Tuesday, December 26, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 2

Carwyn Jones.  Beth bynnag ddaw o'r ymchwiliad swyddogol i fwlio yng nghoridorau pwer Bae Caerdydd, mae gan Carwyn Jones lawer o elynion oddi mewn i'r Blaid Lafur Gymreig bellach a bydd llawer o'r rheiny  eisiau gweld gwaed.  



Mae'r Blaid Lafur yn ehangach bellach wedi syrthio i ddwylo dilynwyr Corbyn, ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y newid yn arweinyddiaeth Plaid Lafur yr Alban.  A gadael y sefyllfa Carl Sergeant o'r neilltu, mae Carwyn yn edrych yn greadur digon rhyfedd yng nghyd destun yr hyn ydi'r Blaid Lafur bellach.  Mae'n anodd credu y bydd gyda ni am hir.  Bydd yn syndod i mi os bydd yn goroesi'r flwyddyn fel arweinydd y Blaid Lafur Gymreig a Phrif Weinidog Cymru.

1 comment:

david h jones said...

Mi fyddai ymadawiad Carwyn Jomes yn holled i ochr genedlaethol y Blaid Lafur a'r Cynulliad. Er ei fpd yn ddifflach a gwam ar sawl ystyr, mae'n reddfol Gymreig. Mae cefnogwyr Corbyn, hyd y gwelaf i, yn Jacobiniaid a does dim bydolwg nac arllwy Gymreig i'w gwleidyddiaeth.

O safbwynt cael cynulliad gydag unrhyw fath o ysbryd annibynnol Gymreig isdi, yna, efallai mai rhywun fel Alun Davies fyddai'r unig unvwr gael. Maevsiffyg talent llafur yn syfrdanol. Mae Drakeford yn ddeallus ond Ich n hollol ddi garism. Jeremy Miles byddai yr unig enw arall.