Yr hyn sy'n drawiadol wrth gwrs ydi perfformiad da Llafur, cwymp bach yn sefyllfa'r Blaid a pherfformiad gwael gan ymgeiswyr annibynnol - ond mae yna fwy i'r stori na hynny.
O dynnu ardal Llanelli allan o'r stori gwnaeth y Blaid yn eithaf da yn 2012 gan ennill seddi oddi wrth gynghorwyr annibynnol. Ond gwnaeth Llafur yn dda iawn yn ardal Llanelli - yn arbennig felly yn erbyn y Blaid. Felly roedd y Blaid yn ennill tir yn erbyn annibynnwyr y tu allan i ardal Llanelli ond yn colli tir yn erbyn Llafur yn ardal Llanelli.
Os ydi'r polau piniwn yn gywir bydd Llafur yn colli'r tir a enillwyd ganddynt ar hyd a lled Cymru ym mis Mai, a does yna ddim rheswm pam na fydd hynny'n digwydd yng Nghaerfyrddin. Petai hynny'n digwydd yn ardal Llanelli a phetai'r Blaid yn parhau i ennill tir yn erbyn cynghorwyr annibynnol mewn wardiau gwledig, byddai gan y Blaid gyfle rhesymol o ddod yn agos iawn at ennill y 38 sedd sydd ei angen i reoli'r cyngor yn llwyr - 8 yn ychwanegol - mae'r Blaid ar 29 ar hyn o bryd.
No comments:
Post a Comment