Thursday, March 16, 2017

Y cyfryngau prif lif a'r Toriaid yn ymateb i lif trydar Aubel - o'r diwedd

Ychydig ddyddiau'n ol roeddem yn trafod trydariad y Tori Felix Aubel oedd yn ein gwahodd i drafod os y dylem efelychu'r hyn ddigwyddodd yn Sbaen yn y Canol Oesoedd a mynd ati i erlid a lladd miliynau o Fwslemiaid ar sail eu crefydd.  Ymddengys bod y trydariad wedi ymddangos yn y cyfryngau prif lif - esiampl brin os nad unigryw o'r rhagfarn a'r anoddefgarwch sy'n nodweddu llif trydar Felix yn cael ei alw i gyfri a'i feirniadu.

Rwan dwi'n gwybod nad ydi Felix yn wleidydd proffesiynol, a hyd y gwn i dydi o erioed wedi cael ei ethol i unrhyw swydd gyhoeddus o gwbl.  Ond mae o'n wyneb cyhoeddus i'r Blaid Doriaidd Gymreig yng Nghymru - yn arbennig felly ar y cyfryngau cyfrwng Cymraeg.  Yn wir mae o'n cael ei anfon i siarad trostynt ar raglenni Cymraeg yn amlach na'r un gwleidydd proffesiynol bron.  Hyd yn oed efo 'r trydariad diweddar a'i gwestiwn 'pen agored' (chwadl Felix) sy'n ymddangos i ofyn os dylid erlid a llofruddio miliynau o Fwslemiaid, y cwbl sydd gan y Toriaid Cymreig i'w ddweud ydi mai mynegi ei farn ei hun mae'r dyn.  Mae'n ryddhad deall nad ydi'r Toriaid Cymreig o blaid agor trafodaeth am erlidigaeth ar sail crefydd, ond dydi'r ymateb ddim ddigon da.

Dwi ddim eisiau gwneud sylw o unrhyw fath ynglyn ag achos Neil McKevoy pan gafodd ei hun mewn trwbwl yn gynharach yn y mis yn sgil sylw a wnaeth yng nghlyw swyddog o Gyngor Caerdydd rai blynyddoedd yn ol.  Ond roedd y cyfryngau ar hyd y stori'n syth bin.  Cychwynwyd ar gamau mewnol gan y Blaid i ymateb i'r sefyllfa -  hefyd yn syth bin.  Roedd y cyfryngau hefyd tros sylwadau eithaf di niwed a wnaed gan Seimon Glyn ar ddechrau'r ddegawd ddiwethaf am fisoedd.

Mae'n ymddangos mai ffordd y Toriaid Cymreig o fynd i'r afael a rhagfarnau crefyddol a chymhelliad posibl i gasineb ydi dweud nad ydi hynny'n safbwynt swyddogol.  Mae'n anodd dychmygu ymateb mor wan a thila?  Tybed os oes ganddyn nhw strwythurau disgyblu o gwbl?

Rwan mae Felix wedi bod yn trydar ac ail drydar negeseuon sydd - ar y gorau - yn dangos anoddefgarwch crefyddol ers misoedd a does neb ag eithrio'r blog yma (pan mae gen i 'r amynedd i edrych ar y siwar agored o linell trydar mae'n ei gadw) wedi cymryd unrhyw - sylw o'r peth ac mae hynny'n adrodd cyfrolau.  Mae'r cyfryngau Cymreig yn rhyfeddol o sensitif i sylwadau annoeth gan genedlaetholwyr, ac maen nhw'n hynod ansensetif i sylwadau rhagfarnllyd gan wleidyddion unoliaethol.  I gael unrhyw sylw o gwbl rhaid i'r hyn ddywedir fod yn grotesg o eithafol. 

ON - dwi'n sylwi bod yna garthu wedi bod ar gyfri Felix yn ystod y dydd heddiw.  Diolch am screenshot.


2 comments:

Joniesta said...

Pam ddiawl mae'r sylwadau ar y stori yma wedi ei rewi ar Golwg360? Mi ddylsai'r Annibynwyr ei daflud allan o'r deml.

Anonymous said...

Diolch gymaint am y screenshots- ma fe'n rili bwysig fod na destimoni hanesyddol i beth wnath e drydar. Ag i bobl cael gweld beth oedd ei safbwyntiau. Diolch Diolch