Ychydig ddyddiau'n ol roeddem yn trafod trydariad y Tori Felix Aubel oedd yn ein gwahodd i drafod os y dylem efelychu'r hyn ddigwyddodd yn Sbaen yn y Canol Oesoedd a mynd ati i erlid a lladd miliynau o Fwslemiaid ar sail eu crefydd. Ymddengys bod y trydariad wedi ymddangos yn y cyfryngau prif lif - esiampl brin os nad unigryw o'r rhagfarn a'r anoddefgarwch sy'n nodweddu llif trydar Felix yn cael ei alw i gyfri a'i feirniadu.
Dwi ddim eisiau gwneud sylw o unrhyw fath ynglyn ag achos Neil McKevoy pan gafodd ei hun mewn trwbwl yn gynharach yn y mis yn sgil sylw a wnaeth yng nghlyw swyddog o Gyngor Caerdydd rai blynyddoedd yn ol. Ond roedd y cyfryngau ar hyd y stori'n syth bin. Cychwynwyd ar gamau mewnol gan y Blaid i ymateb i'r sefyllfa - hefyd yn syth bin. Roedd y cyfryngau hefyd tros sylwadau eithaf di niwed a wnaed gan Seimon Glyn ar ddechrau'r ddegawd ddiwethaf am fisoedd.
Mae'n ymddangos mai ffordd y Toriaid Cymreig o fynd i'r afael a rhagfarnau crefyddol a chymhelliad posibl i gasineb ydi dweud nad ydi hynny'n safbwynt swyddogol. Mae'n anodd dychmygu ymateb mor wan a thila? Tybed os oes ganddyn nhw strwythurau disgyblu o gwbl?
Rwan mae Felix wedi bod yn trydar ac ail drydar negeseuon sydd - ar y gorau - yn dangos anoddefgarwch crefyddol ers misoedd a does neb ag eithrio'r blog yma (pan mae gen i 'r amynedd i edrych ar y siwar agored o linell trydar mae'n ei gadw) wedi cymryd unrhyw - sylw o'r peth ac mae hynny'n adrodd cyfrolau. Mae'r cyfryngau Cymreig yn rhyfeddol o sensitif i sylwadau annoeth gan genedlaetholwyr, ac maen nhw'n hynod ansensetif i sylwadau rhagfarnllyd gan wleidyddion unoliaethol. I gael unrhyw sylw o gwbl rhaid i'r hyn ddywedir fod yn grotesg o eithafol.
ON - dwi'n sylwi bod yna garthu wedi bod ar gyfri Felix yn ystod y dydd heddiw. Diolch am screenshot.
2 comments:
Pam ddiawl mae'r sylwadau ar y stori yma wedi ei rewi ar Golwg360? Mi ddylsai'r Annibynwyr ei daflud allan o'r deml.
Diolch gymaint am y screenshots- ma fe'n rili bwysig fod na destimoni hanesyddol i beth wnath e drydar. Ag i bobl cael gweld beth oedd ei safbwyntiau. Diolch Diolch
Post a Comment