Friday, December 08, 2017

Dydi Felix ddim yn hapus


Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod ein bod yn ymweld a chyfri trydar eithaf boncyrs Felix Aubel o bryd i'w gilydd - er fy mod wedi cael fy mlocio rhag dilyn y cyfri ers talwm.  Er enghraifft cawsom gip ar drydariadau ac aildrydyriadau anoddefgar y dyn yma.  Mae'r math yma o beth yn llai cyffredin y dyddiau hyn - ers i  Felix gael ei hun mewn dwr poeth oherwydd iddo  gael cyhoeddusrwydd anffafriol wedi iddo geisio dechrau trafodaeth efo eithafwr adain dde o Sweden ynglyn erlid pobl am resymau crefyddol.  






Ac am unwaith yn ei fywyd mae Felix yn gwbl gywir - mae'r DU wedi ildio ar pob dim roeddynt yn dweud oedd y 'linellau coch' ychydig amser yn ol.  Yn anhygoel mae'r cytundeb yn nodi y bydd y DU yn cadw at reoliadau a safonau Ewropiaidd os mai dyna'r unig ffordd o sicrhau nad oes ffin rhyngwladol yn yr Iwerddon.  Efallai y byddai'n syniad egluro pam bod hyn wedi digwydd er budd Felix a'i debyg.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad proses o negydu yn yr ystyr arferol ydi'r hyn sydd wedi dod i fwcl heddiw.  Yn hytrach mae'n broses o'r UE yn dweud wrth y DU beth sy'n rhaid iddi ei wneud cyn cael trafod trefniadau masnach yn y dyfodol, a'r DU - ar ol tipyn o theatrics - yn cytuno i'r hyn maent yn gofyn amdano.  

Mae'r rheswm pam bod hyn yn digwydd yn eithaf syml yn y bon - mae pethau'n unochrog iawn - mae'n 'negydu' rhwng bloc masnachu anferth a gwlad ganolig ei maint sydd ddim efo cytundeb masnach efo unrhyw wlad yn annibynnol o'r UE. Byddai methu a dod i gytundeb yn niweidiol i'r UE - ond byddai'n gwbl drychinebus i'r DU o safbwynt masnachol.

Gallwn ddisgwyl i'r 'negydu' tros y flwyddyn nesaf fod yn ddigon tebyg - gyda'r DU yn gorfod dilyn un gorchymyn ar ol y llall.

Felly rydym mewn sefyllfa lle mae pobl fel Felix sydd wedi bod yn ymgyrchu i adael Ewrop wedi'n cael mewn sefyllfa lle rydym yn gorfod talu swmiau mawr o arian i'r UE, lle bydd y Llys Ewropiaidd yn dal efo dylanwad yn y DU a lle bydd Gogledd Iwerddon yn symud oddi wrth gweddill y DU o ran ei threfniadau masnachol a rhai o'i threfniadau economaidd.

Ac mae yna rhywbeth arall hefyd.  Mae Iwerddon wedi cael pob dim roedd am ei gael o'r broses yma tra bod y DU wedi cael nesaf peth i ddim - ag eithrio cael mynd ymlaen i gael ei gicio o gwmpas eto yn ail gam y negydu.  Yn hanesyddol mae'r DU wedi arfer cael gwthio'r Iwerddon o gwmpas yr iard yn ddi dramgwydd.  Ni ddigwyddodd hynny y tro hwn oherwydd bod y Gwyddelod - fel aelodau parhaol o'r UE - gyda chefnogaeth gwledydd Ewrop, tra nad oedd gan Brydain gefnogaeth neb.  Cafodd y bwli ei fwlio gan endid llawer llai na fo'i hun.

Mae Felix a'i ffrindiau wedi gwneud y DU yn wanach ar y llwyfan rhyngwladol nag yw wedi bod erioed.  Mae'n anodd peidio chwerthin.
















3 comments:

Marconatrix said...

Oes 'na gwersi i Gymru, tybed?

Dinah said...

chwerthin drwy'r dagrau

Anonymous said...

Mae Felix, Farage a Boris a phob pen rwdan o Frexitiar arall yn dal i hefru 'mlaen byth a beunydd am yr angen i reoli'r ffiniau.

Heblaw wrth gwrs - am yr unig ffin yna.

Oni ddylai slogan y Brexitiars felly newid i ...

"We need to control our borders - except for the only one we have"

Wow - son am ddryswch.

C'mon Felix. Wyt ti eisiau rheoli ffiniau neu wyt ti am gario mlaen i bedlera sloganau di-ystyr fel hyn ? Wel Felix ?