Un pwt bach brysiog am y cyfrifiad.
Digwydd chwarae efo ffigyrau'r cyfrifiad oeddwn i'r diwrnod o'r blaen, pan feddyliais am edrych ar y berthynas rhwng y canrannau sy'n siarad y Gymraeg a'r niferoedd sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae'r canfyddiadau yn drawiadol.
O ychwanegu'r nifer sy'n deall y Gymraeg a'r nifer sydd yn ei siarad cawn fod y cyfansymiau hynny yn rhyfeddol o debyg i'r cyfansymiau a anwyd yng Nghymru ym Mon a Cheredigion. Mae mwy o bobl yn siarad neu'n deall yr iaith yng Ngwynedd na sydd wedi eu geni yng Nghymru. Ond edrychwch ar Sir Gaerfyrddin - mae yna 40,000 mwy o bobl sydd wedi eu geni yng Nghymru na sydd yn deall neu siarad yr iaith. Petai Caerfyrddin efo'r un gymhareb rhwng gallu ieithyddol a man geni ag a geir yng Ngwynedd, byddai tros i 80% o'i phoblogaeth yn deall neu'n siarad yr iaith.

3 comments:
Ac os fyddai Ceredigion efo'r un gymhareb rhwng gallu ieithyddol a man geni ag a geir yng Ngaerfyrddin, byddai llai na 32% o'i phoblogaeth yn siarad yr iaith...
Hawdd beio sefyllfa Sur Gâr ar Lanelli ond mae Caergybi a Bangor yn glastwreiddio canran Môn a Gwynedd hefyd. Mae'r dirywiad yn go lew o gyson ymhob rhan o Sir Fâr rwy'n amau. Mae'n dorcalonnus gweld fod y rhan fwya o blant yn siarad Saesneg ar yr aelwyd mewn hyd oed mewn llefydd fel Cwm Aman a Chwm Gwendraeth lle mae'r hen do yn Gymraeg ei iaith o hyd. Cofier mai dim ond 45% oedd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyn ym 1960...
Yr unig gwestiwn sydd gennyf ydi faint o Gymry o ardaloedd Seisnigaidd De Cymru sydd wedi ymfudo i Sir Gâr. Rwy'n siwr fod yna bobl o Wrecsam a bellu yng Ngwynedd a anwyd yng Nghymru ond sydd heb siarad yr iaith ond hwyrach fod yna chwaneg o fewnfudo "agos" yn achos Sir Gâr....Cofio darllen rywle fod cau a chyfuno pyllau glo wedi cyfrannu at ddirywiad yr iaith wrth i lowyr o'r dwyrain yn cael eu hail-gyflogi yn y gorlllewin
Tubed ydi'r cyfrifiad yn dadansoddi pobl yn ôl sir eu geni?
W
Symudodd cannoedd o Swydd Durham o bob man i Carwê yng nghwm Gwendraeth rywbryd yn y ganrif ddwytha gan Seisnigo'r pentref e.e. a mae'r plant i gyd yn siarad Saesneg heddiw yn ôl Estyn
Post a Comment