Thursday, January 14, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 3

Rant (a dyfynu sut mae'r awdur yn ei ddisgrifio) gan ymgeisydd Llafur Arfon sydd o dan sylw y tro hwn. Mae yna nifer o ddatganiadau sydd - wel ddim yn wir.  Mae cywiro datganiadau ffug o gyfeiriad Llafur Arfon yn rhywbeth mae'r blog yma wedi gorfod ei wneud yn aml iawn tros y flwyddyn diwethaf.

Mae'r swyddogion yn y swyddfeydd a'r £70,000, £80,000 a Prif Weithredwr ar £100,000 +

Wel mae hyn o leiaf yn rhannol wir.   mae yna wahaniaeth rhwng cyflogau uchel swyddogion Cyngor Gwynedd a chyflogau casglwyr sbwriel.  Mae'n wir hefyd bod rhai swyddogion ar y cyflogau a arenwir -  unarddeg a bod yn fanwl gywir, allan o weithlu o tua 5,500.    Dydi hi ddim yn gywir i ddweud bod y swyddogion yn y swyddfeydd a'r (sic) £70,000, £80,000.  Mae mwyafrif llethol swyddogion a gweithwyr swyddfa'r cyngor ar gyflogau cymhedrol iawn.  Mae'n hynod anffodus - ac ymfflamychol - awgrymu bod pobl sydd ar gyflogau cymharol gyffredin yn cael cyflogau uchel iawn. 



Mae hogiau sy'n gweithio ar y biniau ar ryw £12,000 y flwyddyn ac yn gweithio yn galed iawn.

 Mae'r ffigwr ar gyfer cyflogau gweithwyr hel sbwriel yn un cwbl ddychmygol.  Mae tal Casglwr Sbwriel/Ailgylchu yn seiliedig ar raddfa cyflog GS4 - pwyntiau 10-13.  Mae'r ystod cyflog rhwng £14,338 - £15,941 y flwyddyn ar gyfer gweithwyr llawn-amser. Mae rhai yn gweithio oriau ychwanegol a felly ar gyflog uwch.

Petai Sion yn mynd ati i wneud ei ymchwil yn ofalus, byddai'n darganfod bod  cyflogau casglwyr sbwriel yn is na chyflogau prif weithredwyr ym mhob cyngor yng Nghymru - ac yn wir y Byd.  Serch hynny mae'r gwahaniaeth rhwng cyflogau'r casglwyr sbwriel a'r Prif Weithredwr yn llawer,  llai yng Ngwynedd nag ydyw yn y cwbl o gynghorau Llafur Cymru. - neu unrhyw gyngor arall yng Nghymru.  Maent oll yn talu mwy i'w Prif Weithredwr na Gwynedd - ac mae nhw i gyd - neu bron i gyd - efo mwy o swyddogion ar y cyflogau mae Sion yn son amdanynt na sydd gan Wynedd.  Mae rhai - Castell Nedd Port Talbot er enghraifft - efo cymaint a phump swyddog ar £100k+. 

Yn ail, mae rhai o'r hogiau sydd yn gweithio ar y biniau ar 'zero hour contract', sydd yn golygu does ddim sicrwydd o gwbwl gyda oriau gwaith 'na cyflog i gefnogi eu teuleuoedd. Gwarthus.

Mae hyn hefyd yn gwbl ddychmygol mae gen i ofn.  Dydi Cyngor Gwynedd ddim yn cyflogi unrhyw gasglwyr sbwriel ar gytundeb sero awr.  Mae yna ychydig o weithwyr yn cael eu cyflogi ar y telerau hyn  - 81 a bod yn fanwl gywir - y cwbl ym maes gofal.  Mae'n ffigwr sydd wedi cwympo tros y blynyddoedd diwethaf a bydd yn cwympo ymhellach yn y dyfodol agos.
Fel yn y stori  cyflogau uchel i uwch swyddogion, mae cynghorau Llafur gyda'r mwyaf awyddus i gyflogi pobl ar waelod y domen ar gytundebau sero awr.  Yn wir  fyddai hi ddim llawer o ormodiaeth i alw cytundebau sero awr yn Gytundebau Llafur - mae'r blaid a'i gwleidyddion yn hoff iawn ohonynt.  Roedd gan Gyngor Doncaster 2,759 ar y cytundebau hyn yn 2013.  

Yma yng Nghymru - yn ol y ffigyrau diweddaraf y gallaf ddod o hyd iddynt - roedd 418 o staff Cyngor Pen y Bont ar gytundebau sero awr, ac roedd 482 o staff Cyngor Abertawe ar gytundebau felly.  Hwyrach bod newid wedi bod yn y ffigyrau erbyn hyn - does gen i ddim ffordd o wybod.  Mae'r ddau yn gynghorau Llafur, ac mae rhan o Ben y Bont yn etholaeth Carwyn Jones.

Mae Llafur ar lefel Cynulliad wedi cael sawl cyfle i leihau'r defnydd o 'r cytundebau hyn trwy gefnogi gwelliannau i'r perwyl hwnnw gan y Blaid.  Maent wedi gwrthod gwneud hynny mewn perthynas a phob un o'r adrannau canlynol.

1.       Bwrdd Cyflogau Amaethyddol
2.       Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yng nghyfnod 3
3.       Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yng nghyfnod 4
4.       Gofal Cymdeithasol yng nghyfnod 2
5.       Gofal Cymdeithasol yng nghyfnod 3

Yn wir mae gan aelodau seneddol Llafur hanes hir o ddefnyddio cytundebau sero awr i gyflogi eu gweithwyr eu hunain. 


Rhestr a geir isod o'r Aelodau Seneddol Llafur o'r senedd (San Steffan) diwethaf sy'n cyflogi pobl ar gytundebau sero awr.


Adrian Bailey
Alan Campbell
Alan Meale
Alex Cunningham
Andy Burnham
Andy Slaughter
Ann Clwyd
Ann McKechin
Barbara Keeley
Barry Sheerman
Ben Bradshaw
Bob Ainsworth
Bridget Phillipson
Catherine McKinnell
Chinyelu Susan Onwurah
Chris Evans
Clive Efford
Dan Jarvis
Ed Balls
Fiona Mactaggart
Frank Dobson
George Mudie
Glenda Jackson
Graeme Morrice
Graham Jones
Gregg McClymont
Heidi Alexander
Helen Jones
Huw Irranca Davies
Ian Lucas
Ian Murray
John Woodcock
Jon Trickett
Jonathan Ashworth
Jonathan Reynolds
Julie Hilling
Karen Buck
Katy Clark
Kerry McCarthy 
Kevan Jones
Lilian Greenwood
Louise Ellman
Luciana Berger
Lucy Powell
Lyn Brown
Margaret Curran
Mary Creagh
Meg Hillier
Meg Munn
Mike Wood
Nic Dakin
Pat Glass
Peter Hain
Rachel Reeves
Rosie Cooper
Rushanara Ali
Sarah Champion
Seema Malhotra
Shabana Mahmood
Sheila Gilmore
Stephen Twigg
Susan Jones
Toby Perkins
Tom Greatrex 
Valerie Vaz
Vernon Coaker
Virendra Sharma
Yasmin Qureshi


Yn drydydd, dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, mi roedd y Cyngor wedi rhoi bai ar 'y tywydd garw' am fethu casgliadau. ANGHYWIR - Does ddim un awr wedi'i fethu gan y gweithwyr yn ein ardaloedd ni, dim ond esgus gan y fat cats yn y Cyngor am beidio rhoi'r adnoddau iawn i'r gweithwyr.

Mae'n eithaf cyhuddiad i gynghorydd etholedigi honni bod gweithwyr cyflogedig cyngor yn dweud celwydd yn gyhoeddus  i guddio eu methiannau eu hunain..  Petai'n wir byddai'n amlwg yn gam ymddygiad proffesiynol difrifol ac fater i drefn ddisgyblu'r cyngor.  Os oes gan Sion wybodaeth am swyddogion yn dweud celwydd dylai ei gyflwyno i swyddog monitro'r cyngor.  Mae'n anhebygol iawn o wneud hynny oherwydd bod proses ddisgyblu wedi ei seilio ar ffeithiau  oeraidd yn hytrach na ffrwyth dychymyg.

Os ydi cynghorwyr eisiau beirniadu eu cyngor eu hunain a phobl sy 'n gweithio i'r cyngor hwnnw -  mae hynny'n fater iddyn nhw.  Byddai'n well gwneud hynny yn siambr y cyngor os mai mynd i'r afael a rhyw broblem neu'i gilydd ydi'r bwriad - ond gwleidyddiaeth ydi gwleidyddiaeth ac etholiadau ydi etholiadau - ac mae rhywun yn deall hynny.  

Ond mae'n anghyfrifol i feirniadu ar sail 'ffeithiau' sydd ddim yn wir.  Mae pobl yn credu cynghorydd oherwydd eu bod yn credu bod ganddo fynediad i ffeithiau cywir - yn wahanol i'r gweddill ohonom gall  holi swyddogion er mwyn cael ffeithiau sydd yn gywir.  Mae peidio a gwneud hynny tra'n creu ffeithiau ffug i'w defnyddio mewn disgwrs wleidyddol yn dibrisio'r ddisgwrs honno'n llwyr.  Y math yma o gamarwain bwriadol sy'n rhannol gyfrifol am y dirmyg sydd gan lawer o bobl tuag at yr holl broses ddemocrataidd yn yr oes sydd ohoni.  





19 comments:

Anonymous said...

Wedi edrych ar gyfri Sion Jones. Mae o i weld yn boblogaidd ymysg Cymry Cymraeg yr ardal. Sut lwyddodd y Blaid i golli sedd iddo yn Bethel, o bob man ?. Yr oedd Llafur yn farw yn ardal y chwareli rhyw ddeg mlynedd yn ol.

Twrch said...

erioed wedi clywed Sion Jones yn siarad tan Pawb A'i Farn neithiwr. Dyma un o'r panelwyr / gwleidyddion mwyaf diglem i fod ar y rhaglen ers sawl blwyddyn. Roedd o'n darllen ei atebion ond hydynoed wedyn roedd ei atebion dros y lle i gyd, yn gwbwl ddisylwedd, rhyw rhes o cliches embarassing

Does bosib fod pobol yn rhoi fots iddo fo, dio prin yn gallu rhoi un frawddeg synhwyrol at ei gilydd

Anonymous said...

Dwi'n anghyfarwydd ag ardal Bethel y sir, rhaid cyfaddef, ond os yw'r hyn a dybiai Anon 7:17 yn wir (h.y. poblogrwydd llawr gwlad), yna fe all pery problem yn ystod yr ymgyrch.

Os yw'r Cyng. Jones yn parhau i gyhoeddi celwyddau/anwireddau am y Blaid a'r Cyngor, efallai y dylai'r Blaid yn lleol hogi ei harfau, bod yn fwy digywilydd a llunio taflenni 'expose' i'w dosbarthu o amgylch yr etholaeth ac nid dibynnu ar un blogiwr yn unig.

Rhwng 2005 a 2010, magodd Mark Williams gryn boblogrwydd lawr gwlad yng Ngheredigion, yn 2010, pedlodd (yntau a'i ymgyrchwyr) negeseuon oedd yn portreadu'r Blaid fel plaid wrth-Seisnig, a phlaid oedd am wahardd myfyrwyr rhag pleidleisio ac ati. Ar y pryd, gobeithwyd y byddai'r etholwyr o'r farn mai rhyw rwdlian oedd MW, ond y gwir yw fe gynyddodd ei fwyafrif o 250 i 8,000. Hyd yn oed mewn cyfnod o amhoblogrwydd ethafol i'r DomRhydd, ni lwyddom i gipio'r sedd yn ôl.

Ta waeth am hynny, gobeithiaf yn wir y gwelwn Sian yn camu i sedd Arfon fis Mai.

Anonymous said...

Mae diffyg dealltwriaeth Sion Jones o'r hyn sy'n digwydd o fewn ei Blaid Lafur ei hun yn destun pryder mawr i mi.

Mae ei ymgyrch diweddara parthed casglu sbwriel yn enghraifft perffaith. Mae o wrth ei fodd yn colbio polisi Cyngor Gwynedd, ond mi fysa hi'n ymarferiad llawer mwy buddiol iddo geisio gael gair bach ag Arweinyddion Cynghorau Llafur

Bury a Rochdale, sydd fel Gwynedd, yn gwagio'r biniau bob tair wythnos, neu,

Cyngor Llafur Fife yn yr Alban sydd wedi cychwyn arbrawf o wagio'r biniau unwaith y mis.

Dwi'n siwr y byddai Sion wedyn yn deall fod materion megis lleihau lefelau gwastraff, cyrraedd targedau ailgylchu, a thoriadau ariannol y llywodraeth Doriaidd yn ffactorau y mae yn rhaid i bob awdurdod lleol, ym mhob man, ymrafael a hwy.

Os ydi Sion Jones am i ni ei gymryd o ddifri, yna, mae'n rhaid iddo ddangos tipyn bach mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd mawr o'i gwmpas.

Byddai gwybodaeth o'r hyn sy'n digwydd o fewn ei blaid ei hun yn le da i gychwyn.


Anonymous said...

Mae o'n bechod bod na gymint o sleeze mewn politics. Amser o bobl fel hwn fynd er mwyn llnau y peth i gyd i fyny.

Anonymous said...

Da iawn - mae angen tynnu sylw at ddatganiadau Donald Trumpaidd Siôn Jones h.y. cymysgedd o rwdlan,ffeithiau anghywir a rhagfarn!! Does dim angen llawer o graffu ar ei ddatganiadau ffôl i ddeall hynny!

Cai Larsen said...

Anon 7.17. Dau bwynt brysiog.

1). Mae eich cof yn eich twyllo - pan ddaeth y Cyngor Gwynedd newydd i fodolaeth yn y 90au roedd gan Lafur 13 sedd. Pump sydd ganddynt heddiw.
2). Yn etholiadau 2015 (San Steffan) a 2012 (Cynulliad) cafodd y Blaid bleidlais anferth ym Methel - mwy na 60%.

Amon 12:28

Dydi 'r defnydd o'r gair sleeze ddim yn addas yma. Son am 'newid' ffeithiau i siwtio dadl wleidyddol ydym ni. Mae'r gair yn awgrymu llygredd ehangach - a does yna ddim lle o gwbl i gredu hynny yma.

Anonymous said...

Roedd sioe ddoe yn ofnadwy. Embaras. Toe curling.

Anonymous said...

Tydw i dddim yn son am Gwynedd fel uned. Mi fuasai rhywun yn disgwyl i Lafur gael seddi ym Mangor, efallai C'fon neu hyd yn oed Llanberis a Bethesda. Holi ydw i sut y llwyddodd hogyn ifanc dibrofiad gael ei ethol mewn ardal sy'n parhau yn uniaith Gymraeg i bob pwrpas. Pam fod Cymry sy'n bleidwyr yn yr etholiad seneddol a Chymreig yn dewis pleidlesio drosto ?

Cai Larsen said...

Am yr un rheswm a bod gen ti gynghorwyr Plaid Cymru yn y Tyllgoed neu Fae Colwyn, neu Dib Lem di Gymraeg yng Ngarndolbenmaen. Ffactorau lleol.

Anonymous said...

Just meddyliwch' seriously petai'r boi yma'n cael ei ethol trwy rhyw wyrth y peth cynta fyddai'n neud fyddai sarhau gweision sifil Bae Caerdydd trwy eu galw'n fat cats ac ati. Gallai achosi argyfwng cyfansoddiadol efo undebau gweithwyr sifil yn galw streic a gwrthod gweithio.

Dydi'r boi ddim ffit i fod ar gyngor plwyf.

Walking disaster.

Anonymous said...

Byddai'r Cynulliad fel Ynys Mon in the Rare Old Times efo'r aelodau etholedig a'r swyddogion yn casau ei gilydd - hy basket case.

Anonymous said...

Sa'r idiot yn gallu dod a'r Cynulliad i stop ar ei ben ei hun.

Cai Larsen said...

Mae hynny'n mynd yn rhy bell mae'n siwr. Go brin y byddai neb yn streicio, a byddai rhywun yn disgwyl bod protocolau gan y grwp Llafur sy'n atal aelodau rhag galw enwau ar swyddogion cyflogedig neu'i sarhau yn gyhoeddus.

Serch hynny mae'r pwynt cyffredinol yn dal. Mae'n bwysig bod parch rhwng swyddogion cyflogedig ac aelodau etholedig mewn cyngor, neu senedd. Pan mae hynny'n torri, mae llywodraethiant effeithiol yn mynd yn anodd ac mae sefyllfaoedd fel Ynys Mon gynt yn datblygu.

Mae'n anffodus iawn bod arweinydd y grwp Llafur yng Ngwynedd yn ymddwyn fel hyn.

Anonymous said...

Does gen i ddim math o gysylltiad efo PC na Llaf ond ma hwn yn fater bach diddorol sy'n dal i rygnu mlaen. Fe roddwyd y sylwadau uchod ynglyn a contracts zero hour ar dudalen facebook SJ ddoe a daeth mwy nac un gweithiwr sbwriel ymlaen i honni eu bod nhw ar gytundebau o'r fath. All y ddwy ochr ddim fod yn gywir ar hyn - mae un ohonoch yn anghywir a dylai pa bynnag un sy'n anghywir gydnabod hynny.

Welais Pawb a'i Farn hefyd, gwir wedi synnu pa mor wael oedd SJ, a gyda sgiliau siarad mor wael, syndod mwy fod Llafur wedi gadael iddo eu cynrychioli ar y rhaglen, onid oes ganddynt well talent yng Ngogledd Cymru. Dwi'n deud fy mod wedi synnu gan ei fod yn dod drosodd yn eithaf da ar facebook etc (neu yn effiethiol o leiaf gyda'i rants fel yr uchod a'i luniau ohono yn baeddu ei gar er mwyn y gymuned (sa lecsiwn leni ne wbath dwch!!)), ond ar sail noson o'r blaen, does gan hwn ddim gobaith caneri o drechu PC ym mis Mai. Ond dyna ni, mae'n debyg mae career politician dio, os wneith o ddigon o swn a cael ei lun allan a bod yn gi bach da i aelodau Llafur presennol, dwi shwr bydd na set saff iddo yn rhywle yn y dyfodol, dim bwys pa mor aneffietiol ydi o fel gwleidydd.

Cai Larsen said...

Does gen i ddim sylw i'w wneud ynglyn a'r rhaglen deledu - wnes i ddim ei gweld hi a dwi heb siarad ego unrhyw un wnaeth, felly does gen i ddim clem beth ddigwyddodd.

Ynglyn a chytundebau sero awr - fy nealltwriaeth bendant iawn ydi nad oes unrhyw weithwyr ar gytundebau sero awr. Mae yna nifer bychan o staff sydd yn parhau i hawlio cyflog trwy lenwi amserlen ond mae ganddynt gytundeb oriau gwaith penodol. Mae yna eraill sydd yn cael eu cyflogi yn achlysurol - ond nid cytundeb sero awr ydi hynny.

Mae yna ddatrusiad hawdd i'r anghytundeb yma. Mater bach ydi o i Sion gysylltu efo'r adran briffyrdd, gofyn y cwestiwn a chyhoeddi'r ateb. Hollol syml.

Anonymous said...

Yn cytuno efo Anon 4:57pm ar lot o bethau. Mae SJ yn foi iawn yn y bon - digon clen, gweithgar a dwi'n meddwl fod ei galon yn y lle iawn. Er mai ganddo ei bobl ei hun yn yr ardal mae o'n cynrychioli a dydi o ddim yn helpu pawb, cofiwch.

Y broblem ydi dydi o ddim yn dallt gwleidyddiaeth, strategaeth, nag unrhyw beth gymhleth i ddweud y gwir.

Mae cael ei ethol fel cynghorydd ac wedyn ei ddewis fel ymgeisydd Llafur ar gyfer mis Mai wedi mynd i'w ben, ac dwi'n amau'n gryf bod ei blaid ei hun (a'r sylw mae'r cyfryngau, a chefnogwyr a chynrychiolwyr y pleidiau eraill wedi rhoi iddo) wedi ychwanegu at y 'delusions of grandeur' sydd ganddo hefyd. Yn amlwg na dim ond y fo sydd gan Llafur y gogledd i siarad yn Gymraeg ac mae hyn yn sicr yn cyfrannu at y rhith (bod SJ yn berson gwleidyddol o bwys a bod ei farn yn berthnasol i bawb felly cofiwch wrando....).

Mae gan SJ hanes o ddweud beth bynnag sy'n siwtio'r sefyllfa a beth bynnag sy'n plesio etholwyr ac y rhan fwyaf o'r amser dwi jesd yn meddwl mai 'hubris' a chwant plesio pobl sy'n dod drosto a dydi o ddim yn gwybod y gwahaniaeth (gwleidyddol na moesol) rhwng palu celwydd a sbin.

Anonymous said...

os ydio yn ddyn "DOETH" ac yn gallu berwi wy, mi eith yn bell iawn!!

Anonymous said...

Fôt i Sion a Ta TA Sian