Tuesday, November 26, 2013

Pam Nicola Sturgeon?

Roedd hi dipyn yn ddigri gwrando ar Dylan Jones yn holi y bore 'ma pam mai Nichola Sturgeon ac nid Alex Salmond sydd wedi arwain ar roi cyhoeddusrwydd i Bapur Gwyn yr SNP ar annibyniaeth i'r Alban heddiw.  Rhag ofn bod rhywun arall ddim yn gwybod, ceir yr ateb yma - mae yna lawer llai o gefnogaeth ymysg merched na sydd ymysg dynion i annibyniaeth i'r Alban.

Mae yna batrwm tebyg ond gwanach ymysg cefnogwyr yr SNP - mae dynion yn fwy tebygol o bleidleisio i'r blaid genedlaetholgar na merched.  Mae yna batwm cryfach o lawer yng Ngogledd Iwerddon - mae dynion yn llawer mwy tebygol o fotio i Sinn Fein na merched.  Does yna ddim patrwm felly yng Nghymru - mae proffil cefnogaeth y Blaid yn hollti'n gyfartal rhwng dynion a merched.

Peidiwch a gofyn i mi egluro.

4 comments:

Anonymous said...

Yr 'ateb' yn syml yw fod menywod yn fwy ceidwadol ar gwestiynau cyfansoddiadol a hefyd ar wleidyddiaeth yn gyffredinnol.

Llawer mwy parod i eisiau sefydlogrwydd. Dyna un peth a esboniodd pam i fwy o ferched fotio dros y Naziaid na dynion. Roedd y Naziaid yn cynnig sefydlogrwydd. Roedd y Naziaid hefyd yn 'wrth-wleidyddol'.

Dwi ddim yn ceisio taflu baw, 'mond dweud fod menywod yn draddodiadol fwy ceidwadol. Dyna oedd rhan o apel y Toriaid a Margaret Thatcher yn ei chyfnod cynnar.

Anonymous said...

Fel dwi'n deall, ymysg siaradwyr Cymraeg, mae cryn gydbwysedd rhwng dynion a merched sy'n pleidleisio i Blaid Cymru. Ond mae merched di-Gymraeg yn llai tebygol i bleidleisio i Blaid Cymru na dynion di-Gymraeg - yn debycach i'r patrwm yn yr Alban, o bosib.

Iwan Rhys

Anonymous said...

Fel dwi'n deall, ymysg y rhai sy'n siarad Cymraeg ac yn pleidleisio i Blaid Cymru, mae cryn gydbwysedd rhwng dynion a merched, ond ymysg y rhai di-Gymraeg, mae mwy o ddynion yn pleidleisio i Blaid Cymru na merched. Sgwn i a yw'r patrwm ymysg y di-Gymraeg yn debyg i'r hyn a welir yng nghefnogaeth yr SNP yn yr Alban?

Iwan Rhys

(Wedi trio postio'r nege yma'n gynharach, ond 'dyw e ddim wedi ymddangos. Ymddiheuriadau os bydd yn ymddangos ddwywaith)

Anonymous said...

Pam Nicola Sturgeon?

Gweler y drafodaeth, neu'r dinistr, rhwng Sturgeon ac Alistair Carmichael, yr ysgrifennydd gwladol, ar STV. Nid 'token woman' yw hon!