Tuesday, October 17, 2017

Argymhellion y Comisiwn Ffiniau

Mae'n debyg y bydd yna gryn dipyn o ddoethinebu am y newidiadau i'r etholaethau San Steffan sydd wedi eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ffiniau heddiw.  Mae'r ymarferiad yn un cwbl ddibwynt i raddau helaeth - mae'n anhebygol iawn o ddigwydd.

Mae'r llywodraeth - fel mae pawb yn gwybod bellach - yn llwyr ddibynol ar bleidleisiau'r DUP.  Er nad ydi'r argymhellion diwygiedig ar gyfer Gogledd Iwerddon heb eu cyhoeddi, os ydynt yn rhywbeth tebyg i'r rhai a gynhyrchwyd y llynedd byddant yn costio tair sedd i'r DUP.  Byddai dileu etholaeth East Londonderry yn dileu un o'u seddi yn syth, a byddai hollti West Belfast yn ddwy a'u uno efo North Belfast a South Belfast yn tywallt degau o filoedd o genedlaetholwyr i ddwy sedd unoliaethol ymylol.  Yn wir byddai'r newidiadau yn arwain at fwy o seddi Sinn Fein na rhai unoliaethol - rhywbeth fyddai'n anathema llwyr i'r DUP.

Mae'n bosibl symud ymlaen efo'r cynlluniau heb gynnwys Gogledd Iwerddon wrth gwrs, ond mae yna wrthwynebiad chwyrn ymysg aelodau seneddol Toriaidd sydd yn ofn gweld eu etholaethau'n diflanu - a byddai triniaeth ffafriol yn dan ar eu crwyn nhw.  Ychwaneger at hynny y ffaith bod anawsterau Brexit wedi arwain at pob darn o ddeddfwriaeth cynhenus arall yn cael ei daflu tros ymyl y cwch dyllog, a gallwn gymryd mai dyna fydd yn digwydd i'r cynllun yma hefyd.

No comments: