Sunday, April 27, 2014

Ac yn ol a ni at YouGov

Cyn cychwyn hoffwn wneud pethau yn glir - dwi'n croesawu'r ffaith bod YouGov a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal polau piniwn rheolaidd, dwi'n dymuno yn dda i'r ymarferiad ac yn gobeithio y bydd yn parhau ymhell i'r dyfodol, dwi ddim yn bod yn angharedig a dwi'n mawr obeithio y bydd y sylwadau sydd i ddilyn yn cael eu cymryd fel beirniadaeth adeiladol ac nid fel ymysodiad o unrhyw fath.

Mae set data'r pol diweddaraf o fy mlaen - fedra i ddim darparu linc oherwydd nad ydi'r dudalen ar y We eto hyd y gwn i.  Bydd rhaid i chi ymddiried ynof bod yr wybodaeth dwi'n ei ddarparu yn adlewyrchu ymarferiad YouGov.  Mae gen i ddwy broblem efo'r hyn rydwyf yn edrych arno - y naill yn ymwneud efo natur rhai o'r cwestiynau a'r llall yn ymwneud a'r fethedoleg edoleg a ddefnyddir.  Fel y cawn weld mae'r ddau beth yn un yn y bon.

Mae rhai o'r cwestiynau yn - wel - rhyfedd i bol Cymreig.  Er enghraifft mae'r holiadur yn rhoi cyfle i ddynodi oddi ar pa sianel deledu mae pobl yn derbyn eu newyddion am wleidyddiaeth gan roi rhestr faith  o sianelau gan gynnwys CNN, More4 a BBC Parliament - ond does yna ddim cyfle i ddynodi S4C.  Mae YouGov eisiau gwybod os ydi'r atebydd yn aelod o'r prif bleidiau Prydeinig, ond does dim cyfle i ddynodi aelodaeth o Blaid Cymru.  Ceir cyfle i ddynodi aelodaeth o Eglwys yr Alban a Siciaeth, ond dim un i fynegi aelodaeth o'r Hen Gorff.  Ceir cwestiwn am ddilysrwydd pasport i fynd i'r Alban ond dim byd am bynciau amserol Cymreig megis perfformiad y gwasanaethau addysg a iechyd.  Mae yna gwestiwn am berthynas Prydain efo'r UDA ond dim am agweddau tuag at yr iaith Gymraeg.

Ac mae'r iaith Gymraeg yn dod a ni at y fethedoleg.  Does yna ddim tystiolaeth yn y set data bod y sampl wedi ei gynllunio i gynnwys y ganran briodol o siaradwyr Cymraeg.  Mae yna berthynas rhwng iaith a thueddiadau pleidleisio yng Nghymru.  Yn fwy difrifol mae yna dystiolaeth gref bod y sampl yn cynnwys gormod - llawer gormod o bobl o gefndir Seisnig - ac mae hynny'n arbennig o wir am y Gogledd a'r Canolbarth / Gorllewin.  63% o'r sawl a holwyd a aned yng Nghymru.  Mae'r Cyfrifiad yn  datgan i 72.7% o bobl Cymru gael eu geni yng Nghymru.  48% o'r sawl a holwyd yn y Canolbarth \ Gorllewin a anwyd yng Nghymru.  Dydi ffigyrau'r cyfrifiad ddim yn caniatau i ni weithio allan faint sydd wedi eu geni yng Nghymru yn ol rhanbarth (wel ddim yn hawdd beth bynnag) ond y sir efo'r lleiaf wedi eu geni yng Nghymru yn y Canolbarth / Gorllewin ydi Powys efo 49.8% a'r un efo'r mwyaf ydi Caerfyrddin efo 76%.

50% o'r sawl a holwyd yn y Gogledd oedd wedi eu geni yng Nghymru.  Y ganran isaf yn y Gogledd ydi 50% Sir y Fflint a'r uchaf ydi 69.2% Wrecsam.  Mae'r pol yn holi am ble y cafodd rhieni'r sawl a gymrodd rhan yn y sampl eu geni - yn ol yr arolwg mae 39% o dadau a 46% o famau pobl y Canolbarth / Gorllewin wedi eu geni yng Nghymru.  Y ffigyrau cyfatebol yn y Gogledd ydi 36% a 43%.  Mae hyn yn awgrymu mai lleiafrif bach - llai na thraean yn ol pob tebyg o drigolion y ddau ranbarth sydd efo'u dau riant wedi eu geni yng Nghymru.  Dydi'r Cyfrifiad ddim yn gofyn i bobl ymhle y cafodd eu rhieni eu geni - ond mae ffigwr YouGov yn hynod anhebygol o fod yn gywir.

Rwan - rydan ni i gyd yn gwybod goblygiadau cam samplo fel hyn - mae yna berthynas rhwng patrymau pleidleisio a lle mae rhywun wedi ei eni yng Nghymru.  Efallai nad ydi hyn yn wir yn Lloegr - lle mae YouGov wedi arfer gweithredu - ond mae'n sicr yn wir yng Nghymru ac mae'r arolwg yma yn cadarnhau hynny.  Rwan fyddai cam samplo fel hyn ddim ffeuen o ots petai YouGov yn pwyso'r data i gymryd hynny i ystyriaeth.  Ond dydi nhw ddim - mae nhw'n pwyso mewn perthynas a dosbarth cymdeithasol oed, rhyw a rhanbarth ond ddim mewn perthynas a'r wlad y ganwyd pobl ynddi.

Ac efallai mai dyna sy'n dod a fy nwy feirniadaeth at ei gilydd - mae rhai o'r cwestiynau yn awgrymu nad ydi YouGov yn gwbl gyfarwydd a rhai agweddau ar ein bywyd cenedlaethol - dydi hynny ddim yn ofnadwy o bwysig i ganlyniad pol piniwn ynddo'i hun - ond pan mae'n amharu ar lunio methodoleg addas i bwrpas mae'n broblem - ac mae hynny'n wir yma.  Mae man geni a iaith yn effeithio ar batrymau pleidleisio.  Dydi hynny ddim yn ymddangos i fod yn gwbl eglur i YouGov.  

9 comments:

Anonymous said...

Cai fel rhan o panel you gov, mae you gov pob tro yn ei polay yn gofyn fi pa iaith dwin siard, pa plaid dwi rhan o gan cynnwys plaid cymru, ac pan maen yn gofyn am darllen papur mae nhwn tueddu cynnwys y western mail. felly mae eich analysis yn anghywir

Anonymous said...

mae nhw pob amser yn gofyn am pa plaid, iaith, papur rydw i'n darllen, signo lan a wneud rhai o polau nhw gallwch chi weld wedyn

Cai Larsen said...

Mae'r det ddata o fy mlaen - dim byd am y Gymraeg, dim byd am bapurau Cymraeg, dim byd am y Western Mail nag S4C - gaddo.

Cai Larsen said...

Jyst i fod yn hollol glir rwan - mae'r pol yn rhoi cyfle i ddweud dy fod yn fotio i'r Blaid - ond ddim yn son am aelodaeth o'r Blaid. Mae'r ddau beth yn wahanol.

Ioan said...

Oes na is-dabl Pleidlais yn erbyn lle mae pobl wedi ei genni?

Ioan said...

Cai,

Hyd yn oed efo sample "cywir" o bobl a aned yng Ngymru, mi fasa PC dal yn dod allan yn bedwerydd gwael tu ol i Ukip a'r Cons.

Dwi'n meddwl mae'r "tebygolrwydd o fotio" fydd yn achyb PC (fel wnes ti ddweud yn dy flog diweddar).

Cai Larsen said...

Ioan

Ti'n dair gwaith mor debygol o fotio PC mewn etholiad Cynulliad a phedair gwaith mor debygol mewn etholiad San Steffan os ti wedi dy eni yng Nghymru. Ti'n tua dwywaith mwy tebygol o fotio Llafur yn y ddau fath o etholiad os ti wedi dy eni yng Nghymru hefyd. Ti'n llai tebygol o fotio i'r Toriaid a'r Lib Dems. Dydi'r data ddim ar gael ar gyfer UKIP.

Dwi'n derbyn nad yw'r 'gwall' samplo yn egluro'r gagendor i gyd - ond mae'n egluro rhan ohono.

Ioan said...

O edrych at dabl "KS204EW - Country of birth" o nomis, 59.9% o bobl Gogledd Cymru (o bob oed) gafodd ei eni yng Nghymru. Mi fasa fo'n is heb cyfri'r plant a phobl ifanc dan 18 oed. Dwi'n meddwl bod y gwall ond yn tynu tua 2% o lefel PC.

O'r tabl (% wedi ei geni yng Nghymru):
North Wales 59.9
Mid and West Wales 64.0
South Wales West 81.8
South Wales Central 76.0 South Wales East 81.8


Cai Larsen said...

50% o'r sawl a holwyd yng Ngogledd Cymru a holwyd gan YouGov oedd wedi eu geni yng Nghymru. Dwi ddim yn siwr bod hynny yn cynnwys myfyrwyr.

48% oedd y ganran am Gogledd / Canolbarth. 77% oedd yng Nghanol De Cymru, a 70% yng Ngorllewin De Cymru a 70% yn Nwyrain De Cymru.