Friday, April 25, 2014

Dirgelwch y pleidleisiau Toriaidd coll

Pol Cymreig YouGov sydd gen i o dan sylw heddiw.  Mae'r pol - fel y ddau o'i flaen yn awgrymu y bydd y Blaid yn colli ei sedd Ewrop fis nesaf gan adael y wlad yn cael ei chynrychioli ym Mrussels gan ddau aelod o'r Blaid Lafur, aelod o'r Blaid Geidwadol ac aelod o UKIP.


Dwi wedi edrych ar y ddau bol blaenorol ac wedi mynegi'r farn bod arfer YouGov o beidio a chymryd tebygrwydd i bleidleisio i ystyriaeth wrth ddod i'w canlyniadau yn rhoi lle i amau cywirdeb y canfyddiadau mewn etholiad gyda chyfradd pleidleisio isel.  Mi fydd y gyfradd fydd yn pleidleisio yn isel fis nesaf - llai na thraean yn ol pob tebyg.  Dwi hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y Toriaid wedi cael cyfres o ganlyniadau trychinebus mewn is etholiadau  yng Nghymru. Cafwyd canlyniadau erchyll eraill yn ddiweddar iawn - un yn Sir y Fflint bethefnos yn ol ac un arall yng Nghaerffili neithiwr)

Rwan dydi diystyru polau nad ydych yn eu hoffi byth yn syniad da.  Dwi'n gobeithio nad ydwyf yn gwneud hynny - fi ydi'r cyntaf i gydnabod bod yna berygl gwirioneddol i sedd y Blaid yn Ewrop ac oni bai bod ei chefnogwyr yn sicrhau eu bod yn mynd allan i bleidleisio mewn niferoedd sylweddol gallai'r sedd yn hawdd gael ei cholli, a'r canfyddiad gael ei greu ei bod yn well gan bobl Cymru gael eu cynrychioli yn Ewrop gan UKIP a'r Blaid Doriaidd na chan Blaid Cymru.

Ond dwi'n gofyn y cwestiwn eto - pam y byddai'r Toriaid yn cynhyrchu un canlyniad trychinebus ar ol y llall yng Nghymru mewn is etholiadau,  tra'n perfformio'n  gryf yn etholiad Ewrop?  Mae'r pol YouGov Cymreig yn awgrymu y bydd llai o gwymp ym mhleidlais y Toriaid yng Nghymru o gymharu a'r cwymp mae polau Prydeinig y cwmni yn ei ddarogan ar lefel Brydeinig, ond dydi'r Toriaid ddim yn cael un canlyniad is etholiad trychinebus ar ol y llall yn Lloegr.

Hwyrach bod ateb synhwyrol i'r cwestiynau dwi wedi eu codi - fedra i ddim meddwl am un - ond dydi hynny ddim yn golygu nad oes ateb.  Mi gawn ni weld y canlyniad fis nesaf wrth gwrs - ond mi fyddwn i'n fodlon betio cryn dipyn na fydd y Toriaid yn dod 7% o flaen y Blaid - rhywbeth sydd heb ddigwydd ers y dyddiau pan oedd Mrs Thatcher mewn grym.

9 comments:

Anonymous said...

angen sylweddoli pa mor di-effeithiol mae Leanne wedi bod. Mae angen edrych ar eich hin fel plaid. A meddwl pam mae arweinyddiaeth Leanne ddim yn gweithio, a ydy e'n amser i sialensio hi am yr arweinyddiaeth? gadawodd ni i Ieuan aros yn ei swydd am deng mlynedd anllwydiannus. mae diffyg hyder da'r plaid, a gormod o pwyslais ar materion gwyrdd.

Cai Larsen said...

Mae perfformiadau etholiadol y Blaid wedi bod yn eithaf da ers i LW ddod i arwain. Mae tri pol YouGov wedi eu cynnal ac mae'r rheiny yn llai ffafriol ar lefel Ewrop. Dydan ni ddim yn gwybod pa mor gywir ydi polau Cymreig YouGov yn arbennig ar lefel Ewrop. Byddai newid arweinyddiaeth ar sail hynny yn gwbl idiotaidd.

Anonymous said...

Cai, os fydd Plaid yn colli ei set blwyddyn yma, a ond yn cadw un set yn etholiad san steffan wedyn a fyddai ti yn meddwl maen rhaid newid ein arweinydd?

Mae'r plaid yn cael ei tynnu o pob cyfeiriad ar ol 2016, bu ond 10 aelod cynulliad gyda ni a un aelod seneddol. mae hynnu ddim yn derbyniol.

Cai Larsen said...

Dydi'r pol YouGov ddim yn awgrymu yr hyn rwyt yn ei ddweud - mae'n awgrymu 11 AC - fel rwan, a 2 AS. Mae hynny i gyd ar uniform swing - gallai'r polau San Steffan a Cynulliad fod yn ganrannol gywir a'r Blaid yn ennill 4 AS a mwy o ACau.

Mae cyfrifoldeb am ganlyniadau etholiadol yn gyfrifoldeb i'r arweinyddiaeth yn y pen draw - ond dydi panicio a darogan gwae yn y dyfodol cymharol bell ddim yn syniad arbennig o dda.

William Dolben said...

Gwelais bwt am y pôl yma yn y Western Mail (Walesonline). Hwyrach fy mod yn ddiniwed ond nid oedd yr erthygl yn wrthrychol o bell ffordd. Rhyw frolio yr UKIP, anwybyddu dirywiad yng nghefnogaeth y DR a'r Blaid Lafur a lladd ar Blaid Cymru er bod eu "pleidlais" yn sefydlog neu'n codi mymryn...

Rhaid dweud hefyd nad oes gennyf fawr o ffydd yn polau piniwn yma sy'n honni eu bod yn llygad eu lle. Er yr holl samplo a'r ystadegau a chloriannu mae synnwyr cyffredin yn dweud na fedrwch chi ragweld ymddygiad dynol ryw wrth fwrw pleidlais a mae darogan canlyniad mewn lle fel Cymru'n anos fyth.

Hawdd digalonni wrth weld y pôl yma ond dyma dri chwesitiwn i Cai a ddylai ein rhoi ar ben ffordd:

1. Pryd ennillwyd y sedd yn Ewrop gan PC am y tro cyntaf?
2. Mae gennyf frith gof mai 5 o seddi oedd yng Nghymru i gychwyn a PC heb ennill yr un. Mae'r ffaith for Jill Evans wedi ennill un allan o bedair yn dipyn o gamp wrth ystyried mai 10-20% sy'n cefnogi PC
3. Ydi'r polau hyn yn dueddol o chwyddo pleidlais y pleidiau Prydeinig ar draul y pleaidia bach?

Cai Larsen said...

1999 Jill Evans + Eurig Wyn. 5 sedd oedd 'na tan 2004. Does yna ddim tystiolaeth bod dull YouGov yn ei hanfod yn anfanteisiol i PC - fy mhroblem i efo'r pol ydi bod yr arfer o beidio ffiltro am debygrwydd i fotio yn anaddas i bleidlais lle mae lleiafrif yn pleidleisio. Mae yna le i gredu bod pleidleiswyr PC yn well am fynd i fotio na chefnogwyr rhai o'r pleidiau unoliaethol.

Anonymous said...

Pe bai PC yn colli ei sedd Ewropeaidd, byddai hynny'n ergyd fawr i hygrededd Leanne Wood.


Efallai bod angen meddwl cael y "big hitter" mwyaf sydd ganddynt, h.y Adam Price i'r senedd fel ymateb cryf i hynny. Tybed oes modd perswadio Rhodri Glyn Thomas i sefyll lawr yr haf hwn, er mwyn cynnal is-etholiad llwyddiannus yn Sir Gar? Byddai hynny hefyd yn gallu creu momentwm yma yng Nghymru pe bai'r Alban yn fotio IA ym mis Medi.

Anonymous said...

mae cai yn gobeithio bu plaid ddim yn colliny set, mae e mewn am sioc, mae plaid cymru angen asgwrn cefn,

ie enillodd y plaid ei set cynta yn ewrop yn 1999, ond tan hynny oedd system pleidkeisio yn gwahanol

bu plaid fel y dem rhydd cyn hir, saen mynd i bleidleisio i nhw, plaid wan heb syniadau.

ma angen cael gwared o AS wan y plaid B Jenkins, L Whittle ac Simon.

Cai Larsen said...

Os ydi pol Cymreig YouGov yn gywir ac un Prydeinig YouGov heddiw yna mae'r Toriaid yn perfformio'r un peth yng Nghymru a Phrydain - am y tro cyntaf erioed.