Tuesday, June 16, 2015

Y cynghorau newydd a'r Gymraeg

Yn ol y Bib mae'n fwriad gan Lywodraeth Cymru leihau'r nifer o gynghorau Cymreig o 22 i 8 gydag opsiwn pellach o 9.  Wna i ddim trafod y cynlluniau y tu allan i fy ardal fy hun ar hyn o bryd, ond mae gen i bwt i'w ddweud am yr hyn sy'n debygol o ddigwydd yn y Gogledd Orllewin.

Y bwriad ydi cyfuno Ynys Mon, Gwynedd a Chonwy yn y Gogledd Orllewin a chyfuno Dinbych, Wrecsam a Fflint yn y Gogledd Ddwyrain - ond cadw opsiwn yn agored o gael tri chyngor yn y Gogledd - Gwynedd a Mon, Dinbych a Chonwy a Fflint a Wrecsam.  O ran yr iaith Gymraeg byddai'r ail opsiwn yn llawer gwell.  

Ar hyn o bryd mae Gwynedd yn defnyddio'r Gymraeg fel ei hiaith weinyddol, mae statws y Gymraeg yn llawer llai cadarn yng Nghyngor Ynys Mon, ac yn llai cadarn eto yng Nghyngor Conwy.  Mae polisi  Gwynedd wedi bod yn gryn gefn i'r iaith yn yr ardal, gan sicrhau statws proffesiynol i'r iaith,  a chymhelliad economaidd i Gymry Cymraeg aros ar eu milltir sgwar, ac  i'r di Gymraeg ddysgu'r iaith.

Mae proffeil ieithyddol Gwynedd a Mon yn eithaf tebyg, tra bod un Conwy yn gwbl wahanol.  30.5% o drigolion Mon sydd heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg o gwbl a 26.5% o drigolion Gwynedd sydd yn yr un sefyllfa.  Yng Nghonwy mae'r ganran yn 60.5%.  Mae 56% o drigolion Mon yn siarad yr iaith,  64% o rai Gwynedd, a 27% o bobl Conwy.  

Mae'n wir bod yr hen Gyngor Gwynedd oedd yn bodoli cyn yr ad drefnu llywodraeth leol diwethaf yn cwmpasu llawer o'r tri hen awdurdod, a bod hwnnw yn gymharol Gymreig o ran ei naws, os nad ei weinyddiaeth. Ond dim ond at ardal Llandudno oedd yr hen Wynedd yn ymestyn, byddai'r un newydd yn ymestyn i Fae Cinmel - sy'n newid y proffil ieithyddol yn sylweddol.   Byddai siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif mewn cyngor sydd wedi ei gyfansoddi o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Mon, ond byddant mewn mwyafrif cyfforddus mewn cyngor fyddai wedi ei ffurfio o Gyngor Mon a Chyngor Gwynedd.  

Canlyniad tebygol yr opsiwn Mon / Gwynedd / Conwy ydi y byddai'n llawer anos i gael y gefnogaeth y byddai ei hangen i gael cyngor fyddai'n defnyddio'r Gymraeg fel ei phrif gyfrwng gweinyddol petai Conwy'n gynwysiedig yn y drefniant newydd.  Gallai fod yn anodd beth bynnag - mae polisi iaith Gwynedd yn gweithio oherwydd bod yna gonsensws traws bleidiol trosto, a bod yna gefnogaeth eang i'r polisi ar lawr gwlad.  Does yna ddim polisi cyffelyb ym Mon - a dydi hi ddim yn glir bod y gefnogaeth i drefniant cyfrwng Cymraeg gyda chefnogaeth gyffelyb yno.

Mae'n bwysig o safbwynt dyfodol yr iaith fodd bynnag bod o leiaf un o'r cynghorau newydd yn mabwysiadu polisi iaith y Wynedd gyfredol.  Mae Leighton Andrews yn un o garedigion yr iaith - ac mae ganddo gyfle go iawn i osod trefn mewn lle a allai fod yn gefn gwirioneddol i'r Gymraeg yn y Gogledd Orllewin.  Mae ganddo gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.  Gobeithio y bydd yn ei gymryd.

4 comments:

Alwyn ap Huw said...

Dydy sôn am Gonwy fel Sir lle mae dim ond 30% o'r boblogaeth a sgiliau Cymraeg ddim yn rhoi'r darlun cyfan, mae ambell i Gymuned yng Nghonwy ymysg y rhai sydd a'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg y tu allan i'r Gwynedd cyfredol. Er fy mod yn cytuno y byddai uno'r cyfan o Gonwy (neu'r hen Aberconwy) yn glastwreiddio'r Gymraeg yng Ngwynedd, byddai gweld cymunedau Cymraeg Conwy yn rhan o Gonwy/Dinbych yn drychineb i'r cymunedau hynny. Canolig ydy'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yng Nghonwy, maent yn wael iawn yn Ninbych; yn wir lle mae Conwy a Dinbych wedi bod yn gyd darparu gwasanaethau yr wyf i ac eraill wedi cael profiadau gelyniaethus tuag at yr iaith gan rai o weithwyr Dinbych.

Mae'n annhebygol y byddai Leighton Andrews yn fodlon, ond hoffwn obeithio y bydd ACau'r Blaid yn gofyn iddo ystyried uno Dyffryn Conwy a'r Gwynedd newydd.

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn anghytuno efo llawer o hynna Alwyn - byddai'r hen. Wynedd sy'n cynnwys Conwy, Llandudno a Dyffryn Conwy yn dderbyniol gen i a dweud y gwir.

Hogyn o Rachub said...

Byddwn innau hefyd yn ffafrio gweld Dyffryn Conwy yn ymuno â'r Wynedd newydd, a hyd yn oed de sir Ddinbych. Ond dowt gennai y bydd hynny'n digwydd. Ond dwi'n meddwl y gallai cyfuno'n llwyr dair sir Môn, Gwynedd a Chonwy fod yn drychinebus i'r Gymraeg yn y gogledd-orllewin.

Unknown said...

Uno Mon a Gwynedd a mabwysiadu polisi iaith Gwynedd.