Saturday, December 06, 2008

Addysg Gymraeg - colli cyfle hanesyddol?




Mae datganiadau fel hwn ynglyn ag agor trydydd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd
yn ddi eithriad yn galonogol. Serch hynny mae'n hawdd twyllo ein hunain ynglyn a lle'n union yr ydym o ran roi darpariaeth lawn. Mae ffigyrau ar gael sy'n disgrifio hyd a lled y ddarpariaeth yn fanwl. Dyma'r prif bwyntiau.

Nid yw 4 o pob pump plentyn yn y sector cynradd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg (79.7%). Mae’r ganran yn uwch yn y sector uwchradd (84.6%).

Mae’r ganran o blant sy’n siarad Cymraeg adref gyda’i teuluoedd yn dreuenus o isel - 7.6% o blant cynradd yn ol tystiolaeth rhieni. Mae lle i gredu bod y ffigwr hwn yn rhy uchel – pan wnaed yr asesiad yma gan brifathrawon ddiwethaf yn 2001 / 2002 6.2% oedd y rhif, ac roedd wedi bod yn cwympo’n gyson ers i’r ffigyrau ddechrau cael eu coledu. (Mae’r canrannau sy’n siarad Cymraeg adref yn y sector uwchradd yn uwch na’r rhai cynradd – ‘dwi’n meddwl mai rhesymau technegol sy’n codi o ddulliau cyfrifo sy’n achosi hyn, yn hytrach na chwymp sylweddol diweddar).

Adlewyrchiad o hen broses hanesyddol sy'n dyddio'n ol i gychwyn y Chwyldro Diwydiannol sydd wedi arwain at ddirywiad graddol ond cyson a di ildio yn y defnydd o'r Gymraeg yn gymunedol ac mewn bywyd teuluol. Erbyn heddiw mae'n bosibl dadlau bod Cymru'n fwy Seisnig na Lloegr o ran iaith - mae'r Saesneg yn iaith leiafrifol (fel mamiaith) mewn un o pob ugain ysgol yn Lloegr.

Mae lle i gredu nad yw’r ganran o blant nad ydynt yn siarad Cymraeg adref, ond sydd yn ei siarad yn rhugl yn cynyddu. 5.7% oedd yn syrthio i’r categori hwn yn 2002 / 2003, a 5% ydi’r ffigwr heddiw. Roedd y canranau hyn yn uwch na chyn 2001 / 2002 pan mai’r prifathrawon oedd yn asesu statws plant o safbwynt eu Cymreictod ieithyddol.

Un sir yn unig sydd a mwy na hanner ei phlant cynradd yn siarad y Gymraeg adref – Gwynedd gyda 52.7%. Pedair sir arall (o’r 22) sydd a mwy na 10% yn siarad Cymraeg adref – Conwy (11%), Ynys Mon (33.5%), Ceredigion (30.9%) a Chaerfyrddin (21.4%). Yn hanner y siroedd mae llai na 5% yn siarad Cymraeg adref.

Dim ond hanner y siroedd sydd a mwy na 5% o’u plant cyntadd o gefndir di Gymraeg yn siarad yr iaith yn rhugl – Gwynedd a Dinbych (5.5% yr un), Ceredigion (10.5%), Penfro (6.2%) a Chaerfyrddin (8.7%), Castell Nedd / Port Talbot (6.5%), Rhondda Cynon Taf (8.1%), Merthyr (9.1%), Caerffili (9.6%), Caerdydd (5%). Mae’r record yma yn un o gryn fethiant.

Dim ond yn y siroedd traddodiadol Gymreig mae mwy na chwarter y plant cynradd yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg – Gwynedd (90% bl 1), Ynys Mon (72.9%), Ceredigion (79.2%) a Chaerfyrddin (56.1%). Mae Rhondda Cynon Taf yn gymharol uchel hefyd ar 18.9%.

Graddol iawn y bu'r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg tros y blynyddoedd. Roedd 17.8% o blant cynradd yn cael eu haddysg yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2000 / 2001. 20.3% oedd y ganran yn 2007. Cwympodd y ganran o blant oedd mewn dosbarthiadau lle’r oedd rhai pynciau yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o 2.6% i 0.4% tros y cyfnod.

Mae’r ganran o blant sy’n cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu’n raddol iawn – o 18.1% yn 2000 – 2001 yn CA1 i 20.3% yn 2007 – 2008, o 17.5% 1 19.5% tros yr un cyfnod.

Mae’r ffigyrau uwchradd yn caniatau i ni edrych yn ol ymhellach na’r rhai cynradd. Gellir gweld cynnydd graddol yn y ganran a addysgid trwy gyfrwng y Gymraeg o 9.7% yn 1979 – 1980 i 15.4% yn 2006 – 2007.

Dim ond yng Ngwynedd (80.6% bl 7), Ceredigion (61.7%), ac Ynys Mon (69.2%) mae mwy na hanner y plant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae asesiadau CA3 trwy gyfrwng y Gymraeg eto wedi cynyddu’n raddol o 13% yn 2,000 i 15.3% yn 2007.

Er bod y rhan fwyaf o'r ffigyrau sy'n ymwneud a'r ddarpariaeth addysgol yn symud i'r cyfeiriad cywir, maent mewn gwirionedd yn adlewyrchiad o fethiant ar ran y Cynulliad, ac yn fwy arbennig y rhan fwyaf o'r Awdurdodau lleol (ag eithrio Gwynedd, Ynys Mon, Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili).

Y rheswm am y methiant yw nad ydi'r cyflenwad o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn dod yn agos at y galw yn y rhan fwyaf o'r wlad. Mae cryn le i gredu bod y galw am addysg Gymraeg yn llawer, llawer uwch na'r cyflenwad o tua 20% (yn tynnu at 50% o bosibl). Nid yw'r galw am addysg Gymraeg erioed wedi bod yn uwch yn hanes Cymru nag yw ar y funud yma - erioed - ac mae hyn yn ei gwneud yn gwbl bosibl i wneud gwahaniaeth - a gwahaniaeth go iawn.

Mewn geiriau eraill rydym yn byw yn ystod cyfnod lle mae cyfle hanesyddol, ac unigryw efallai, i droi'r llif sydd wedi trawsnewid proffeil ieithyddol y rhan fwyaf o Gymru mewn tua can mlynedd a hanner. Mae'n gyfnod lle gellid ail fodelu'r ddarpariaeth addysgol tros y wlad mewn modd fyddai'n gwneud y Gymraeg yn gyfadran bwerus - mwy pwerus na'r Saesneg efallai yn y gyfundrefn addysgol. Gyda chyfle fel hyn 'dydi cynyddu'r ddarpariaeth o sero pwynt rhywbeth pob blwyddyn ddim digon da. Mae'n gyfle sy'n cael ei golli - a gallai hyn fod yn drychineb hanesyddol i ni fel gwlad.

5 comments:

Hogyn o Rachub said...

"Un sir yn unig sydd a mwy na hanner ei phlant cynradd yn siarad y Gymraeg adref – Gwynedd gyda 52.7%."

Hwnnw'n ddieithriad ydi un o'r ffigurau mwyaf digalon dwi wedi ei darllen ers talwm. Yn wir, mae 52.7% yng Ngwynedd yn drychinebus.

Anonymous said...

"Mae’r ganran o blant sy’n siarad Cymraeg adref gyda’i teuluoedd yn dreuenus o isel - 7.6% o blant cynradd yn ol tystiolaeth rhieni."

Yn census 2001, mi roedd y ganran o oedolion syn medru siarad Cymraeg yr isa erioed. O ran demograffeg, mae disgwyl cynnydd bach yn y ganran 25-39 oed sy'n medru'r Gymraeg yn 2011, fellu ella'n bod ni wedi cyraedd trobwynt efo'r 7.6%.

Nes di ddim son am Torfaen a Chasnewydd. Dwy sir sydd wedi cael cynnydd anferthol yn y nifer o blant sy'n medru siarad Cymraeg (yn ol eu rhieni)...

menaiblog said...

Mae gen i ofn nad oes yna fawr o dystiolaeth bod y llanw 'Cymraeg adref' yn troi.

2002/03 17,609 8.2
2003/04 17,865 8.4
2004/05 16,866 8.1
2005/06 17,611 8.6
2006/07 15,332 7.6

Ioan said...

Be 'on i'n drio ddeud (Anon), oedd tra bod yna ostwng yn y nifer o bobol 25-39 sy'n siarad Cymraeg (fel sy' 'di bod ymhob census yn y ganrif ddwetha), does na ddim rheswm i ddisgwyl y nifer o gartrefi Cymraeg godi. O leia yn y dyfodol agos, mae 'na bosibilrwydd ystadegol o gynydd!

p.s. Mwynhau'r blog. Un or ychydig rai dwi'n ymweld bob dydd!

menaiblog said...

Diolch Ioan - sori na alla i flogio pob dydd.

Mae dy bwynt yn un teg am y cynnydd bychan mewn pobl o oed epilio. Y broblem ydi nad ydi trosglwyddiad ieithyddol yn effeithiol iawn mewn cartrefi felly - o leiaf mewn rhai rhannau o Gymru.

Pwnc da am flog yn y dyfodol agos efallai.