Mae'r graffiau isod wedi eu cymryd o Politicalbetting.com. Maent yn adlewyrchu'r llif arian ar gyfnewidfa betio Betfair ar fwyafrif llwyr i'r Toriaid a Llafur yn etholiadau'r flwyddyn nesaf. Mae'n gwbl glir nad yw'r marchnadoedd betio yn ystyried bod gan y naill blaid unoliaethol na'r llall gyfle cryf i ennill mwyafrif llwyr - ac yn anhygoel maent yn dangos bod y tebygrwydd o hynny yn syrthio i'r Toriaid a Llafur ar yr un pryd. Go brin i hynny erioed ddigwydd o'r blaen.
Mae gan hyn oblygiadau pell gyrhaeddol i natur etholiad y flwyddyn nesaf. Yn hytrach na'r gystadleuaeth arferol am oruwchafiaeth rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol, bydd yn gystadleuaeth lle mae cyfle i bob plaid gael eu hunain mewn sefyllfa o allu dylanwadu ar gyfeiriad polisi y llywodraeth nesaf.
Oddi tan amgylchiadau felly dydi pleidleisio i'r pleidiau unoliaethol yng Nghymru ddim yn ddefnydd effeithiol o bleidlais os mai cael y fargen orau i Gymru ydi bwriad y sawl sy'n pleidleisio. Dim ond un blaid sydd am fargeinio i gael y gorau i Gymru yn annad dim arall. Bargeinio i gael y gorau iddyn nhw eu hunain fydd y pleidiau unoliaethol. Bargeinio i gael y gorau i Gymru fydd Plaid Cymru.
No comments:
Post a Comment