Wednesday, June 24, 2015

Uwd o gelwydd cyfryngol

Mae'n ymddangos bod y ddwy stori a ymddangosodd yn y papurau newydd y bore 'ma yn gelwydd - neu mor agos at gelwydd na mae'n bosibl bod.  Mae'r un enwocaf - yr un am lywodraeth yr Alban yn gwrthod talu i gadw Mrs Windsor a'i theulu anferth yn ddi sail - mecanwaith yr ariannu sy'n newid.  Mae'r un am gysylltiadau Gweinidog Cyntaf yr Alban wedi ei seilio ar y ffaith i Nicola Sturgeon siarad unwaith efo rhywun sydd wedi dweud ychydig o bethau hyll ar trydar.  Mae awdur Blogmenai wedi siarad efo llawer o bobl sydd wedi dweud pethau hyll ar trydar - ac mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod yr un peth yn wir am y rhan fwyaf o bobl eraill.


Dydi dweud celwydd am yr SNP ddim yn rhywbeth newydd wrth gwrs.  Yr esiampl mwyaf adnabyddus oedd y celwydd a ryddhawyd i'r Telegraph gan Alistair Carmichael ar gychwyn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol eleni - mewn ymgais aflwyddianus i achub seddi 'r Dib Lems yn yr Alban.


Ac mae yna ribidires o esiamplau eraill - ymysg y mwyaf di chwaeth ydi'r ymgais isod gan y Daily Mail i feio marwolaeth Charles Kennedy ar genedlaetholwyr yn hytrach nag adrodd ar yr eglurhad a gafwyd gan y crwner yn y cwest i'r farwolaeth - mai gwaedlif a achoswyd gan alcoholiaeth oedd yn gyfrifol am y farwolaeth.


Ymddengys bod pob ymgais i smalio bod gwrthrychedd proffesiynol - neu hyd yn oed safonau newyddiadurol proffesiynol - yn cael eu harfer wedi cael llich trwy'r ffenest pan mae'n dod i adrodd ar wleidyddiaeth yr Alban. 

I rhyw raddau mae'r arfer o 'sgwennu celwydd a nonsens  mewn perthynas a'r Alban yn mynd yn ol i'r ymgyrch Na yn y misoedd oedd yn arwain at y refferendwm y llynedd.  Wele restr o beth o'r celwydd a ddywedwyd yn ystod refferendwm yr Alban y llynedd.  Afraid dweud i'r cwbl lot gael eu hailadrodd yn ffyddlon gan y cyfryngau Prydeinig.

1). Bydd rhaid i Loegr fomio meusydd awyr yr Alban.  Lord Fraser of Carmyllie
2). Bydd rhaid i'r pandas adael sw Caeredin. Llefarydd ar ran llywodraeth y DU.
3).  Bydd yr Alban yn agored i ymysodiadau o'r gofod.  Philip Hammond.
4). Bydd rhaid i'r Alban dalu am ddad gomisiynu canolfan WMDs Prydain yn Faslane ac am godi canolfan WMDs newydd.  Philip Hamond.
5). Bydd rhaid i bawb yrru ar ochr dde'r lon.  Andy Burnham.
6). Bydd Prydain yn cadw gafael ar ran o'r Alban er mwyn cadw eu canolfan WMDs.
7). Bydd rhaid codi rhwystrau rhwng Lloegr a'r Alban a bydd angen pasport i groesi o un wlad i'r llall.  Theresa May.
8). Bydd y Byd i gyd yn cael ei ddad sefydlogi a bydd 'grymoedd y tywyllwch' wrth eu bodd.  George Robertson.
9). Bydd costau o £2.7bn yn codi o newid. LSE.
10). Bydd costau ffonau symudol yn saethu trwy'r to.
11).  Fydd Albanwyr ddim yn cael gweld Dr Who.  Maria Miller.
12).  Bydd y diwydiant adeiladu llongau yn dod i ben.  Plaid Lafur yr Alban.
13). Bydd costau cadw car neu lori yn cynyddu £1,000 y flwyddyn.  David Mundell
14). Bydd mynd i siopa yn llawer drytach.  Margaret Curran.
15).  Bydd rhaid i Brydain anfon y fyddin i'r ffin efo'r Alban.

Yn waelodol mae'r swnami cyfryngol yma o gelwydd a lol yn adlewyrchiad o gasineb y sefydliad unoliaethol tuag at bobl sy'n bygwth datgymalu'r Undeb - ond mae hefyd yn adlewyrchiad o dlodi deallusol yr achos unoliaethol.  Yn hytrach na dadlau yn rhesymegol ar sail pethau sy'n digwydd yn y Byd go iawn, mae'r naratif unoliaethol  wedi ei seilio ar stwff dychmygol sy'n digwydd mewn Byd dychmygol.  Dydi dadleuon o bwys hanesyddol ddim yn cael eu hennill yn y ffordd yna - hyd yn oed pan mae mwyafrif llethol y cyfryngau yn byw yn yr un Byd ffantasiol.

No comments: