Saturday, June 13, 2015

Ynglyn ag etholiadau Holyrood

Byddwch yn cofio i ni edrych yn ddiweddar ar bol piniwn rhyfeddol o'r Alban sy'n awgrymu y gallai'r SNP ennill cymaint a 60% o'r bleidlais etholiadol yn etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.  Byddai hynny wrth gwrs yn golygu y byddai'r SNP yn ennill pob un o'r 73 sedd etholaethol.

Ond yr hyn sy'n ddiddorol - ac heb gael sylw cyfryngol - ydi goblygiadau hynny o ran yr ail bleidlais.  Byddai ennill y 73 sedd yn golygu y byddai'n ymylu at fod yn gwbl amhosibl i'r SNP ennill seddau rhanbarthol.  Mae'n ymddangos bod nifer dda o bobl eisoes yn sylweddoli hynny - mae'r un pol yn awgrymu bod cefnogaeth yr SNP ddeg pwynt yn is yn y rhanbarthau nag ydynt yn yr etholaethau.  Mae'r cwbl o'r gefnogaeth goll yn mynd i'r Blaid Werdd - plaid arall sydd o blaid annibyniaeth wrth gwrs.

Petai cyn lleied a 20% o'r sawl sydd ar hyn o bryd yn bwriadu pleidleisio i'r SNP yn yr etholiadau rhanbarthol bleidleisio i'r  Blaid Werdd yna gallai'r blaid honno yn hawdd gael mwy o seddi na'r Blaid Lafur - nag unrhyw blaid unoliaethol arall o ran hynny.  Byddai'r llywodraeth a'r brif wrthblaid yn gefnogol i annibyniaeth.  Ond gallai pethau fod yn waeth - yn llawer, llawer gwaeth i'r pleidiau unoliaethol.

Mae yna grwpiau eraill sydd o blaid annibyniaeth fydd yn debygol o sefyll yn y rhanbarthau - Solidarity a'r SSP er enghraifft.  Petai hanner y sawl sy'n bwriadu rhoi eu pleidlais ranbarthol i'r SNP (a'i wastraffu os ydi'r polau yn aros fel y maent) yn ei roi iddyn nhw neu'r Blaid Werdd, yna byddai tua 98 o'r 129 sedd yn mynd i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth.  Petai pawb yn gwneud hynny byddai tua 106 o'r 129 aelod o blaid annibyniaeth.  Mae 55% o'r etholwyr yn erbyn annibyniaeth - neu dyna beth oedd y sefyllfa ym mis Medi beth bynnag.

Mae hyn yn dangos gwendid sylfaenol y system bleidleisio wrth gwrs, ond mae hefyd yn esiampl da o jerimandro etholiadol yn arwain at ganlyniadau cwbl anisgwyl.  Roedd y gyfundrefn etholiadol wedi ei chynllunio gan lywodraeth Blair i wneud yn siwr na fyddai cefnogwyr annibyniaeth byth yn ennill mwyafrif llwyr yn Holyrood.  Mae hynny'n ymddangos yn hurt bost erbyn heddiw.

No comments: