Friday, June 12, 2015

Marchog arall i Gymru fach

Llongyfarchiadau i'r ymgyrchydd unoliaethol, Gareth Edwards ar gael ei urddo'n farchog fel gwobr am ei wasanaethau sylweddol i'r Undeb.  Mae'n dda gweld cymaint o'r Cymry mwyaf llywath a theyrngar i'r sefydliad Prydeinig  yn cael eu gwobr haeddianol gan y sefydliad Prydeinig.

Mae chwaraewyr rygbi, neu gyn chwaraewyr rygbi wedi chwarae rhannau blaenllaw yn yr ymgyrchoedd tros ddatganoli, neu tros gryfhau datganoli ers yr ymgyrch wreiddiol yn 79, ond doedd gan Mr Edwards ddim digon o ddiddordeb yn yr un o'r rheiny i gymryd rhan.  Roedd ganddo fwy o ddiddordeb, fodd bynnag mewn ceisio dwyn perswad ar Albanwyr i beidio pleidleisio tros fod yn wlad annibynnol - fel y mwyafrif llethol o wledydd eraill.

Yn wir roedd mor barod i gymryd rhan nes caniatau iddo'i hun edrych yn wirion ar fideo a gomisiynwyd gan Better Together trwy ddefnyddio dadl gwbl hurt tros beidio a phleidleisio tros annibyniaeth - bod rhyw fath o gysylltiad rhwng undod y DU ac undod tim rygbi'r Llewod.  Mae'r tim hwnnw eisoes yn tynnu chwaraewyr o ddwy wladwriaeth wahanol  - y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.





No comments: