Wednesday, April 30, 2014

Mwy am bolau piniwn

Dwi'n ymwybodol bod y tri blogiad diwethaf yn ymwneud a polio, a dwi hefyd yn ymwybodol nad ydi'r math yna o beth at ddant pawb.  Serch hynny dwi am wneud un arall brysiog cyn gadael y pwnc am y tro.  Rhyddhawyd dau bol heddiw sy'n awgrymu y bydd y Toriaid yn 18% o'r bleidlais tros y DU yn etholiad Ewrop fis nesaf.  Yn 2009 roedd pleidlais y Toriaid 6.5% yn is yng Nghymru nag oedd tros y DU.  Petai'r tan berfformiad Cymreig yn cael ei ailadrodd (ac mae'n debygol y bydd hynny'n digwydd) yna byddai'r blaid yn cael 11.5% yng Nghymru.  O dan yr amgylchiadau sydd ohonynt mae'n  amheus y byddai hynny'n ddigon i gael sedd.

Petawn yn cymryd bod perfformiadau cymharol UKIP a Llafur yn debyg y tro hwn i 2009 - ac yn derbyn bod y polau hyn yn gywir - yna byddai pleidlais UKIP yng Nghymru yn yr amrediad 22.3% - 24.3% ac un Llafur yn 31.6%.  I ennill sedd o dan yr amgylchiadau yma byddai'n rhaid osgoi dod yn bedwerydd a chael oddeutu 12% neu fwy o'r bleidlais.

Dydi natur polau Prydeinig ddim yn caniatau i ni ddod i gasgliadau ystyrlon am berfformiad tebygol Plaid Cymru yn anffodus.  

2 comments:

William Dolben said...

Sgwn i bydd llwyddiant yr UKIP o ryw fudd i Blaid Cymru yn y pen draw. Dim byd gwell na chenedlaetholdeb rhonc Saesneg i ddeffro'r Cymry o'n trwmgwsg decien i. Gwnaeth Magi a'i chriw job go lew o hybu datganoli er nad yn fwriadol.

Ioan said...

Ond braidd yn drist mae targed PC yn y lecsiwn yma ydi cael mwy na hanner pleidlais Ukip...