Tuesday, August 07, 2007

Mewnfudo i'r DU - peth da neu ddrwg?

O pob mater cyfoes o bwys sy’n fater trafodaeth ar lefel Prydeinig, byddwn yn tybio mai’r un lle mae’r lleiaf o resymeg yn sail i’r drafodaeth honno ydi’r un ynglyn a mewnfudiad.

Y pwynt cyntaf i’w wneud ydi bod y lefelau uchel o fewnfudiad a geir ar hyn o bryd (mae tua 10% o boblogaeth y DU wedi eu geni mewn gwledydd eraill) yn creu sgil effeithiau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol. Mae rhai o’r sgil effeithiau hyn yn debygol o fod yn fyr dymor tra bod eraill am greu newidiadau hir dymor. Wrth ffurfio barn ynglyn a phriodoldeb lefelau uchel o fewnfudiad mae’n briodol i ystyried y tri factor uchod.

O ran yr economi, mae’n debyg bod mewnfudo yn llesol yn gyffredinol. Mae mewnfudwyr yn fodlon gweithio am gyflogau isel, ac mae hyn yn ei dro yn arwain at brisiau is. Mae hefyd yn deg dweud bod angen mewnfudwyr ar hyn o bryd – mae cyfraddau geni Prydain yn weddol isel, ac wedi bod felly ers cryn gyfnod. O ganlyniad mae’r boblogaeth yn gymharol hen a ‘does yna ddim digon o bobl i wneud rhai mathau o waith.

A derbyn bod mewnlifiad yn gyffredinol lesol i’r economi, mae’n bwysig deall nad yw’n llesol i bawb. Mae’n llesol i’r sawl sy’n talu i bobl i gadw’r ty ac i bobl sy’n cael gwaith wedi ei wneud ar eu tai – mae au pairs a bricis o Wlad Pwyl yn fodlon gweithio am llai o lawer na rhai lleol. Yn yr un modd mae llawer o fusnesau – gwestai, tafarnau ac ati yn elwa oherwydd bod cyflenwad di ben draw o bobl sy’n fodlon gweithio’n rhad ar gael iddynt. ‘Dydi’r sefyllfa ddim cystal i bobl leol sy’n gwneud yr un math o waith – maent yn colli eu gwaith, neu’n gorfod cystadlu am waith gyda mewnfudwyr – ac felly gweithio’n rhatach nag y byddent fel arall.

I roi pethau mewn ffordd arall, mae mewnlifiad yn llesol i bobl sydd a lefelau cymharol uchel o incwm ac i fusnesau, ond mae’n ddrwg i bobl sydd yn gwneud gwaith sy’n gofyn lefelau isel o sgiliau.

Mae’n gwestiwn gen i os ydi ‘r effaith mae mewnlifiad yn ei gael ar bobl sydd ar incwm isel yn derbyn llawer o ystyriaeth pan fod polisi mewnfudo yn cael ei ffurfio. Cymhlethdod pellach efallai ydi bod pobl sy’n gweithio i’r cyfryngau yn gymharol gefnog, ac yn gweithio mewn swyddi nad ydi mewnfudwyr yn eu bygwth mewn unrhyw ffordd. Mae elfennau sylweddol o’r wasg Brydeinig yn wrth fewnfudiad wrth gwrs – mwy felly na mewn llawer o wledydd Ewropiaidd eraill. – ond pe byddai mewnfudwyr yn gymaint o fygythiad i ohebwyr yr Independent neu’r BBC nag ydynt i fricis, ‘dwi’n amau y byddai agwedd y naill neu’r llall yn union fel ag y mae heddiw – ac felly byddai’r tirwedd gwleidyddol y creir polisi ynddo yn gwahanol.

Beth bynnag am y sgil effeithiadau economaidd, mae’r sgil effeithiadau gwleidyddol hefyd yn bell gyrhaeddol – efallai mwy felly. Gan bod cymaint o bobl o rannau eraill o’r byd yn byw yn y DU – llawer ohonynt gyda eu prif ymrwymiad i wledydd a gwareiddiadau eraill, mae'n creu sgil effeithiadau gwleidyddol. Bellach mae polisi tramor y DU yn gallu bod yn fater gwirioneddol gynhenys mewn gwleidyddiaeth domestig – hyd yn oed pan fod y polisi wedi ei lunio i amddiffyn buddiannau’r DU ei hun.

‘Rwan, fyddwn i byth yn ceisio amddiffyn polisi Prydain tuag at y Dwyrain Canol – mae’n wirioneddol drychinebus ar sawl cyfrif. Ond mae’n rhaid gen i bod sefyllfa lle mae deilliannaupolisi tramor yn arwain at ymysodiadau gan ddinasyddion Prydeinig ar ddinasyddion Prydeinig eraill yn un newydd.

Yn ychwanegol mae sefyllfa lle mae niferoedd sylweddol o boblogaeth y DU yn dod o wareiddiadau eraill yn creu faultlines cymdeithasol newydd. At ei gilydd nid yw gwleidyddiaeth Prydain yn llwythol yn yr ystyr bod carfannau sylweddol o bobl yn pleidleisio mewn ffordd arbennig oherwydd eu cefndir ethnig – ar wahan i Ogledd Iwerddon wrth gwrs. Mae trefn wleidyddol o’r math yma yn ei hanfod yn llai sefydlog nag un sydd yn cael ei yrru gan wrthdaro economaidd ymysg pobl sy’n derbyn bod llawer yn gyffredin rhyngddynt.

Yn y pen draw y cwestiwn ydi hyn – I ba raddau mae gwella budd economaidd byr dymor rhan o’r boblogaeth werth newid strwythur cymdeithasegol a gwleidyddol gwladwrieth yn yr hir dymor?

Mae’r cwestiwn yn un sydd rhaid ei ofyn – a nid yw’n weithred hiliol i godi’r cwestiwn. Mater i’r wladwriaeth sy’n derbyn mewnfudwyr ydi ateb y cwestiwn mewn ffordd rhesymol a phenu ar gyfraddau mewnfudo rhesymol yng ngoleuni ei hateb i’r cwestiwn.

1 comment:

Huw Waters said...

Mae mewnfudo ar lefel bach iawn, ble mae rhaid i'r mewnfudwr addasu i'r amgylchedd newydd yn beth da. Pan mae'n diwgydd ar raddfa enfawr, fel y 10,000 o Bwyliaid sydd wedi symud i Wrecsam o fewn 3 mlynedd, mae'n beth drwg gan ei fod yn newid cydbwysedd y gymdeithas yn ogystal a chreu tensiynau rhwng y bobol brodorol.

Be bynnag yw'r rheswm fod rhai yn methu yn economaidd, nawn nhw feio'r grwp enfawr o fewnfudwyr. Petai dim ond 100 ar y mwyaf sydd wedi symud i'r ardal, does bron dim fedran nhw feio arnynt.

Awstralia sydd efo'r system sy'n gwneud y mwyaf o synwyr. Cewch chi visa cynfyngedig, sydd yn ddigonol os ydych am ymweld â'r wlad. Os ydych eisiau symud i'r wlad rhai i chi ddod yn ddinasydd llawn, neu gallu profi bod chi o werth i'r wlad h.y. yn alluog gyda sgiliau maent eu hangen, neu am gychwyn busnes etc.. a fydd o fudd i'r wlad.