n debyg. Mae’n ddigon posibl y byddai un o’u tair sedd yn eu cadarnle yn Foyle yn syrthio hefyd. Eu hunig darged posibl fyddai Strangford. Byddant i lawr i tua 10 sedd, tra bod SF gyda ymhell tros 30.

Felly beth fydd y drefn bleidiol ar gyfer y dyfodol?

Yn fy marn i wneith Fianna Fail ddim caniatau i SF ddominyddu cenedlaetholdeb y Gogledd. Os ydi’r cwymp yn y bleidlais SDLP yn parhau byddant yn trefnu yn y Gogledd, a maes o law byddant yn cystadlu mewn etholiadau yno – ac yn llyncu’r SDLP. Bydd y gystadleuaeth ar ochr werdd y spectrwm gwleidyddol rhwng FF a SF. Bydd hyn yn newid sylfaenol – ar hyn o bryd cystadleuaeth a geir rhwng plaid genedlaetholgar ac un ol genedlaetholgar. Bydd y gystadleuaeth yn y dyfodol rhwng dwy blaid genedlaetholgar Iwerddon gyfan.

Ar yr ochr arall bydd newid hefyd. Clymblaid digon anesmwyth ydi’r DUP – er gwaethaf ei llwyddiant. Mae dwy adain gweddol amlwg iddi – un ffwndementalaidd sy’n cael ei gynrychioli gan bobl fel Jim Allister a Willie McCrea, ac un ‘ymarferol’ sy’n cael ei chynrychioli gan bobl fel Peter Robinson a Nigel Dodds – pobl sydd eisiau ennill ac ymarfer grym gwleidyddol. ‘Dydi’r ffwndementalwyr ddim eisiau rhannu grym gyda chenedlaetholwyr. Yn ei galon mae Paisley efo’r ffwndementalwyr, ond ar hyn o bryd mae’n eistedd rhywle yn y canol. Fo ydi’r glud sy’n dal ei blaid at ei gilydd, ac ni fydd yn arwain y blaid am lawer iawn o amser eto. Yn fy marn i bydd y blaid yn hollti wedi iddo adael, gyda lleiafrif yn gwrthod rhannu grym, ond y mwyafrif yn ffurfio plaid newydd – ac yn denu’r hyn fydd yn weddill o’r UUP.

Yr SDLP a’r Ulster Unionists oedd prif bleidiau’r Gogledd lai na degawd yn ol . Maes o law byddant (fel y Progressive Democrats, Fine Gael (efallai) y Workers’ Party) yn diflannu. Digwyddodd hyn eisoes i’r Northern Ireland Labour Party, Official SF, Democratic Left y Republican Labour Party, Clann na Poblachta, Clann naTalun, Independent Labour Party, Aontacht Eireann y Nationalist Party a nifer o bleidiau eraill.

Bydd math ychydig yn gwahanol o wleidyddiaeth yn tyfu o’r diflaniad yma.

Yn y blog nesaf byddaf yn bwrw golwg ar ddemograffeg Gogledd Iwerddon, ac yn ystyried beth mae hyn yn ei olygu i’r freuddwyd o Iwerddon unedig.

Sunday, February 25, 2007

Ail Gylchu

Digwydd mynd i ddymp Cilgwyn ddoe i gael gwared o beth o'r stwff sydd wedi hel o gwmpas y lle tros yr wythnosau diweddar. Oherwydd ein bod yn rhai drwg am hel sbwriel, 'dwi wedi bod yn gwneud y daith yma i uchelfanau Dyffryn Nantlle yn weddol rheolaidd ers ugain mlynedd da.

Pan oeddwn i'n mynd yno gyntaf roedd ail gylchu o rhyw fath yn digwydd. Byddai'r sawl oedd gyda rhywbeth i gael gwared ohono yn gyrru i fyny i Gilgwyn ac yn taflu ei sbwriel i mewn i dwll bychan yn y llawr. Bron iawn yn ddi eithriad byddai ychydig o bobl eraill yn sefyll wrth ochr y twll ac os oeddynt yn gweld rhywbeth yr oeddynt yn ystyried bod gwerth iddo, byddant yn neidio i mewn i'r twll, codi'r eitem dan sylw allan, ac yn ei roi yng nghefn fan. Pob hyn a hyn byddai peiriant trwm yn ymddangos ac yn mynd a'r hyn oedd yn weddill i dwll chwarel Cilgwyn.

Erbyn heddiw mae pethau wedi newid yn llwyr - mae'r safle'n cael ei goruwchwylio mewn modd sy'n ei gwneud yn nesaf peth i amhosibl. Ceir arwydd mawr yn gwahardd pobl rhag 'dwyn' dim o gynnwys y dymp. Y gwahaniaeth mwyaf, fodd bynnag, ydi'r holl sgipiau a chynwysyddion sbwriel eraill sydd ar y safle bellach yn lle'r twll petryalog yn y llawr. Mae yna sgip i sbwriel go iawn - ond mae yna lefydd ar gyfer batris, metel sgrap, brigau, dail ac ati, olew, rhewgelloedd, sgriniau teledu, pren, plastic, papur ac ati. Mae sgip hyd yn oed i blastar - fe'i troir yn bowdwr ar ddiwedd pob diwrnod a'i dywallt ar ben y domen er mwyn cadw adar draw.





Mae hyd yn oed y domen chwarel wrth fynedfa'r dymp yn cael ei hailgylchu mewn ffordd. Mae'n mynd yn llai wythnos wrth wythnos oherwydd bod y cerrig sydd arni'n cael eu malu er mwyn gwneud defnydd ar gyfer adeiladu lonydd.

Rhyfedd mi wn - ond mae'r safle rhywsut yn ymgorfforiad o newidiadau sylfaenol mewn agweddau tuag at yr amgylchfyd tros yr ugain mlynedd diwethaf.

Tuesday, February 20, 2007

Sain Ffagan - twee?

Twee oedd yr ansoddair Saesneg dilornus a ddefnyddiodd un o uchel swyddogion Amgueddfa Genedlaethol Cymru wrth gyfeirio at Amgueddfa Werin Sain Ffagan mewn sgwrs (braidd yn feddw, rhaid cyfaddef) efo fi'n yn yr Anglesey ddiweddar.

Ar un olwg mae'n ddigon hawdd cytuno efo fo. Mae llawer - nid y cwbl wrth gwrs - o'r adeiladau sydd i'w gweld ynddo yn adlewyrchu cyfnodau cyn ddiwydiannol, ac yn adlewyrchu bywydau pobl oedd cryn dipyn yn gyfoethocach na'r helyw o'u cyfoedion. Go brin y byddai eu haneddau wedi goroesi oni bai am hynny. Yr ymdeimlad cyffredinol mae'r lle yn ei adael ydi un o rhyw lonyddwch gwledig delfrydol - llonyddwch nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd.

Yn sicr, mae'r argraff cyffredinol yn dra gwahanol i'r hyn a geir yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis neu Big Pit ym Mlaenafon. Ceir ymdeimlad uniongyrchol iawn o galedi corfforol bywyd , ynghyd a blas o'r cyfeillgarwch a chymuned yn y lleoedd hynny. Adlais, ond adlais digon nerthol, o gymunedau a gwerthoedd y cymunedau hynny, cymunedau sydd bellach wedi mynd i ddifancoll.

Serch hynny, beth bynnag barn y swyddog, 'dwi'n ddigon hoff o Sain Ffagan - nid cymaint oherwydd ethos cyffredinol y lle, ond oherwydd rhai o'r adeiladau unigol. Dau o fy hoff adeiladau yn bersonol ydi Bwthyn Llainfadyn a Beudy Cae Adda. Mae'r ddau yn adeiladau o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi eu symud o Wynedd - y naill o Rostryfan, a'r llall o'r Waunfawr.

Adeiladau ydynt wedi eu codi o gerrig y mynydd, ac oherwydd hynny maent wedi goroesi - yn gwahanol i lawer o adeiladau eraill y cyfnod. Fel plant roeddem yn arfer chwarae mewn adfeilion bythynod a beudai digon tebyg yng nghaeau plwyf Llanddeiniolen. Yn aml byddai yna goed eirin, neu goed afalau yn y gerddi a llwybr troed cul yn unig fyddai'n arwain atynt o gamfa wrth ochr y ffordd fawr.

Mae'n rhaid bod hel yr holl gerrig o'r tir mynyddig a'u cludo i safle'r cartref yn waith poenus o galed ynddo'i hun, heb son am godi'r ty wedyn. Ymdrech dorfol i deulu estynedig cyfan mae'n siwr. Ac ar ol codi'r ty roedd rhaid mynd ati i blanu coed ffrwythau, gwyngalchu'r waliau, a gwneud beth bynnag oedd angen ei wneud i droi'r gwagle oddi mewn i hen gerrig y mynydd cyntefig yn gartref i deulu, yn ffocws i'w delfrydau. 'Dwi'n cofio fel ddoe tri neu bedwar ohonom yn mochel rhag cawod drom yn un o'r tai hyn ac yn teimlo ychydig o'r cynhesrwydd diddan oedd yn perthyn i'r adeilad pan oedd o'n gartref i deulu oedd erbyn hynny wedi hen ddychwelyd i'r pridd.

Bwthyn Llainfadyn



Beudy Cae Adda



Mor twee ag ymddengys y lle ar un olwg, o edrych ar ambell i adeilad a'i osod yn feddyliol yn ei gyd destun go iawn, ac o ddefnyddio ychydig ar y dychymyg, mae ymweld a'r lle yn brofiad a chymaint o sylwedd iddo nag ymweld a'r un amgueddfa arall. Daw ymdrech, delfryd, gobaith a chariad a sgubwyd ar adain y gwynt yn ol am ennyd fach. Na, lle gwerth chweil, er gwaethaf siniciaeth y sawl sy'n gyfrifol amdano.

Gyda llaw, mae datblygiadau digon diddorol ar y gweill yn Sain Ffagan. Mae Eglwys Llandeilo Tal y Bont yn y broses o gael ei chodi (hen bryd i ni gael eglwys yno.

Eglwys Llandeilo Tal y Bont



Deallaf hefyd bod gorsaf heddlu a thy marsiandwr ar y safle eisoes, ond heb eu codi eto. Ac wrth gwrs mae'n hen bryd cael tafarn yno, cyn gynted a phosibl. awgrymaf dafarn dinesig - Brains efallai. Tybed beth ddaeth o'r Vulcan?

Diolch yn fawr. Croeso.

Dreifio adref o Gaerdydd efo Nacw a'r fenga heddiw ac aros am ginio yn y Felin Fach Griffin Inn yn Llyswen ger Aberhonddu.

'Rwan, 'dwi ddim yn bwyta yn aml iawn mewn llefydd fel hyn - wedi'r cwbl un o Gaernarfon ydw i Serch mae'n rhaid i mi ddweud bod y bwyd yn flasus iawn, ac roedd yr awyrgylch yn chwaethus os hynod o anwerinol.

Yr hyn wnaeth argraff arnaf braidd oedd gadael. Dywedais diolch, heb feddwl bron, wrth y ferch oedd yn gweini - hogan o Rwmania. Croeso meddai hithau heb betruso.

'Dwi'n cofio bod yn Wetherspoons, Caernarfon rhyw flwyddyn neu ddwy yn ol a gofyn am ddau Guinness a chael y Sais y tu ol i'r bar yn rhythu yn hollol ddi ddaeall arnaf - er ei fod wedi cael yr un cais ganoedd o weithiau o'r blaen mae'n debyg.

Ac eto roedd yr hogan bach yma - oedd wedi treulio y rhan fwyaf o'i bywyd yn Nwyrain Ewrop, a sydd yn gweithio yn y gornel bach mwyaf Seisnig o Gymru yn gallu ymdopi'n iawn efo gair neu ddau o Gymraeg.

Wednesday, January 17, 2007

Gogledd Iwerddon Ddoe a Heddiw

Mae'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon mewn trafferthion eto fyth gydag anghytundebau ynglyn a phlismona yn dal pethau yn ol y tro hwn. Serch hynny mae'r newid yn ansawdd bywydau pobl yno tros ddegawd yn syfrdanol. Hwyrach bod y lluniau hyn yn rhoi blas o hynny.

Ddoe

Siarad efo'r heddlu - erstalwm



Byddin Prydain, Belfast 69


Belfast ar dan



Bom tan, Belfast



Byddin Prydain - De Armagh


Cynhebrwng ym mherfedd dir PIRA, Dwyrain Tyrone



Parch at y faner



Ian a'i ffrindiau yn dweud "Na" eto fyth yn Stormont


Murlun Gweriniaethol, Belfast



PIRA, De Armagh



RUC mewn lifrai "risg isel"



UVF Belfast



A bellach

Arfordir Antrim



Gem beryg



Clwb nos





Swydd Down yn y gaeaf



Gortin Glens Tyrone



Gwyl Gorllewin Belfast



Llynoedd Fermanagh



Queens



Syrffio



Rali ychydig yn gwahanol



Clwb nos Shines