Saturday, November 22, 2014

Plaid pobl fawr, ddinesig

Roedd yr hyn wnaeth Emily Thornberry trwy ymddangos i edrych i lawr ei thrwyn ar Sais, gwlatgarol  dosbarth gweithiol yn drychinebus o safbwynt etholiadol.  Y rheswm am hynny ydi bod yr agwedd roedd yn ei ddangos yn datgelu'n glir yr hyn ydi'r Blaid Lafur erbyn hyn - plaid sy'n cael ei rheoli gan snobs cefnog, dinesig sydd a gwerthoedd cwbl wahanol i'w cefnogwyr traddodiadol.  Dyna pam bod pobl fel Ms Thornberry - sydd  o gefndir breintiedig iawn ei hun - yn meddwl ei bod yn iawn i edrych i lawr eu trwynau ar Saeson gwlatgarol cyffredin fel Dan Ware.  A dyna pam bod pobl fel Mr Ware yn troi oddi wrth y Blaid Lafur yn eu degau o filoedd.
Mae'r tueddiad yma wedi bod yn y Blaid Lafur ers degawdau, ond yng nghyfnod Tony Blair aeth pethau i'r diawl go iawn - dyna pryd aethwyd ati i droi cefn ar gefnogaeth draddodiadol Llafur.  Daw hyn a ni at y brawd Chris Bryant.  Fo oedd y boi a gafodd fynd ar y bocs i feirniadu Ms Thornberry.  
I think the first rule of politics is you respect the voters and by Emily's own admission her tweet clearly didn't do that.
Ond y broblem ydi bod gwerthoedd Chris Bryant yn debyg iawn i werthoedd Emily Thornberry.  Mae yntau yn edrych i lawr ei drwyn ar bobl wlatgarol - fel mae'r geiriau yma o'i eiddo yn ei ddangos.  

All of which makes me realise that I'm no nationalist. I detest the exaggerated belief in one's own cultural heritage, the puffed-up, arbitrary and unmerited self-confidence, the swift denunciation of all that is alien or foreign, the desperate desire to support anyone from the home team, however lazy or hideous. Nationalism is a nasty creed and the path from well-meaning nationalism to xenophobia and racism is slippier than the luge track in the Winter Olympics.

A barnu oddi wrth y geiriau yna mae'n ymddangos bod Chris Bryant yn edrych i lawr ei drwyn ar Mr Ward mwy na hyd yn oed Emily Thornberry.

6 comments:

Anonymous said...

Snobs Cymraeg ydi y Blaid Bach hefyd-clwb dosbarth canol.!!

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn meddwl dy fod am ffeindio miliwnyddion o fewn y Blaid. Mae arweinyddiaeth Llafur wedi stwffio efo nhw.
Dwi ddim yn meddwl bod trwch aelodaeth y Blaid yn byw o gwmpas Llundain chwaith - yno mae trwch aelodaeth Llafur.
Dwi ddim yn meddwl bod y Blaid yn moli bancwyr i'r cymylau chwaith - moliant Llafur o fancwyr wnaeth achosi i'r economi fynd i'r diawl.

Anonymous said...

Ella bod chdi ddim yn meddwl ond dwi yn dweud wrthyt mai snobs dosbarth canol ydi cefnogwyr y Blaid Bach,yn cynnwys chdi !!

Cai Larsen said...

Hmm, diddorol. Pam felly bod pleidlais y Blaid yn Llanllyfni neu Benygroes nag ydi o ym Menai Caernarfon a Menai Bangor.

Mond gofyn.

Anonymous said...

"Ella bod chdi ddim yn meddwl ond dwi yn dweud wrthyt mai snobs dosbarth canol ydi cefnogwyr y Blaid Bach."

Pam felly fod Plaid Cymru yn cefnogi..

1. Addysg gyfun. Y Toriaid + UKIP am weld ysgolion gramadeg. Tony Blair, Dianne Abbott ayyb yn anfon eu plant i ysgolion preifat/bonedd.

2. Plaid Cymru yn credu yn egwyddorion sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd, lle mae mynediad yn rhad ac am ddim i bawb ac ar gael i bawb. Y Toriaid a'u cyfeillion sbobyddlyd cyfoethog am weld y cyfan yn cael ei breifateiddio.

3. Plaid Cymru a'r SNP 100% yn erbyn y 'Bedroom Tax'. Toriaid o blaid, Llafur yn eistedd ar y ffens.


Petai'r Blaid yn llawn snobs, yna mi fyddai'n pobol ni yn y senedd, y cynulliad, ac ar y cynghorau, yn cymryd safbwynt gwahanol iawn ar y materion hyn.

Fel bydda fy hen daid yn arfar ddeud - Mi rwyt ti'n siarad trwy dwll dy d** gyfaill!!

Dalied ati Cai!!

Anonymous said...

Dim milwnyddion yn Blaid Cymru - Alun Ffred ?