Tros yr ychydig ddyddiau nesaf rwyf yn bwriadu edrych ar yr etholiadau nesaf sydd ar y gweill - yr etholiadau ar gyfer 22 cyngor sir Cymru. Fel arfer byddaf yn edrych ar bethau o safbwynt Plaid Cymru - a fel arfer byddaf yn ceisio bod mor wrthrychol a phosibl.
Mi wnawn ni gychwyn efo sut aeth hi'n ol yn 2012. Mewn gair roedd hi'n etholiad arbennig o dda i Lafur gyda'r blaid yn ennill tir yn sylweddol. Yn wir dyma'r etholiadau lleol gorau i Lafur ers dyddiau Neil Kinnock.
Llafur 304,296 pleidlais 36.0% +9.4% 10 cyngor +8 577 cynghorydd + 237.
Annibynnol 190,425 pleidlais 22.5% + 0.5% 2 + 1 284 cynghorydd - 27
Plaid Cymru 133,961 pleidlais 15.8% -1.0% 0 158 cynghorydd - 41
Toriaid 108,365 pleidlais 12.8% 2.8% 0 -2 105 cynghorydd - 66
Liberal Democrat pleidlais 68,619 8.1% - 4.9% 0 72 cynghorydd - 91
UKIP - 0
Ni fyddant yn gwneud cystal y tro hwn - yn wir gallwn ddisgwyl iddyn nhw golli nifer sylweddol o gynghorwyr a nifer o gynghorau. Yn draddodiadol mae perfformiad Llafur mewn etholiadau yng Nghymru yn adlewyrchu eu perfformiad yn y polau piniwn Prydeinig. Roeddynt yn gwneud yn dda iawn wrth y mesur hwnnw yn 2012 ac maent ar lefelau hanesyddol isel ar hyn o bryd.
Ta waeth - o ran y Blaid gallwn edrych ar bethau fel a ganlyn. Mae Haen 1 o gynghorau yn rhai lle mae ganddi gyfle da o ennill grym. Ar hyn o bryd Gwynedd yn unig a reolir ganddi. Maent wedi eu gosod yn nhrefn y tebygrwydd o ennill grym.
Haen 1:
Mae gan y Blaid gyfle da neu dda iawn o ennill grym yn y cynghorau canlynol - mewn trefn o debygrwydd: Gwynedd / Ynys Mon / Caerfyrddin / Ceredigion / Caerffili.
Mae haen 2 yn amlinellu dau gyngor lle gallai'r Blaid symud ymlaen yn sylweddol - ond lle mae ennill neu rannu grym yn llai tebygol. Yn y cynghorau yma mae'n ras dau geffyl llwyr - rhwng Plaid Cymru a Llafur.
Haen 2:
Rhondda Cynon Taf / Castell Nedd Port Talbot.
Yn haen 3 ceir cynghorau lle gallai'r Blaid hefyd yn hawdd gael ei hun yn rhannu grym, lle gallai fod yn blaid fwyaf, ond bod hynny oherwydd bod cefnogaeth wedi ei rannu yn eithaf eang rhwng nifer o grwpiau.
Haen 3:
Conwy / Dinbych / Caerdydd.
Cofier hefyd ei bod yn bosibl rhannu grym gyda nifer cymharol fach o seddi. Er enghraifft roedd y Blaid
yn rhannu grym yn Wrecsam efo 4 cynghorydd yn unig.
Cofier hefyd bod cynghorau lle mae'n bosibl i'r Blaid wneud argraff am y tro cyntaf - Powys a Blaenau Gwent er enghraifft.
2 comments:
Blog gwych. O ran Blaenau Gwent, mae tri ymgeisydd da gyda ni yn wardiau Six Bells, Cwm a Brynmawr. Ymgyrch yn mynd rhagddi yn barod a siawns da o ennill ein tair sedd gyntaf.
Bydd o leiaf 13 ymgeisydd yn rhan Maldwyn o Bowys - ble arferai fod un
Post a Comment