Monday, December 23, 2013

Neges 'Dolig Carwyn

Felly mae Carwyn Jones yn defnyddio y rhan fwyaf o'i neges Nadolig i ddiolch i filwyr Prydeinig mewn gwledydd tramor am ein hamddiffyn.  Rwan dwi ddim eisiau ymddangos yn aniolchgar, a dwi'n siwr bod llawer o'r sawl sy'n ymuno efo'r fyddin yn gwneud hynny er mwyn amddiffyn pobl eraill, ond mae'n werth gofyn sut yn union mae milwyr Prydeinig mewn gwledydd tramor yn ein hamddiffyn?  Rhestraf isod leoliadau tramor y fyddin Brydeinig.  Oes gan unrhyw un eglurhad ynglyn a beth yn union sydd gan Carwyn mewn golwg?

Belize:  Ymddengys bod milwyr Prydeinig yn yr wlad yma oherwydd bod yna ffraeo rhwng y wlad honno a Guatemala ynglyn a lle'n union y dylai'r ffin rhwng y ddwy wlad fod.  Ceir cyfanswm o ddeg o filwyr yno.

Brunei:  Mae gan y DU bresenoldeb milwrol yn yr wlad yma i bwrpas amddiffyn unbeniaeth brenhinol Islamaidd sydd ymysg pethau eraill yn carcharu pobl hoyw am ddegawd.

Canada:  Mae gan y fyddin gamolfan hyfforddi yng Nghanada.

Yr Almaen: Cafwyd presenoldeb yma ers diwedd RhB2 - i ddechrau i bwrpas meddiannu rhan o'r wlad, ac wedyn i amddiffyn Gorllewin Ewrop oddi wrth yr Indeb Sofietaidd.  'Dydi hi ddim yn glir pam bod y fyddin yno rwan a bydd yn gadael yn 2020.

Kenya: Canolfan hyfforddi arall.

Sierra Leone:  Hyfforddi byddin yr wlad honno.

Gogledd Iwerddon:  Gweddillion y presenoldeb mwy o lawer oedd yno yn ystod y rhyfel hir yn y dalaith honno.

Gibraltar:  Sicrhau mai o Lundain ac nid o Madrid y rheolir y darn bach yma o dir.

Malfinas:  Sicrhau mai o Lundain ac nid o Buenos Aires y rheolir yr ynysoedd.

Cyprus:  Cedwir presenoldeb yma rhag ofn bod yr angen yn codi i ymospd ar rhyw wlad neu'i gilydd yn y Dwyrain Canol.  Yr unig wlad yn y Dwyrain Canol sy'n gallu bygwth y DU ydi Israel.  Gallant yn hawdd anfon bomiau niwclear i Brydain gan ddefnyddio eu taflegrau Jerico neu eu hawerynnau rhyfel  F15 neu F16.  Ond dydi hynny ddim am ddigwydd wrth gwrs - a dydi Prydain ddim am ymosod ar Israel chwaith.

Afghanistan:  Ymladd yn erbyn y Taliban.  Mi fydd y Taliban yn dod i gytundeb efo llywodraeth Afghanistan wedi i luoedd y Gorllewin adael.  Mae'r ymyraeth yma wedi ei gwneud terfysgaeth ar strydoedd y DU yn llawer mwy tebygol.



1 comment:

Anonymous said...


Ol-nodyn am Afganistan.

Pryd gawn ni'r gwirionedd am rol y fyddin Brydeinig yno dros y blynyddoedd yn sicrhau siar o ddiwydiant hynod broffidiol y "poppy trade" a'r ddibyniaeth ar heroin yn y gorllewin yn dilyn hynny?

Yr arian budr hwn yn cael ei sianelu trwy ddinas Llundain mae'n debyg.