Thursday, April 03, 2014

Gwilym Owen a'r penderfyniad i symud S4C i Gaerfyrddin

Gan bod Gwilym Owen yn gofyn yn ei golofn yn Golwg heddiw beth yw fy niffiniad o'r term 'nytars' (a ddefnyddwyd gennyf mewn cyfeiriad at sylwadau gwrth Gymraeg ar Radio Wales yn ddiweddar) waeth i mi ateb.  Yng nghyswllt y blogiad dan sylw 'nytars' ydi pobl sy'n defnyddio'r cyfryngau torfol i wneud i bawb wrando ar eu rhagfarnau afresymegol a di dystiolaeth.

Daw hyn a ni'n dwt at ddadansoddiad Gwilym Owen o pam y symudwyd pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn hytrach na Chaernarfon.  Yn ol Gwilym cais Plaid Cymru oedd un Caernarfon tra bod  cais Caerfyrddin yn un oedd wedi ei gefnogi gan Archesgob Cymru, gwahanol Arglwyddi, ac Aelodau Seneddol a Chynulliad.  Cyngor Gwynedd oedd yn arwain cais Caernarfon tra mai Coleg y Drindod oedd yn arwain un Caerfyrddon.  Mae'n anodd gwybod beth yn union i'w ddweud am ddamcaniaeth Gwilym a dweud y gwir.

Mae'n wir bod Cyngor Gwynedd yn cael ei redeg gan glymblaid Plaid Cymru / Llafur, ond dydi hynny ddim yn golygu mai cais Plaid Cymru oedd yr un i gael S4C i ddod i Gaernarfon.  Yn yr un ffordd byddai'n gwbl amhriodol i honni mai Llafur sy'n darparu addysg yn Rhondda Cynon Taf, neu mai'r Toriaid sy'n darparu gwasanaeth llyfrgelloedd ym Mynwy, neu mai'r Annibynwyr sy'n hel biniau yn Ynys Mon.  Mae Cyngor Gwynedd, fel pob cyngor arall, yn endid corfforaethol sydd a gwleidyddion lleol o wahanol bleidiau yn ei reoli ac yn craffu ar ei reolaeth, yn ogystal a swyddogion sy'n wleidyddol ddi duedd.

Yr hyn sy'n fwy difrifol o bosibl ydi awgrym Gwilym bod y penderfyniad wedi ei wneud i raddau helaeth o ganlyniad i lythyr gan bwysigion gwleidyddol a chrefyddol o Sir Gaerfyrddin.  Mewn geiriau eraill mae'n awgrymu bod y penderfyniad yn un gwleidyddol.  Rwan dwi ddim yn gwybod faint o wybodaeth mewnol sydd gan Gwilym Owen ond byddai penderfyniad i leoli gwasanaeth cyhoeddus ar sail lobio gwleidyddol yn fater o gryn ofid.  Yr unig ffordd y dylid dod i benderfyniad o'r fath fyddai trwy gymharu i ba raddau mae'r ddau gais yn cydymffurfio a meini prawf  sydd wedi eu rhoi i'r ymgeiswyr o flaen llaw.  Dylai'r meini prawf yna fod yn union yr un peth i'r holl ymgeiswyr.  Does yna ddim lle i lobio gwleidyddol mewn proses felly.

Yn wir pe byddai yna dystiolaeth gadarn bod bwrdd S4C wedi dod i'r canlyniad y daeth iddo ar sail lobio/ pledio / bwlio gan gasgliad o Esgobion,  Arglwyddi a chynrychiolwyr etholedig ynghyd a chanfyddiad cwbl ragfarnllyd  mai 'cais Plaid Cymru' oedd un Caernarfon, yna mae'n fwy na thebyg y byddai gan Gyngor Gwynedd hawl i wneud cais am adolygiad barnwrol o'r ffordd y daethwyd i'r penderfyniad.

Dwi ddim yn awgrymu am eiliad bod Cyngor Gwynedd yn dilyn y trywydd hwnnw - mae'r penderfyniad yn ddwr o dan y bont bellach. Pob lwc i S4C yn ei bencadlys newydd. Ond mae'n adrodd cyfrolau am natur diwylliant gwleidyddol Cymru nad ydi sylwebyddion gwleidyddol profiadol yn cael unrhyw broblem efo'r cysyniad bod penderfyniadau pwysig am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar sail pwysau gwleidyddol o gyfeiriad pwysigion. 

4 comments:

Dai said...

Gor-ddelfrydol yw ystyried na ddylai lobio gwleidyddol fod yn factor mewn penderfyniadau felly.

Fe fyddai etholwyr yn sicr yn disgwyl i'w gwleidyddion etholedig fod yn lobio neu pledio achosion o'r fath.

Cai Larsen said...

Dwi'n gwybod hynny - ond byddai lleoli sefydliad cyhoeddus ar sawl lobio - hynny yw sail gwleidyddol - yn ol pob tebyg yn groes i'r gyfraith.

Anonymous said...

A dweud y gwir mae hyn yn gywelyddus. Os di dadansoddiad GO yn gywir Arglwyddi ac Esgobion sydd yn eistedd yn Nhy'r Arglwyddi sy'n rhedeg Cymru.


Dylai hyn fod yn gryn sgwp i Golwg. Ond peidiwch a disgwyl ffwc ol o'r fan honno - rhan o beiriant propoganda'r wladwriaeth Brydeinig ydi hwnnw fel pob dim arall - ag eithrio rhai o'r papurau bro.

Anonymous said...

Ag ystyried honiadau Gwilym Owen dylai S4C sichrau pawb bod proses priodol wedi ei chwrdd. Os na fedrant wneud hynny bydd yna pob amser y teimplad bod S4C wedi ei leoli mewn lle seisnig iawn ar goridor yr M4 am bod elfennai sefydliadol yn deud mai felna mae pethau i fod.

Mae Cymru'n cael ei redeg gan Dy'r Arglwyddi.