Wednesday, April 16, 2014

Blogio o'r Almaen - rhan 2

Reit dwi heb gael llawer o amser i flogio - ond un neu ddau o argraffiadau brysiog am Berlin.  Mae'r llun isod wedi ei dynnu yn Alexanderplatz yn Nwyrain y ddinas.  Ar flaen y llun ceir cerfluniau o Marx ac Engles gan Ludwic Engelhart, ac yn y cefndir ceir Twr Teledu Fernsehturm.  Codwyd y ddau yn nyddiau'r GDR. 

Er mor wahanol, os ydi rhywun yn meddwl am y peth mae'r ddau strwythur yn cyflenwi pwrpas tebyg - lledaenu propoganda.  Mae'r twr yn ol pob tebyg yn fwy - ac yn fwy rhwysgfawr - na sy'n rhaid iddo fod.  Mae'n 368m o uchder ac mae'n weladwy o llawer o Orllewin Berlin - ac ymhell y tu hwnt yn Nwyrain yr Almaen.  Yn ogystal a bod yn dyst i rym y wladwriaeth roedd hefyd yn gallu lledaenu propoganda'r wladwriaeth.  Codwyd y strwythur tros gyfnod o 1965 - 1969 gyda dyfodiad teledu yn Nwyrain yr Almaen i bwrpas trosglwyddo signalau'r orsaf  deledu genedlaethol.  Roedd dyfodiad teledu yn fendith i unbeniaethau (ac nid unbeniaethau yn unig) ar hyd a lled y Byd - yn wahanol iawn i ddyfodiad y We Fyd Eang hanner canrif yn ddiweddarach.  Gall gwladwriaethau reoli'r naill yn llwyr - os ydynt am wneud hynny.  Ychydig iawn o reolaeth sydd ganddynt tros y llall.

Mae celf cyhoeddus ac adeiladau sific sy'n cael ei gomisiynu gan weinyddiaethau gwladwriaethol yn aml iawn yn wleidyddol o ran naws.  Mae'r cerflun o Marx ac Engles yn clodfori seiliau deallusol Marcsiaeth, mae'r Ardd Goffa yn Nulyn yn rhoi ffocws i amgylchiadau sefydlu'r wladwriaeth Wyddelig, mae'r Arc de Triumph yn tanlinellu grym milwrol Ffrainc ac mae'r Statue of Liberty yn ymgorfforiad o'r ideoleg weriniaethol a roddodd fodolaeth i'r Unol Daleothiau.

Mae gallu gwladwriaethau i gomisiynu celf neu godi adeiladau sy'n adlewyrchu eu grym yn nodwedd o'r ffordd y buont wedi cynnal eu hunain erioed - rhoi ffurf ddiriaethol i'w ideolegau creiddiol.  Mae dyfodiad y We a chyfryngau amgen eraill am ei gwneud yn fwy anos i gynnal ideolegau syml yn y dyfodol.  Mae'n anodd barnu os bydd hyn yn arwain at fwy 'ta llai o adeiladu a chomiwsiynu i bwrpas gwleidyddol yn y dyfodol.





2 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Wedi dadlau ers sbwl dros gerflun anferth o Bendigeidfran ar ben Twtil.

Anonymous said...

Mi oedd yna erthygl ar wefan y BBC wythnos diwethaf yn son am dwr cyfatebol enfawr yn Moscow, sydd bellach mewn cyflwr gwael. 'Triomphe' gyda'r llaw. (Car hefo injan dipyn gwell na'r Trabant oedd y Triumph)