Monday, November 10, 2014

Y Bib a'r stori Pontio

Mae'n ddiddorol i'r BBC yr wythnos ddiwethaf ddewis disgrifio Alun Pugh fel 'cyn weinidog diwylliant' yn hytrach nag ymgeisydd Llafur ar gyfer etholiad San Steffan pan alwodd am ymchwiliad i'r oedi cyn agor Canolfan Pontio ym Mangor.

 Cafodd Alun Pugh ei benodi'n weinidog diwylliant yn 2003 - unarddeg mlynedd yn ol, ac arhosodd yn weinidog nes iddo golli ei sedd yn 2007. Rwan dydi hi ddim yn briodol i farnu Alun Pugh am wneud sylwadau ynglyn a'r mater - mae o'n wleidydd sydd yn ymgeisio am sedd ac mae gwleidyddion mewn sefyllfa felly yn mynd i gael eu temptio i wneud sylwadau am faterion lleol sy'n dod a chyhoeddusrwydd yn eu sgil. Fodd bynnag mae'r ffaith ei fod yn ymgeisydd seneddol yn fwy perthnasol i'r stori ar hyn o bryd na'i fod yn gyn weinidog - ac mae'n anodd gweld pam nad aeth y Bib ati i ddweud  hynny wrthym.

Chawsom ni ddim  gwybod dim am gyfnod diddorol Alun fel gweinidog celfyddydau chwaith.  Roedd  yn gyfnod digon bywiog.  Ei weithred mwyaf enwog oedd gwrthod ail benodi Geraint Talfan Davies i'w swydd fel cadeirydd Cyngor y Celfyddydau. Roedd hyn yn rhan o ymgais ehangach i ddiwygio'r ffordd roedd y celfyddydau yng Nghymru yn cael eu hariannu mewn modd a fyddai wedi canoli llawer o rym tros y celfyddydau yn y Cynulliad. Arweiniodd hyn yn ei dro at feirniadaeth sylweddol gan sefydliadau celfyddydol, y gwrthbleidiau a'r cyhoedd. Ni welodd yr argymhelliad olau dydd oherwydd maint y gwrthwynebiad iddynt.

Fel y dywedais, roedd y cyfnod yn un lliwgar.



No comments: