Saturday, June 27, 2015

Gwleidyddiaeth ffantasi

Mae'n ddifyr gweld ymateb ryfedd y Toriaid i'r newyddion bod Leanne Wood wedi ail aregu na fydd Plaid Cymru yn mynd i glymblaid efo nhw ar ol etholiadau'r flwyddyn nesaf.

This is just fantasy politics.  Leanne Wood isn’t even confident of winning a constituency seat, which is why she’s opted for the parachute of a place on the regional list as well.


Mae'n anodd gweld y cysylltiad rhwng y ffaith nad ydi hi'n bosibl bod yn sicr o ennill sedd etholaethol y Rhondda efo'i mwyafrif o ? a 'gwleidyddiaeth ffantasi'.  Serch hynny  mae'r sefyllfa sydd ohoni yn creu un ffantasi - sef bod posibilrwydd y bydd y Toriaid yn ennill grym o unrhyw fath yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.  Mae rhifyddeg etholiadol y Cynulliad yn ei gwneud yn amhosibl i'r Toriaid ennill unrhyw fath o rym ym Mae Caerdydd heb gydweithrediad Plaid Cymru - ac mae hi mor glir a chloch na fydd y cydweithrediad hwnnw ar gael.  

Neu mewn geiriau eraill does yna ddim pwrpas o gwbl i bobl bleidleisio  i'r Toriaid os ydynt eisiau dylanwadu ar bwy fydd yn llywodraethu Cymru y flwyddyn nesaf - gallant fod yn hollol sicr na fydd y Toriaid yn agos at goridorau grym y Cynulliad.  A benthyg (ac addasu) slogan sy'n cael ei defnyddio gan y pleidiau unoliaethol yn ystod ymgyrchoedd San Steffan - mae pleidlais i'r Toriaid yn wastraff pleidlais.

10 comments:

Anonymous said...

Gresyn nad oes plaid genedlaetholgar adain-dde, neu ganolig yng Nghymru.

Anonymous said...

Ac os nad yw Plaid Cymeu'n barod cyngreirio â neb ond y Blaid Lafur, beth yw'r canlyniad dywedwch?

Cai Larsen said...

Y canlyniad fydd naill ai Plaid Cymru / Llafur, Llafur / Plaid Cymru, Plaid Cymru neu Llafur - oni bai bod y zdib Lems yn llwyddo i oroesi ac effeithio ar bethau.

Cai Larsen said...

Mae yna reswm gweddol syml pam nad oes yna blaid asgell Dde genedlaetholgar yng Nghymru. Does yna ddim digon o bobl adain Dde, cenedlaetholgar i gynnal plaid felly.

Anonymous said...

Plaid Cymru/Llafur? Dyna be dwi yn alw yn ffantasi!

Hogyn o Rachub said...

Mae hyn yn broblem i Blaid Cymru. Os dydyn nhw ddim yn fodlon cydweithio efo'r Ceidwadwyr yna Llafur ydi'r unig ddewis (heblaw am anelu at lywodraeth leiafrifol). Dydi Leanne Wood ddim yn dallt hyd yn oed fymryn fod cyfradd sylweddol o gefnogwyr Plaid Cymru ddim isho'r Blaid fynd yn agos at Lafur chwaith, nac ychwaith fod pobl yn fotio PC yn aml i atal/cael gwared â Llafur.

Dydi Llafur ddim yn haeddu cael ei chadw mewn grym - fedra i ond siarad drosof fy hun ond dwisho gweld PC yn dweud na fydd hi'n mynd i glymblaid â Llafur onid hi sy'n arwain clymblaid o'r fath (annhebygol tu hwnt ond dyna ni); os ddim, dwi'm yn gweld unrhyw ffordd y galla i'n bersonol bleidleisio dros y Blaid yn 2016, a bydd etholiad 2020/21 mae arna i ofn yn gyflafan gwirioneddol iddi.

Dylan said...

byddai clymbleidio eto'n drychineb i Blaid Cymru yn fy marn i. Angen sefydlu'u hunain fel dewis amgen go iawn.

Maen_tramgwydd said...

Cytuno'n llwyr efo Hogyn o Rachub a Dylan uchod. Ydi'r Blaid wedi dysgu'r wers strategol ar ol y camgymeriad wnaeth IWJ a'i glymblaid?

Anonymous said...

Yr unig opsiwn realistig ydi clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Dydi clymblaid enfys hefo'r asgell dde, sef y Toriad, neu'r asgell dde wrth-Gymreig eithafol, sef Ukip, ac o bosib un neu ddau Lib-Dem ddim yn mynd i weithio.

Sut ar wyneb y ddaear fedar plaid sydd wedi bod yn sefyll yn gadarn o blaid annibyniaeth,(i Gymru a'r Alban) y Gymuned Ewropeaidd, ac sydd yn erbyn llymder a lledaenu arfau niwcliar gydweithio gyda phleidiau adweithiol Prydeinig. Fysa'r peth jest ddim yn gweithio.

Llafur ydi'r unig opsiwn, ac yn ol y sibrydion, dyma y mae nifer fawr o fewn y Blaid Lafur yn ei gredu hefyd.

Anonymous said...

Cystal pleidleisio dros Lafur os Llafur dan ni'n mynd i gael beth bynnag os pleidleiswn dros PC.