Sunday, July 22, 2007

Y glymblaid efo Llafur - peth da neu beth drwg?

Ychydig o sylwadau ynglyn a’r datblygiadau diweddar.

Fy newis cyntaf i yn bersonol fyddai clymblaid yr enfys – nid am fy mod yn meddwl bod y Toriaid a’r Lib Dems damaid gwell na Llafur – ond oherwydd y byddai dylanwad y Blaid yn gryfach o lawer nag yw o dan y trefniant presenol.


Mi fyddwn yn derbynnad ydi'r Blaid wedi llwyddo i gael digon o seddau yn y cabinet - dylai'r gymhareb seddau cabinet o leiaf adlewyrchu'r gymhareb seddi.

Cymharer gyda'r hyn a ddigwyddodd yn Ngweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar. Y tair plaid sydd mewn llywodraeth ydi'r Blaid Werdd, Fianna Fail a'r PDs. Yn yr etholiad cafodd FF 78 sedd, Y Blaid Werdd 6 a'r PDs 2. Rhannwyd y seddi cabinet fel a ganlyn: FF 15, Gwyrddion 2, PDs 1 - hynny yw dwywaith y gymhareb seddi i'r Gwyrddion a llawer mwy na hynny i'r PDs (er bod rheswm da tros roi iechyd i'r PDs – mae deiliad y swydd yma yn siwr o fod yn fethiant, a gellir beio rhywun arall am y methiant hwnnw. Angola ydi term FF am y portffolio iechyd). Byddai’, deg nodi yma na lwyddodd y Gwyrddion na’r PDs i gael unrhyw gonsesiynau polisi gwerth son amdanynt o groen FF.

Er gwaethaf y methiant hwn, gyda’r penderfyniad wedi ei wneud, ‘dwi’n mawr obeithio y bydd yn parhau am bedair blynedd.

Mae’n debyg gen i bod rhai manteision i’r cytundeb presenol o gymharu a’r cytundeb enfys arfaethiedig – ac mae’r manteision hynny yn eu hanfod yn troelli o gwmpas un ffaith allweddol – bod y Blaid Lafur yn bwysicach o lawer yng ngwleidyddiaeth Cymru nag yw’r Toriaid. Plaid ymylol i wleidyddiaeth Cymru ydi’r Blaid Doriaidd, plaid sy’n apelio at ardaloedd ac elfennau mwyaf Seisnig y wlad. Yn y pen draw ‘dydi’r Blaid Doriaidd ddim yn dderbyniol i elfennau sylweddol, o gymdeithas yng Nghymru.

‘Dydi hyn ddim yn golygu na ddylid byth gynghreirio gyda nhw wrth gwrs – ond mae’n golygu bod elfen gryf o risg wrth wneud hynny. Wedi’r cwbl unig ddadl Llafur tros pam y dylai dyn bleidleisio trostynt yn ystod yr etholiadau diweddar oedd y byddai pleidlais i unrhyw un arall yn sicrhau y byddai John Redwood yn ymddangos o rhywle ac yn bwyta ei blant, yn taflu ei rieni hynafol i mewn i’r ffynnon ac yn llusgo ei wraig y tu ol i’r llwyni.

Pe byddai yna gyfle gwirioneddol o gael pedair blynedd mewn grym gyda’r Toriaid, a bod y bedair blynedd yna yn rhai eithaf llwyddiannus, yna byddai’r bygythiad yma wedi ei gladdu am byth. Ond, gyda'r Lib Dems chwit chwat mewn llywodraeth, ‘doedd yna ddim sicrwydd o bedair blynedd. Byddai etholiadau lleol sal iddyn nhw yn y dinasoedd y flwyddyn nesaf wedi chwalu’r llywodraeth. Byddai Llafur yn ol mewn grym, ni fyddai blwyddyn wedi bod yn ddigon o amser i newid pethau er gwell, a byddai’r gri Vote Plaid get the Tories mor ddilys ag erioed yn 2011. Fel mae pethau’n sefyll mae’r darn yma o bropoganda wedi ei ddarnio – a bydd yn anodd gwneud defnydd ohono eto.

Hefyd wrth gwrs, mae’r broses o gynghreirio wedi bod yn llawer mwy cynhenus i’r Blaid Lafur nag yw wedi bod i’r Blaid, ac mae wedi arddangos holltau sylweddol o fewn y blaid honno. 60% / 40% oedd yr hollt ymhlith y blaid ei hun pan ddaeth yn amser pleidleisio ar y gynghrair. Mae hollt wedi ei greu rhwng yr Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad, ac mae adain ‘unoliaethol’ y Blaid Lafur wedi ei churo – am y tro beth bynnag. Mae’n rhaid bod rhywfaint o ddaioni mewn unrhyw beth sy’n gwneud i Neil Kinnock a Huw Lewis grio.

Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi ei thynnu i gyfeiriad mwy cenedlaetholgar ar hyn o bryd, ac mae hynny’n beth da siawns. Yn ddi amau byddai’r Toriaid wedi eu symud i gyfeiriad tebyg, ond fel plaid ymylol i wleidyddiaeth Cymru, ‘dydi’r wobr honno ddim mor fawr.

Rhywbeth arall sy’n dechrau ei amlygu ei hun yw’r posibilrwydd pendant bod penderfyniad y Toriaid i fynd i lawr y llwybr Cameron yn drychineb strategol o’r radd flaenaf. Maent wedi dewis arweinydd gweddol ysgafn o ran sylwedd oherwydd ei allu i gyfathrebu a’i ddelwedd fodern (o gymharu a David Davies sydd yn wleidydd o sylwedd, ond sydd a sgiliau cyfathrebu cymhedrol iawn).

Aeth hwnnw yn ei dro i’r tir canol i chwilio am bleidleisiau, yn hytrach na disgwyl i’r tirwedd gwleidyddol symud i’r dde. Mae’n anodd gweld sut y gall guro Llafur ar ei thiriogaeth ei hun. ‘Dwi’n gwybod ei bod yn gynnar i farnu, ond mae canlyniad trychinebus yr is etholiad yn Ealing yr wythnos diwethaf ynghyd a
'r polau piniwn diweddar yn awgrymu nad ydi’r Toriaid am fod fawr mwy poblogaidd pan ddaw’r etholiad nesaf nag oeddynt yn ystod y dair etholiad diwethaf. A fyddai’n dda o beth i’r Blaid fod wedi ei chlymu i blaid sy’n methu’n etholiadol yn barhaus ar lefel Prydeinig, heb son am un Gymreig?

‘Dwi’n dechrau rhyw deimlo bod y glymblaid gyda Llafur yn un o’r achosion hynny o’r penderfyniad cywir yn cael ei wneud am y rhesymau anghywir. Mae hyn yn digwydd yn amlach nag y byddai dyn yn meddwl.

Hanes fydd yn barnu hynny wrth gwrs, ond yr her i’r Blaid mae’n debyg ydi peidio gadael i’r Blaid Lafur ein dominyddu, a sicrhau nad gwasanaeth fel arfer a geir o du’r weinyddiaeth yng Nghaerdydd. Mae’r ychydig fisoedd cyntaf yn bwysig yn hyn o beth – dyma pryd y bydd goslef yr ychydig flynyddoedd nesaf yn cael ei gosod.

Ond o lwyddo i wneud hyn, efallai y bydd y daith droellog sydd wedi dod a ni i’r pwynt yma, er gwell i’r Blaid ac i Gymru yn y pendraw.

No comments: