Allan yn canfasio yng Nghae Gwyn a Ffordd Ysgubor Wen yng Nghaernarfon heno.
I'r rhai ohonoch nad ydych yn adnabod tref y Cofis yn dda iawn, mae'r ardal yma yn gefnog iawn - mae'n debyg ei bod ymysg y llefydd cyfoethocaf yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Roedd y ganfas yn un hynod o gadarnhaol, ac roedd yn noson lle nad oedd yr un enaid byw yn cwyno am ddim. Cefais noswaith debyg nos Lun o ran y cwyno beth bynnag - canfasio Bro Seiont yn Ne'r dre. Un o ardaloedd tlotaf y Gogledd Orllewin. Neb yn cwyno am ddim.
Mae ambell i ardal lle mae pobl yn cwyno am pob math o bethau - dim digon o ddatblygu yn y dre, gormod o ddatblygu, dim byd yma, y pethau sydd yma fel y Galeri a'r Ganolfan Denis yn wastraff arian, dim digon o le i barcio, pob dim yn mynd i Gaerdydd, y ffaith bod yr ymgeisydd Llafur yn gwisgo crys T tyn, pinc, rhyfel Irac, gormod o Saeson, gormod o bwyslais ar y Gymraeg, cyffuriau, baw ci, diffyg cyfyngder gyrru, datblygiad newydd Watkin Jones ac ati ac ati.
Ond anaml iawn mewn ardal dlawd - na mewn ardal gyfoethog. Pam tybed?
No comments:
Post a Comment