Tuesday, December 31, 2013

Y gongs blwyddyn newydd

Mae'n debyg bod disgwyl i ni fel cenedl ymfalchio unwaith eto bod rhai yn ein plith wedi derbyn rhyw anrhydeddau neu'i gilydd sydd wedi eu llunio yn y dyddiau pan roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn bodoli - a sydd erbyn heddiw yn rhyw fath o gofebau i'r Ymerodraeth honno.

Fel arfer mae'n gyfuniad rhyfedd o bobl - anrhydeddau am wneud rhywbeth neu'i gilydd yn wirfoddol, anrhydeddau i bobl am wneud y joban maent yn cael eu talu am eu gwneud, anrhydeddau am fod yn ffrindiau efo gwleidyddion dylanwadol, anrhydeddau am fod yn selebs, anrhydeddau am beidio a chicio yn erbyn y tresi ac anrhydeddau am gyfuniad o'r uchod.

Felly mae Geraint Talfan Davies yn cael  yn cael OBE am ddarlledu - darlledu oedd ei waith, mae Efa Griffith Jones yn mynd cam ymhellach ac yn cael ei hun yn Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i blant a'r iaith Gymraeg - mae'n cael ei thalu am hynny, ac mae Rosemary Butler yn cael ei gwneud yn Fonesig am ei gwasanaethau i ddemocratiaeth a merched.  Mae'r rhestr od yn un gweddol faith.

Mae urddo Rosemary Butler yn gwneud i mi feddwl am flogiad arall ar Flogmenai, sef hwn.  Cyfeirio mae'r blogiad at gyfweliad a wnaed ar Post Prynhawn gan Gareth Glyn gyda Bethan Jenkins wedi i honno beidio ag ymddangos yn y Cynulliad i groesawu brenhines Lloegr.  Mi ges i ebost digon chwerw ac annifyr ddiwrnod neu ddau wedyn gan Gareth yn cwyno am y blogiad.

Yr hyn roedd y blogiad yn tynnu sylw ato oedd yr agweddau gwaelodol BBCaidd oedd ynghlwm wrth y trywydd holi - sef bod pobl sydd ddim yn hoffi'r sefydliad Prydeinig yn rhagrithiol ac yn ceisio tynnu sylw atyn nhw eu hunain.  Hynny yw mai diffygion persenoliaeth sy'n egluro eu amharodrwydd i gymryd rhan ym mhartion llyfu a llempian y Bib, nid unrhyw ddiffygion yn y sefydliadau Prydeinig.

Tra bod Bethan wedi absenoli ei hun roedd Rosemary Butler wedi sefyll y tu ol i'r Frenhines efo Carwyn Jones o flaen mor o gamerau.  Ond eto i'r Bib y person nad oedd ar gyfyl y lle oedd yn tynnu sylw ati hi ei hun, nid yr un oedd yn sefyll o flaen yr holl gamerau yn ei dillad dydd Sul yn torheulo yng ngoleuni'r cameras fflach oedd wedi eu cyfeirio at Frenhines Lloegr.   Mae'n amhosibl dychmygu Rosemary Butler neu Carwyn Jones yn cael cwestiwn megis 'Ond rydych yn derbyn eich bod yn tynnu sylw atoch chi eich hunain trwy sefyll y tu ol i'r Frenhines o flaen cant a hanner o gamerau?' gan rhywun sy'n gweithio i'r Bib - er nad oes dim yn fwy amlwg na'u bod yn tynnu sylw atynt eu hunain.

A dyna ni - mae Rosemary wedi cael ei hurddo oherwydd ei gwasanaeth i 'ferched a democratiaeth'.  Mae hefyd wedi cael ei gwobreuo am fod yn lleddf, yn sefydliadol ac am beidio a chicio yn erbyn y tresi - fel bron i bawb sy'n ymddangos ar y rhestrau hyn.

Llongyfarchiadau iddi hi a'r gweddill - does yna neb ohonoch wedi tynnu sylw atoch eich hunain - mewn rhyw hen ffordd hyll o leiaf.


1 comment:

Anonymous said...

Diolch Cai am y dadansoddiad. Ar hyn o bryd, mae nifer o ferched Cymru, gan gynnwys Pennaeth yr Urdd, yr Archdderwydd, Pennaeth LlĂȘn Cymru yn codi cywilydd ar ein cenedl.