Tuesday, January 19, 2016

Unionist & Conservatives nid Conservative & Unionists

Ymddengys bod hanner aelodau seneddol Toriaidd Cymru wedi sgwennu at George Osborne yn gofyn iddo beidio datganoli pwerau trethiant i Gymru heb refferendwm. 


Dydw i ddim yn Dori - wrth gwrs.  Ond pe byddwn yn Dori byddwn yn credu - ac yn gweld mantais wleidyddol - mewn sefydlu perthynas glir rhwng trethiant a gwariant cyhoeddus yn y seneddau datganoledig - yn arbennig felly yng Nghymru.  

Un o'r prif ddistiau sy'n cynnal cefnogaeth etholiadol y Blaid Lafur Gymreig ydi'r ffaith eu bod mewn sefyllfa i alw am fwy a mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru heb orfod codi ffadan o dreth ar neb i gynnal y gwariant hwnnw.  Mae'r diffyg perthynas rhwng gwariant a threthiant hefyd ymysg y rhesymau pam bod gwleidyddiaeth Cymru mewn aml i ffordd yn wleidyddiaeth anaeddfed, a pham bod Llafur yn parhau i fod a chefnogaeth etholiadol ar ol cyfnod hir o fethiant.

Byddai rhywun yn meddwl y byddai Tori yn gweld hyn, ac mae'n debygol eu bod - ond bod y reddf i wrthwynebu datganoli pwerau i Gymru yn gryfach na'r angen i weithredu yn unol ag egwyddorion ceidwadol ac mewn ffordd sy'n gyson a hunan les etholiadol.  

Unoliaethwyr yn gyntaf, Toriaid a gwleidyddion wedyn.


1 comment:

Elis Dafydd said...

"Mae'r diffyg perthynas rhwng gwariant a threthiant hefyd ymysg y rhesymau pam bod gwleidyddiaeth Cymru mewn aml i ffordd yn wleidyddiaeth anaeddfed."

Cytuno'n llwyr. Mae'n ffordd i Lafur osgoi a disystyru'u cyfrifoldebau, fel maen nhw'n ei wneud gyda phopeth: Roedd y peth i'w weld yn glir yn y ffordd roedd y gwahanol bleidiau'n ymateb i ddiswyddiadau cwmni Tata. Plaid Cymru'n dweud y dylid rhan-wladoli'r cwmni a Llafur yn cwyno na fu mwy o gefnogaeth gan lywdroaeth y DU ac yn galw ar y llywodraeth honno i wneud rhywbeth.

Plaid Cymru'n gofyn 'Be fedrwn ni ei wneud?' - Llafur yn gofyn 'Pwy fedrwn ni ei feio?'.