Sunday, October 08, 2017

Trosodd atoch chi Mr Davies

Mae Sandy Clubb yn gwbl gywir i ddweud nad ydi Cyngor (Llafur) Caerdydd yn dod yn agos at wneud eu rhan i wireddu uchelgais honedig llywodraeth Cymru i 'greu' miliwn o siaradwyr Cymraeg.  Yr hyn sydd ddim yn ymddangos yn y stori ydi mai prin iawn ydi'r cynghorau - gan gynnwys - neu yn arbennig  gynghorau Llafur.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad oes modd gor ddweud pwysigrwydd y sector addysg i'r Gymraeg.  Yn y gorffennol roedd y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn dysgu'r iaith ar yr aelwyd - lleiafrif sy'n gwneud hynny bellach.  Mae'n debyg mai tua 21% o siaradwyr Cymraeg rhwng 3 a 15 sy'n dysgu'r Gymraeg ar yr aelwyd erbyn hyn, mae'r ganran gyfatebol ar gyfer pobl 65+ yn agos at 80%.  Mae'r gwahaniaeth yma yn sylweddol ac yn arwyddocaol iawn.


                                 Dosbarthiad ysgolion cyfrwng Cymraeg


Yr ail bwynt i'w wneud ydi bod pedair sir orllewinol yn ysgwyddo llawer iawn, iawn o'r faich o addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg - sef Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Er mai 13% yn unig o blant ysgolion  cynradd Cymru sy'n cael eu addysgu yn y bedair sir yma, mae 57% o'r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yno - ac mae 44% o'r plant sy'n cael addysg Gymraeg yn y siroedd hyn.  Mae'n debyg bod y gwir ffigwr yn uwch mewn gwirionedd gan bod ysgolion canol yng Ngheredigion yn cael eu di ystyru.  

I roi pethau mewn ffordd arall mae 87% o'r plant ysgolion cynradd yn yr 18 sir sy'n weddill yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg - er bod cryn dipyn o dystiolaeth bod yna lawer iawn o alw am addysg Gymraeg ar hyd rhannau sylweddol o'r siroedd hynny. 

Ac mae yna fater bach arall hefyd - Plaid Cymru sy'n arwain yn y bedair sir orllewinol tra mai Llafur sy'n arwain yn y rhan fwyaf o siroedd eraill.  

Does gan bleidiau Llafur lleol ddim llawer o broblem pan mae'n dod i ddefnyddio addysg cyfrwng Cymraeg fel arf gwleidyddol os ydi hynny'n gyfleus.  Cafwyd ymgyrch yn Llangennech yn erbyn newid statws yr ysgol leol gan Lafur eleni er enghraifft.  Roedd deunydd etholiadol Llafur yn Nhreganna yn ystod yr etholiadau lleol eleni yn codi bwganod am gau ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn agor rhai cyfrwng Cymraeg ym mis Ebrill a Mai eleni.

Felly os ydi Alun Davies eisiau ei filiwn o siaradwyr Cymraeg mae'n rhaid iddo ddod a'i blaid efo fo - yn genedlaethol ac ar lefelau lleol.  Wedi'r cwbl mae'r cynnydd yn y ganran o blant sydd mewn addysg Gymraeg yn boenus o araf - 18.81% oedd y ffigwr yn 2000/2001 a 23.86% ydi o erbyn hyn.  Mae'r ffigwr wedi bod yn statig am bron i ddegawd.  

Ond mae pob dim rydym yn ei wybod am y Blaid Lafur Gymreig yn awgrymu na fydd Alun Davies na Carwyn Jones na neb arall yn dangos y dewrder gwleidyddol i geisio mynd a'u plaid efo nhw.  Yn hanesyddol pan mae'n dod i faterion penodol Gymreig, cadw'r gwch yn wastad yn fewnol ydi blaenoriaeth Llafur.  Cyfaddawdu am resymau mewnol oedd yn gyfrifol am y setliad datganoli rhyfedd a bisar a gafodd Cymru, a dyna sy'n gyfrifol am y rhwyfo yn ol diweddar yng nghyd destun y Gymraeg.

Ystadegau oddi yma ac yma

No comments: