Tuesday, December 10, 2013

Y cyfuniad rhyfedd o bobl sy'n galaru Mandela




Robert Mugabe, Barak Obama, Gerry Adams, Raul Castro, David Cameron, Naomi Cambell, Mary Robinson, Henry Kissinger, Bono, George Bush ac ati ac ati - y cwbl yn gwneud eu ffordd i DdeAffrica a'r cwbl yn uniaethu eu hunain efo'r diweddar Nelson Mandela.  Go brin bod yna griw mor eclectig o bobl erioed wedi uniaethu efo un person o'r blaen - yn ystod bywyd y person hwnnw o leiaf.  Ac wrth gwrs ar rhyw olwg maen nhw i gyd yn gywir i wneud hynny - mae naratif bywyd Mandela yn gymhleth ac yn cyffwrdd a naratifau gwleidyddol pob un o'r uchod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Dechreuodd ei fywyd gwleidyddol yn aelod o'r ANC di drais cyn mynd ati i arwain y mudiad a chefnu ar egwyddorion di drais,  cael ei garcharu am flynyddoedd maith cael ei ryddhau, arwain yr wlad i gyfundrefn ddemocrataidd gan osgoi rhyfel cartref a thrais eang, gwasanaethu fel arlywydd a threulio blynyddoedd olaf ei fywyd yn eicon rhyngwladol a sant cyfoes.

Yn ystod y cyfnod magodd gysylltiadau agos efo'r Blaid Gomiwnyddol, FRELIMO Samora Michel, Zanu PF Robert Mugabe ac IRA Gerry Adams.  Yn wir mae'n debyg mai cefnogaeth dechnegol yr IRA oedd y tu ol i rai o ymysodiadau mwyaf adnabyddus adain filwrol yr ANC.  Magodd hefyd gysylltiadau efo llywodraethau democrataidd y Gorllewin, ac aeth ati i arwain democratiaeth cyfansoddiadol mewn cyfundrefn economaidd gyfalafol.

Cyffyrddodd bywyd gwleidyddol Mandela efo llawer o themau mawr gwleidyddiaeth ail hanner y ganrif ddiwethaf - y frwydr ideolegol oedd ynghlwm a chyfalafiaeth a Chomiwnyddiaeth, diwedd yr ymerodraethau mawr a blerwch ol imperialaeth, y gwrthdaro rhwng cenedlaetholdeb sifig ac ethnig, y frwydr am hawliau sifil a chydraddoldeb o ran hil a chrefydd, a goruwchafiaeth rhyddfrydiaeth cymdeithasol.

Mae'n adrodd cyfrolau am y ffordd yr ydym yn edrych ar y Byd bod fwy neu lai bawb yn uniaethu efo'r hyn sy'n apelio atynt yn hanes Mandela, tra'n anwybyddu'r hyn nad ydynt yn eu hoffi.  Mae'r cyfuniad o stori dda (digon o ddioddefaint ond diwedd hapus), cymeriad pwerus (deallusrwydd, hunan gred, carisma ac urddas), a'n hangen i fod ar ochr 'gywir' hanes wedi dod a'r bobl mwyaf anisgwyl at ei gilydd am ychydig ddyddiau.

2 comments:

Unknown said...

Eironig iawn oedd clywed araith Obama! Beth am Guantanamo Bay? Beth am ymosodiau 'drone' (awyrennau di-beilot)?

Anonymous said...

"Mae'r cyfuniad o stori dda (digon o ddioddefaint ond diwedd hapus), cymeriad pwerus (deallusrwydd, hunan gred, carisma ac urddas), a'n hangen i fod ar ochr 'gywir' hanes wedi dod a'r bobl mwyaf anisgwyl at ei gilydd am ychydig ddyddiau."

Dadansoddiad da o ddigwyddiadau'r dyddiau diwethaf. Diolch, Cai.