Showing posts with label sefydliadau. Show all posts
Showing posts with label sefydliadau. Show all posts

Sunday, October 07, 2012

Sgandal ar ol sgandal ar ol sgandal

Mae'n beth rhyfedd, ond mae llawer o'r sefydliadau hynny oedd yn cael eu hystyried yn  elfennau digyfnewid o fywyd ugain mlynedd yn ol, bellach yn ffocws rheolaidd i rhyw sgandal neu'i gilydd.  Roedd y rhan fwyaf o'r sefydliadau hynny y tu hwnt i feirniadaeth tan yn ddiweddar hefyd.

Dyna i chi'r Bib i ddechrau - mae'r gorfforaeth wedi bod o dan sylw yn ddiweddar oherwydd i filoedd lawer o'r sawl sy'n gweithio iddi dalu treth ar gyfradd is na'r gweddill ohonom trwy smalio mai cwmniau yn hytrach nag unigolion ydynt, ac oherwydd y sefyllfa hynod anffodus parthed Jimmy Savile.  Gallai goblygiadau'r ail stori fod yn hynod bell gyrhaeddol.

Ac wedyn cafwyd sefydliad hoffus arall - News International - yn cael ei hun mewn trafferth go sylweddol oherwydd i rai o bapurau newydd y cwmni fynd ati i hacio ffonau symudol cannoedd o bobl - gweithred sy'n gwbl anghyfreithlon.  Mae'r sgandal yma yn ei dro wedi taflu goleuni ar sefydliad arall - yr heddlu.  Ymddengys bod News of the World wedi bod yn talu i aelodau'r heddlu am wybodaeth cyfrinachol - rhywbeth arall sy'n anghyfreithlon.

Mae sgandalau sy'n ymwneud efo ein hannwyl fanciau rif y gwlith wrth gwrs, a dydan ni ddim yn gorfod mynd yn ol yn rhy bell i ddod ar draws y sefyllfa ryfeddol lle'r oedd aelodau seneddol wedi creu system dreuliau oedd yn caniatau iddyn nhw eu hunain hawlio symiau rhyfeddol o bres gan y trethdalwr heb orfod datgan unrhyw fanylion i'r dywydiedig drethdalwr.  Er wedi dweud hynny pe byddem yn mynd ati i fynd ar ol sgandalau seneddol byddwn wrthi am gryn gyfnod - mae yna fwy na hanner cant wedi bod yn ystod fy mywyd i.

Mae sgandalau brenhinol yn gyffredin hefyd - ac mae'r un bresenol ynglyn a Savile yn cyffwrdd a'r teulu hwnnw hefyd  - ond dydi'r rheiny ddim hyd yn oed yn niweidio delwedd y teulu brenhinol bellach - wnaeth yna neb hyd yn oed meddwl dwywaith pan gafodd Charles godiad cyflog o 11% yn ddiweddar - er bod pawb arall sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus wedi cael eu cyflogau wedi eu rhewi ers blynyddoedd.

Y llinyn sy'n cysylltu'r holl sgandalau ydi eu bod yn ymwneud a sefydliadau ag iddynt ddiwylliant o hunan bwysigrwydd, lefelau isel o atebolrwydd ac ethos o gyfrinachedd a diffyg atebolrwydd.  Y rheswm eu bod nhw i gyd yn cael eu taro gan sgandalau fwy neu lai yr un pryd ydi oherwydd bod disgwyliadau'r cyhoedd wedi newid - mae pobl yn parchu sefydliadau llai bellach ac yn disgwyl tryloywder, atebolrwydd a pharch at y gyfraith ganddynt.

Does dim rhaid dweud bod hyn yn rhywbeth cwbl gadarnhaol.