Mae gen i daflen Llafur o fy mlaen ar hyn o bryd – y daflen honno sy’n cael ei dosbarthu trwy Gymru – hynny yw eu prif daflen. Mae tua dau draean ohoni yn amrywiaeth ar y thema bod perygl mawr i’r Toriaid ddod i rym yng Ngymru, bod pleidlais i bawb arall yn bleidlais tros lywodraeth Doriaidd, ac y byddai angau, gwae a gwewyr yn dilyn o hynny. Cymharol ychydig o ymdrech a wneir i frolio ‘llwyddiannau’ Llafur tros y ddau dymor diwethaf, nag yn wir i werthu addewidion y blaid honno ar gyfer y tymor nesaf. Mewn geiriau eraill, ceisio dychryn pobl i bleidleisio trostynt ydi prif thema’r daflen. A barnu oddi wrth eu cyfraniadau yn y cyfryngau a blogiau, megis un Martin, dyma brif thema eu hymgyrch.
O sefyll yn ol am ennyd, mae’r cysyniad yn gwbl chwerthinllyd. Ystyrier y canlynol:
(1) Llafur oedd yn gyfrifol am greu’r dull rhannol gyfrannol a ddefnyddir i ethol y Cynulliad. Er bod y dull yn un gwael, maent i’w canmol am wneud hynny. Byddai trefn first past the post llwyr wedi creu rhyw fersiwn genedlaethol o’r hen Gyngor Canol Morgannwg, ac wedi amddifadu’r Toriaid o unrhyw gynrychiolaeth o gwbl bron, er bod ganddynt gefnogaeth digon soled. Byddai’r ddau sefyllfa wedi body n drychineb i ddemocratiaeth Gymreig.
Un o brif nodweddion dull cyfrannol o ethol gwleidyddion ydi ei fod yn amlach na pheidio yn gorfodi gwleidyddion i gyd weithio.
(2) Ymddengys bod Llafur yn gwrthod cydweithredu efo dwy o’r tair prif blaid – er ei bod yn ymddangos bod rhai o’u hymgeiswyr o dan yr argraff nad ydynt am gyd weithredu efo neb.
(3) Os ydw i’n deall pethau yn iawn, yr esgys tros wrthod cyd weithredu efo’r Toriaid ydi gwahaniaethau ideolegol, a’r ffaith bod Llafur wedi argyhoeddi eu hunain y byddai’r awyr yn syrthio ar ein pennau petai’r Toriaid gyda mymryn o ddylanwad ar lywodraeth.. Duw a wyr beth ydi’r gwahaniaethau, mae’n anodd cael papur sigarets rhwng y ddwy blaid yn y rhan fwyaf o feysydd.
(4) Dydi Plaid Cymru ddim ffit i rannu grym efo Llafur oherwydd eu bod yn rhyw hanner credu mewn annibyniaeth. ‘Rwan mae hyn yn eithaf chwerthinllyd – dydi’r Blaid ddim yn galw hyd yn oed am refferendwm ar y mater (er mawr gywilydd iddi). Mae’n debyg y byddai’r Blaid yn ei chael yn haws i gyd weithredu efo Llafur nag efo’r Toriaid.
Felly, mae’r sefyllfa lle mae yna bosibilrwydd y bydd y Toriaid yn cael eu hunain mewn llywodraeth yn un sydd wedi ei chreu yn llwyr gan y Blaid Lafur ei hun – ac mae wedi ei chreu i raddau helaeth am resymau sy’n ymwneud a strategaeth etholiadol.
Yn ymarferol os ydi Llafur yn gwrthod cyd weithredu efo’r Blaid, nag efo’r Toriaid, a’n bod yn darganfod ar Fai 4 nad oes ganddyn nhw a’r Democratiaid Rhyddfrydol y niferoedd o ran seddi i ffurfio llywodraeth, yna unig ddewis y pleidiau eraill fydd cyd weithredu i ffurfio llywodraeth, neu adael y wlad yn ddi lywodraeth i bob pwrpas am bedair blynedd. Fyddai yna ddim dewis yn ymarferol. Byddai’r glymblaid PC / Toriaid wedi ei chreu gan y Blaid Lafur ei hun.
Dwi ddim yn siwr pam mor effeithiol fydd y strategaeth - dwi wedi canfasio rhai canoedd o bobl bellach yn nhref Caernarfon, ac nid oes yr un enaid byw wedi son am y peth.
No comments:
Post a Comment