Saturday, September 29, 2012

Gorymdeithio yn erbyn llif hanes

Ymddengys bod miloedd o aelodau'r Urdd Oren yn gorymdeithio yng Ngogledd Iwerddon heddiw i ddathlu can mlwyddiant arwyddo Cyfamod Ulster.

Y cwestiwn diddorol fodd bynnag ydi faint sydd ganddynt i'w ddathlu mewn gwirionedd?  Mae yna berthynas hynod agos yng Ngogledd Iwerddon rhwng cefndir crefyddol a thueddiadau gwleidyddol.  Mae tueddiad cryf gan bobl o gefndir Pabyddol i bleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar, tra bod pobl o gefndir Protestanaidd gyda thueddiad cryf i bleidleisio i bleidiau unoliaethol.  Mae'r berthynas rhwng patrymau pleidleisio a chefndir diwylliannol yn hynod gryf yng Ngogledd Iwerddon -  yn gryfach o lawer nag ydi'r berthynas rhwng dosbarth cymdeithasol a phatrymau pleidleisio yn y DU, a chryfach o lawer nag ydi'r berthynas rhwng cenedlaetholdeb a'r gallu i siarad y Gymraeg yng Nghymru er enghraifft.

O ganlyniad mae yna aros mawr am ganfyddiadau cyfriad 2011 ynglyn a'r cydbwysedd 'crefyddol' yn y dalaith.  Mae'r canfyddiadau hynny bron yn sicr o fod yn rhai negyddol o safbwynt y sawl sy'n gorymdeithio heddiw.  Mi geisiaf esbonio pam.



Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod yna fwyafrif 'Protestanaidd' yng Ngogledd Iwerddon o hyd - yn ol pob tebyg - fyddan ni ddim yn siwr o hynny nes bod y rhan perthnasol o gyfrifiad 2011 yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yn ol cyfrifiad 2001 roedd tua 43.8% or boblogaeth o gefndir Pabyddol, tra bod 53.1% 0 gefndir Protestanaidd. Yn 1961 roedd  63% or boblogaeth yn Brotestanaidd, tra bod 35% yn Babyddol. 

Rydym yn gwybod hefyd bod yna fwyafrif clir unoliaethol ymysg pobl sydd ar y gofrestr pleidleisio. Ond mae hefyd yn amlwg bod y mwyafrif Unoliaethol / Protestanaidd yn gostwng.  Yn ol yn 1974 roedd tua 63% yn pleidleisio i rhyw blaid unoliaethol neu'i gilydd, erbyn 2011 roedd y ffigwr o gwmpas y 45%.

Yr hyn sy'n arwyddocaol o safbwynt y dyfodol fodd bynnag ydi strwythur y boblogaeth - mae'r boblogaeth 'Babyddol' yn llawer ieuengach na'r un 'Brotestanaidd'.  Gellir gweld hyn ar ei gliriaf yn ffigyrau'r cyfrifiad ysgolion a gyhoeddir pob blwyddyn.  Maer graff isod yn dangos y gogwydd tros y blynyddoedd diwethaf:


Fel y gellir gweld, mae'r ganran 'Babyddol' yn aros yn weddol gyson o gwmpas y 51%, gyda'r categori 'arall' yn cynyddu tra bod yr un 'Brotestanaidd' yn cwympo.  Rydym yn gwybod bod pobl o gefndir Protestaniaidd yn llai tebygol o ddatgan eu bod yn grefyddol na phobl o gefndir Pabyddol, ond dydi'r cwbl o'r categori 'arall' ddim yn dod o gefndir Protestanaidd. Yn ol swyddfa'r cyfrifiad (yn 2001 o leiaf), mae'r sawl sydd ddim yn dweud o ba gefndir crefyddol maent yn dod ohono yn torri tua 7:4 o blaid pobl o gefndir 'Protestanaidd'. O ystyried hynny, byddai'r graff yn edrych fel hyn:
Gellir gweld y ffigyrau llawn yma .

Canlyniad hyn oll ydi bod proffeil gwleidyddol y sawl sydd ar y gofrestr etholiadol yng Ngogledd Iwerddon yn graddol newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae'n debyg bod mwyafrif o'r sawl sy'n cael eu hychwanegu i'r gofrestr pob blwyddyn wedi bod yn bobl o gefndir 'Pabyddol' ers tua pymtheg mlynedd. Mae'r mwyafrif clir iawn o'r sawl sydd wedi gadael y gofrestr (oherwydd marwolaeth yn bennaf) wedi bod o gefndir 'Protestanaidd'. Mae'n debyg bod mwyafrif 'Pabyddol' ym mhob cohort blynyddol sy'n ieuengach na 35 neu 36 oed bellach.

Canlyniad anhepgor hynny yn ei dro ydi y bydd mwyafrif y boblogaeth o gefndir 'Pabyddol' o fewn cyn lleied a deg mlynedd o bosibl, o fewn degawd arall bydd yna fwyafrif felly ar y rhestr etholiadol, ac wedyn bydd dyfodol statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon y tu hwnt i reolaeth y gymuned mae'r sawl sydd yn gorymdeithio heddiw yn perthyn iddi. 

Dwi wedi dwyn y graffiau oddi wrth flog o'r enw End Game in Ulster. Os oes rhywun efo diddordeb yn nemograffeg y dalaith gellir hefyd edrych ar Ulster's Doomed - blog arbennig o dda, ond un sydd ddim yn cael ei ddiweddaru bellach oherwydd marwolaeth yr awdur.

3 comments:

Anonymous said...

A oes tebygrwydd mewn ffordd yma i beth sy'n diggwydd yng Nghymru hy llai o Gymru - wrth gwrs, nifer ohonynt yn Brydeinwyr a nifer arall yn Genedlaetholwyr Cymreig? Ond y grwp sy'n mynd yn fwy yng Nghymru yw'r mewnfudwyr sydd gan amlaf yn Saeson ac fydd yn debygol o bleidleisio i'r Pleidiau Prydeinig.

menaiblog said...

Mae yn rhywfaint o fewnfudo o Loegr i Ogledd Iwerddon, ond mae'n llai nag yw yng Nghymru - mae'r lle yn bell. Yn ychwanegol mae yna fewnfudo o Weriniaeth Iwerddon hefyd. Hefyd ceir mewnfudo o Ddwyrain Ewrop - gyda mewnfudiad sylweddol i rhai ardaloedd megis Dungannon.

Anonymous said...

Wedi clywed bod y diawled wedi agor lodge yng Nghaerdydd y gynta ers 50 mlynedd !

http://www.facebook.com/Cardiff.Loyal.Orange.Lodge