Saturday, January 09, 2016

Llafur yn ymgyrchu yn erbyn deilliannau eu polisiau eu hunain - eto

Mae'r blog yma wedi nodi yn y gorffennol mai un o nodweddion rhyfedd y Blaid Lafur Gymreig ydi ei hangen i fod yn bopiwlistaidd wrth sefydliadol ac yn sefydliadol ar yr un pryd.  O bryd i'w gilydd mae'r ymgais yma i reidio dau geffyl sy'n aml yn carlamu i gyfeiriiadau cwbl wahanol yn arwain at sefyllfaoedd digon gogleisiol - fel pan aeth Aelod Cynulliad y Rhondda - Mr Leighton Andrews- allan ar y strydoedd i brotestio yn erbyn cau ysgol - rhywbeth oedd yn ddeilliant i Gyngor Llafur yn ufuddhau i ofynion polisi y Gweinidog Addysg - Mr Leighton Andrews.  

Yn naturiol ddigon mae ein cyfeillion ym Mhlaid Lafur Arfon yn rhan o yn union yr un diwylliant.  Esiampl dda o hyn ydi'r hw ha maent yn geisio ei achosi oherwydd bod Cyngor Gwynedd bellach yn casglu sbwriel na ellir ei ail gylchu pob tair wythnos (cesglir sbwriel ail gylchu yn wythnosol). 


Cyn mynd ymlaen mae'n debyg y dyliwn aros i wneud sylw ar y defnydd mynych o'r gair trychineb neu trychinebus mewn perthynas ag amgylchiadau lle bod cyfuniad o'r drefn newydd, trefniadau 'Dolig a'r tywydd garw wedi arwain at sbwriel yn hel y tu allan i dai rhai o drigolion Gwynedd.  Mae sbwriel y tu allan i'r ty yn anghyfleus, ond dydi o ddim yn drychineb.  Mae llawer o'r bobl rydym yn eu gweld yn llifo ar draws cyfandir Ewrop ar ol golli eu cartrefi, cael eu carcharu a'u harteithio neu weld anwyliaid yn cael eu lladd wedi profi trychineb, ond dydi pobl sydd a sachau sbwriel wrth eu ty heb - neu byddai rhannau mawr o  Dreganna (Cyngor Caerdydd, Llafur) wedi ei ddatgan yn ardal trychineb wythnos diwethaf.  Mae'r defnydd o'r ansoddair yn blentynaidd a di chwaeth.  

Ta waeth, mae stori'r newidiadau mewn trefniadau casglu sbwriel  yn cael ei yrru gan ddau beth - rheoliadau ail gylchu llywodraeth Cymru a'r toriadau yn yr arian sydd ar gael i awdurdodau lleol.  

Mae gan llywodraeth Cymru dargedau ail gylchu i'w cwrdd, felly maent yn gorfodi awdurdodau lleol yng Nghymru i gynyddu'n sylweddol - ac yn gynyddol - ar faint o sbwriel sy'n cael ei ail gylchu.  Os nad ydi 'r awdurdodau yn cwrdd a'r targedau hynny, maent yn cael dirywon sylweddol.  Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni mae'r awdurdodau  yn cymryd camau megis torri ar gasgliadau sbwriel cyffredin er mwyn annog pobl i ail gylchu cymaint a phosibl.

Yn ychwanegol - fel mae pawb yn gwybod - mae yna doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus ar lefel y DU - ac mae hyn yn effeithio yn negyddol ar faint o adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.  Mae Llafur yn hoffi cyfeirio at y toriadau hyn fel toriadau Toriaidd - ond toriadau Toriaidd / Lib Dem / Llafur ydyn nhw mewn gwirionedd.  Aeth mwyafrif llethol aelodau seneddol Llafur trwy lobiau San Steffan efo'r Toriaid ym mis Chwefror y llynedd i bleidleisio tros £15bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.  £15bn.  

Fel y dywedwyd mae'r adnoddau sydd ar gael i lywodraeth Cymru felly yn llai o lawer oherwydd penderfyniadau'r Toriaid / Llafur / Lib Dems yn San Steffan.  Ond dydi'r toriadau sy'n cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau lleol ddim yn gyfartal - mae rhai Llafur - at ei gilydd - yn cael llai o doriadau na chynghorau sydd ddim yn rhai Llafur.  Felly mae'r toriad mae Gwynedd dlawd yn ei gymryd yn  uwch na'r toriad mae Caerdydd gyfoethog yn ei gymryd.  Penderfyniad gweinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd ydi hynny.  Canlyniad anhepgor hyn oll ydi bod pob awdurdod lleol - ac yn arbennig rhai sydd ddim yn rhai Llafur - yn gorfod crafu o gwmpas i chwilio am ffyrdd o arbed arian. Un ffordd o wneud hynny ydi casglu sbwriel yn llai aml.  Mae'r ffaith bod arbed arian yn y ffordd yma  yn cyd fynd a rheoliadau ail gylchu Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cymhelliad i dorri ar gasgliadau sbwriel cyffredin wrth gwrs.

Felly mae Llafur Arfon yn ceisio gwneud elw etholiadol o sefyllfa sy'n cael ei chreu gan doriadau mewn gwariant cyhoeddus maent wedi pleidleisio trostynt yn San Steffan, cyfundrefn ariannu anheg maent wedi ei greu yng Nghaedydd a rheoliadau ail gylchu maent yn gorfodi awdurdodau lleol i'w mabwysiadu ar boen dirwyon anferth.  

Fel mae'r ddelwedd isod yn ei dangos - mae cynghorau Llafur o dan bwysau digon tebyg - er nad ydyn nhw'n gorfod ysgwyddo cymaint o doriadau.



Mae'r math yma o wleidydda yn sylfaenol anonest, ond mae hefyd yn blentynaidd - gwleidyddiaeth ysgol feithrin.  

Mae hefyd wrth gwrs yn nodweddu'r Blaid Lafur ar lawr gwlad.





4 comments:

Cneifiwr said...

Yn yr un modd, dyma Kevin Madge, cyn arweinydd Llafur yn Sir Gâr, yn sôn am aildrefnu llywodraeth leol yn y Carmarthenshire Herald wythnos diwetha: "The Labour Party is not supportive of any reorganisation......If Leanne Wood has been having talks and they involve bringing back Dyfed, they (h.y. y Blaid) need to come clean now."

Cai Larsen said...

Mae honna hyd yn oed yn fwy digywilydd - gwrthwynebu'r polisi Llafur yn hytrach na chanlyniad y polisi - a honni mai polisi rhywun arall ydi o. Gwerth bod yn y dudalen flaen dwi'n meddwl. Oes gen ti linc.

Anonymous said...


Carl Sargeant (Y Gweinidog Llafur dros Ailgylchu)Cynulliad, Mawrth 11 2015 :

“Thanks to the efforts of individuals and local authorities, Wales continues to lead the UK with its recycling targets, exceeding those in England, Scotland and Northern Ireland and would be ranked fourth in the EU if it were a separate member state. This is no mean feat and whilst I accept there are challenges ahead I am optimistic of achieving future targets.”

Fe ychwanegodd : “We are already planning to review our policy and targets on waste as part of the normal cycle of producing and revising our waste strategy and waste prevention programme. It is timely to refresh the blueprint that was first published in 2010 and we already plan to update the blueprint in 2015, taking account of new developments in equipment, the results of pilots, changes in markets, and the need for new additional materials to be collected to meet the higher recycling targets."

Rwan Sion. Mae negas Carl Sargeant yn berffaith glir.

1. Polisi Llafur Cymru yw ailgylchu cymaint ag y gallwn.
2. Yn ol y Gweinidog mae hyn yn llwyddiant ysgubol.
3. Mae Llafur Cymru ers 2015 wedi gosod targedau ailgylchu newydd/uwch eto.

Sion - wyt ti felly yn anghytuno hefo'r Gweinidog, ac mynd yn groes i bolisiau Llafur Cymru ? Dwi yn credu y dylid gwneud hyn yn glir.

Os felly - wyt ti am ymddiswyddo fel ymgeisydd Llafur a sefyll fel ymgeisydd Annibynnol ?

Mae rhwygiadau dyfnion, a diffyg undod, yn rhemp o fewn y Blaid Lafur y dyddiau hyn. Y miri yma yn enghraifft perffaith o'r diffyg disgyblaeth hwn.

Cneifiwr said...

Does dim linc, yn anffodus, ac mae'r wraig wedi ailgylchu'r papur!