Sunday, October 22, 2017

Negydu i adael yr UE - problem y DU

Felly mae canolfan rwdlan digidol Cymru - blog yr Aelod Seneddol Toriaidd Glyn Davies - wrthi'n rwdlan unwaith eto.  Yr hyn sydd ganddo'r tro hwn ydi bod y negydu i adael yr UE yn mynd yn union fel roedd Glyn yn disgwyl o'r dechrau'n deg, ac os ydi pethau'n mynd o chwith mai bai yr Undeb Ewropiaidd fawr ddrwg 'na ydi pob dim.  

I raddau mae'r blogiad yn ddiddorol yn yr ystyr ei fod yn adlewyrchu'r newid sylweddol a gafwyd yn naratif gwleidyddion a chyfryngau sydd wedi hyrwyddo gadael yr Undeb Ewropiaidd o'r cychwyn.  Ar y dechrau roeddem yn cael ein sicrhau ganddynt y byddwn yn siwr o ddod i gytundeb masnach rydd heb fawr o drafferth efo'r UE oherwydd eu bod nhw'n awyddus i werthu BMWs a Prosecco i ni.  Ers iddi ddod yn amlwg nad ydi hynny am ddigwydd mae'r naratif wedi ei haddasu i rhywbeth fel 'Mi fyddem ni'n cael cytundeb marchnad rydd efo'r UE oni bai bod y diawled drwg eisiau'n cosbi ni'.  

Rydym angen pwt o eglurhad dwi'n meddwl.  

Mae'r DU ar hyn o bryd yn rhan o'r UE ac oherwydd hynny mae'n cael yr holl gyfleoedd (a'r problemau) sy'n gysylltiedig â hynny.  Mae hynny'n cynnwys masnachu'n ddi doll efo 27 gwlad arall yr UE.

Penderfynasom adael, ond am ryw reswm rydym yn credu bod gennym hawl barhau i gael y manteision masnachu rhydd beth bynnag.  Gan ein bod wedi gadael byddai rhywun yn meddwl ei bod yn weddol amlwg nad oes gennym bellach yr hawliau hynny.  Mae ein safbwynt dipyn  fel un rhywun sy'n gadael clwb golff ar ol bod yn perthyn iddo am flynyddoedd maith, ond yn llafurio o dan yr argraff ei bod yn gwbl briodol iddo barhau i ddefnyddio'r cwrs golff a'r cyfleusterau eraill.

Ond Mae Glyn a'i debyg yn mynd ati i rincian dannedd a wylofain a chwyno ein bod yn cael ein bwlio pan nad ydi'r UE yn cytuno efo'r canfyddiad rhyfedd yma.  

Y rheswm mae gwleydydd yn ciwio i ymuno efo blociau masnachu megis yr UE ydi oherwydd bod byd masnach rhyngwladol yn hynod gystadleuol, ac mae pwer negydu bloc mawr yn llawer cryfach na phwer negydu uned fechan.  Pan mae'r DU yn gadael yr UE bydd yn peidio a bod yn rhan o floc masnachu, a bydd yn dechrau cystadlu efo'r UE .  Does yna ddim rheswm o gwbl pam y byddai'r UE eisiau eu gwneud yn hawdd i ni gystadlu yn eu herbyn.  I'r gwrthwyneb.  

No comments: