Wednesday, December 27, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 3

Mae'r UE yn debygol i barhau i gefnogi llywodraeth Sbaen a bydd goblygiadau hir dymor i hynny.  Bwriad gwreiddiol yr UE oedd dod a'r rhyfeloedd hynod waedlyd sydd wedi 'sgubo tros gyfandir Ewrop tros y canrifoedd i ben trwy roi buddiannau tebyg i bob gwlad - ac mae hynny wedi bod yn hynod lwyddiannus.  Ond mae cymryd agwedd na all y ffiniau rhyngwladol oddi mewn i'r UE byth newid yn creu risg newydd i heddwch oddi mewn i'r UE.  Mae ffiniau gwleidyddol wedi newid ac  esblygu erioed, a byddant yn gwneud hynny am byth.  



Yn y gorffennol roedd y newidiadau hyn yn aml - ond nid pob tro -  yn digwydd oherwydd concwest milwrol, ond yn ddiweddar maent wedi adlewyrchu dymuniadau democrataidd y bobl sy'n byw o fewn eu ffiniau.   Lle nad oes cyfle i bobl fynegi eu hunaniaeth trwy ddulliau democrataidd, mae'r tebygrwydd o wrthdaro milwrol yn uwch.  Roedd y rhyfeloedd hir yng Ngogledd Iwerddon a Gwlad y Basg wedi eu hachosi - yn eu gwahanol ffyrdd - gan ddiffg cyfleoedd democrataidd i fynegi hunaniaeth genedlaethol.  Os ydi'r UE yn datblygu i fod yn rhwystr i newidiadau sy'n deillio o ewyllys democrataidd carfannau o bobl sy 'n byw yn yr UE bydd tyndra gwleidyddol yn adeiladu mewn gwahanol rannau o'r Undeb, a bydd tros amser yn arwain at dywallt gwaed.

1 comment:

Marconatrix said...

I'r dim, mae'n debig ...