Tuesday, April 24, 2007

Pam mor bwysig ydi posteri mewn etholiadau erbyn hyn?

Mae llai o lawer o sticeri o gwmpas mewn ffenestri tai a cheir yn etholaeth Arfon (a hyd y gwelaf i, Meirion Dwyfor) nag a fu mewn rhai etholiadau blaenorol. Roedd llawer iawn, iawn o bosteri o gwmpas yn 97 - ond y penllanw yn fy marn i oedd 83.

'Dwi'n deall bod llawer o bosteri yng Ngheredigion heddiw. Cymharol ychydig oedd i'w gweld yno pan oeddwn i'n fyfyriwr yn Aber yn ol yn 1979 - yn sicr o gymharu ag etholaeth Caernarfon. Am wn i bod ffasiwn yn newid - a mae posteri yn rhyw fath o gaseg eira - mae pobl yn tueddu i'w rhoi nhw i fyny pan mae cymdogion o berswad arall yn rhoi eu rhai nhw i fyny.

Ond y cwestiwn diddorol ydi - pam mor effeithiol ydi posteri?

Yn fy marn bach i, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ‘dydi posteri ddim yn bwysig iawn. ‘Dwi’n siwr bod un neu ddau o bobl yn cael eu argyhoeddi gan bosteri – ond prin iawn ydi’r bobl hyn. Yn achos Ceredigion, neu Arfon mae’n hysbys i bawb pwy fydd y ddwy blaid fwyaf, felly, eto yn fy marn i, ni fydd posteri yn cael dylanwad mawr ar y pleidleisio (er bod rhywun ddylai wybod yn well wedi dweud wrthyf heddiw mai trydydd fydd Llafur yn Arfon).

‘Dwi ddim yn amau chwaith bod mor o bosteri yn codi’r gyfradd bleidleisio rhyw ychydig, oherwydd bod pobl yn cael eu hatgoffa o’r etholiad trwy’r amser – ond mae’r gyllell yma yn torri dwy ffordd. - mae cefnogwyr pleidiau eraill yn cael eu hatgoffa o’r etholiad hefyd.

Fodd bynnag, ‘dwi’n credu bod posteri yn effeithiol o dan rhai amgylchiadau. Mewn edefyn arall mae’r Gath yn dweud ei fod o’r farn bod y mor o bosteri a godwyd gan Lafur yn etholiad 97 yn hen etholaeth Caernarfon wedi bod o gymorth iddynt (er ei fod hefyd o’r farn nad yw posteri at ei gilydd yn effeithiol). ‘Dwi’n digwydd cytuno bod y defnydd o bosteri yn yr achos arbennig hwnnw wedi bod yn effeithiol.

Y rheswm oedd bod Llafur wedi bod yn hynod o aneffeithiol wrth dynnu sylw atyn nhw eu hunain yn yr etholiadau blaenorol, a bod y Blaid wedi cornelu cyfran helaeth o’r bleidlais wrth Doriaidd. Pleidlais Lafur oedd cydadran go lew o honno yn y bon. Roedd y posteri, fel rhan o ymgyrch ehangach, ac mewn cyd destun lle’r oedd y gwynt yn hwyliau Llafur, yn ffordd nerthol o atgoffa pobl bod yr opsiwn Llafur ar gael. Ymgyrch Eifion Williams yn hen etholaeth Caernarfon yn 97 ydi un o’r rhai mwyaf effeithiol rwy’n ei chofio. Roedd y defnydd o bosteri yn rhan bwysig o’r ymgyrch honno.

Sefyllfa arall lle mae’r defnydd o bosteri yn bwysig ydi lle mae hollt tair (neu bedair) ffordd, lle mae posibilrwydd o bleidleisio tactegol, a lle nad yw’n hysbys pwy sy’n debygol o ennill. Mae seddi Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro ac i raddau llai Penfro Preseli yn syrthio i’r categori hwn. Mae siarad ar y stryd yn bwysicach na phosteri – ond gall posteri gyfranu at y canfyddiad cyffredinol o pwy sy’n gystadleuol mewn sefyllfa fel hyn.

Mewn geiriau eraill, dydi posteri ond yn effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd arbennig, ac hynny ond fel rhan o ymgyrch ehangach effeithiol.

No comments: