Sunday, April 28, 2013

Adeiladu ar seiliau cadarn

Fedra i ddim dod o hyd i linc, ond yn ystod cyfres o gyfweliadau byr i arweinwyr y pleidiau sy'n ymladd yn etholiadau Ynys Mon gan y Bib dywedodd arweinydd y grwp 'annibynnol', Bryan Owen, bod ei griw yn gobeithio cael y cyfle i adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd ganddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Os oes rhywun efo diddordeb yn natur rhai o'r seiliau hynny mae hynt a helynt rhai o aelodau gwahanol glymbleidiau annibynnol y gorffennol agos wedi eu croniclo'n fanwl yma.  Mwynhewch.

O ystyried yr amgylchiadau, ac o ystyried rhai o'r bobl sy'n gobeithio bod yn rhan o'i grwp, efallai y byddai'n ddoethach petai Bryan wedi osgoi defnyddio'r trosiad 'adeiladu' i ddweud beth bynnag roedd yn ceisio ei ddweud.  

4 comments:

Rhys Williams said...

Roedd ar ITV Cymru

http://www.itv.com/news/wales/story/2013-04-15/anglesey-council-election-campaign/

Unknown said...

Your post was a whole blast.. i had fun reading it..
thanks for the information. Divorce Attorney Wichita KS

maen_tramgwydd said...

Linc in Rebecca-tv ddim yn gweithio.

Escort said...

I am really enjoying reading your well written Information. I think you spend numerous effort and time updating your blog. I have bookmarked it and I am taking a look ahead to reading new Information. Please keep up the good Information! Employment opportunity to work as an escort at London escort agency. Escorts London