Monday, April 08, 2013

Etholiadau Ynys Mon

Dwi'n gweld Ynys Mon yn iawn o fy nhy, dwi wedi gweithio yng Nghaergybi am flynyddoedd, ond waeth i mi fod yn onest - yn wleidyddol mae'r lle yn wlad dramor i mi.  Mae gen i record eithaf da o ran darogan etholiadau - ond mae fy hanes o ddarogan etholiadau Ynys Mon yn warthus o wael.

Beth bynnag, mi fentra i wneud ychydig o sylwadau.  Y peth cyntaf i'w ddweud ydi y bydd lecsiwn ym mhob ward - am y tro cyntaf yn hanes yr ynys mi fentra i.  Yn ail mae yna lawer o ymgeiswyr - llawer iawn.  Yn wir mae'r ynys wedi newid o fod ymysg y lleiaf cystadleuol o ran gwleidyddiaeth leol i fod ymysg y mwyaf cystadleuol.  A dweud y gwir mae yna fwy o ddewis yn y rhan fwyaf o wardiau nag a geir yn wardiau dinasoedd mawr y De.  Ac mae llawer o'r dewis hwnnw yn ddewis rhwng pleidiau gwleidyddol.  Mae gwleidyddiaeth Gogledd Gwynedd wedi bod yn bleidiol wleidyddol ers degawdau lawer, tra bod gwleidyddiaeth Mon (y tu allan i Gaergybi) wedi bod yn annibynnol iawn ei naws.  Mae Ynys Mon am edrych yn fwy tebyg i Arfon ar ol yr etholiadau hyn.

Er  bod mwy o ymgeiswyr annibynnol na sydd gan yr un grwp arall, mae yna lawer mwy o ymgeiswyr o'r pleidiau na sydd o rai annibynnol.  Ag ystyried hyn, yn ogystal a'r ffaith bod ymdeimlad ar draws yr ynys bod y gyfundrefn sydd ohoni wedi methu ac nad ydi'r ymgeiswyr annibynnol wedi eu dosbarthu yn arbennig o effeithiol,  gallwn gymryd mai lleiafrif o'r cynghorwyr newydd fydd yn rhai annibynnol.  Yn wir mae'n bosibl mai lleiafrif gweddol fach ohonynt fydd.  Dim ond Plaid Cymru a'r Blaid Lafur sydd efo hanes cyson o gael cynghorwyr wedi eu hethol yn gyson i'r cyngor - ac mae llwyddiant Llafur wedi ei gyfyngu'n llwyr i Ynys Cybi.  Mae'r Lib Dems a'r Toriaid yn colli seddi cyngor  ar hyd y DU ar hyn o bryd, a does yna ddim lle o gwbl i feddwl y gallai UKIP gael fawr o lwyddiant ar Ynys Mon.  Mae felly'n rhesymol casglu felly bod gan y Blaid gyfle gwirioneddol i ddod allan o'r etholiad yma gyda mwy o gynghorwyr nag unrhyw grwp arall.  Yn wir mae'n bosibl y gallai gael mwy o gynghorwyr na phob grwp arall efo'i gilydd.  

9 comments:

Penderyn said...

Mi wnes i dreulio bron i wythnos yn Sir Fon yn ddiweddar, ac ie mae'n ynys ddiddorol yn wleidyddol. Gyda chynifer o ymgeiswyr mi all pob math o ganlyniadau ddigwydd. Rwy'n credu bydd y Blaid yn gwneud yn dda (os nad yn dda iawn), rwy'n credu bydd Llafur yn cynyddu seddi - ond heb fod hynny yn drawiadol, a bydd yr annibynwyr yn encilio, ond dwn i ddim am y gweddill - tybed daw ambell i Dori neu hyd yn oed UKIPer drwy'r canol. Bydd yn gyfrif diddorol iawn

Ioan said...

Y tro dwetha y dewis yma (yn Tysilio sydd rwan yn ward Aethwy) oedd Anibyn neu UKIP (anibyn yn enill efo tua 90%). Y tro yma, mae 'na:
3 Plaid Cymru (amddiffyn 1)
3 Lib Dem (amddiffyn 1)
2 Dori
1 Llafur
1 UKIP
2 Anibyn yn amddiffyn 2
ac 1 "anibyn" sy'n enwog am redeg gwefan glastnos.

Sgena'i ddim cliw pwy sy' am enill. Dwi'n amau bydd Plaid yn gwyneud yn dda (efo'r bledlias gwrth Gymreig yn cael ei chwalu i bob cyfeiriad!).

Anonymous said...

Dwi ddim mor saff. Yr hyn dwi wedi ddysgu yw i beidio darogan ac i ddisgwyl yr anisgwyl. Dwi'n amau y bydd nifer yr aelodau annibynnol yn lleihau ond yn credu y gallai nifer fach o bleidleisiau gael dylanwad mawr yn enwedig gyda chymaint o ymgeiswyr. Mae Mon yn draddodiadol yn driw i'r incumbant ac er bod rhai ffigyrau amlwg yn sefyll lawr ac y bydd yn anoddach i unigolyn gyrraedd pob rhan o'r ward mae'n rhy fuan i ddarogan diflanniad yr ymgeisydd annibynnol.Roedd gan rai ddigon o fwyafrif ar gyfer ward fwy.

Anonymous said...

Mae'r ffaith fod UKIP yn sefyll ymhob ward yn mynd i dynnu pleidleisiau oddiar y Toriaid a Llafur. Pleidlais graidd gan y Blaid yn yr ardaloedd dwi di canfasio hyd yma. Pleidlais gan Lafur yn amlwg mewn ambell i le ond fydd na'm swing mawr iddyn nhw. Hefyd yn amau y bydd na fwy o gynghorwyr annibynnol yno erbyn Mai 3ydd na fysa rhywun yn disgwyl nac yn gobeithio ond mi fydd lot o'r dead wood wedi mynd o'r diwedd.

Aled GJ said...

Dwi wedi canfasio yno rhywfaint dros yr wythnos olaf, a dyma'r hyn sy'n fy nharo i hyd yma. Mae'r ffaith bod 107 yn sefyll a natur di-brofiad canran helaeth ohonynt yn siwr o helpu plaid sefydlog sydd hefo trefniadaeth etholiadol dda( megis PC). Dwi hefyd yn cytuno hefo sylwadau Ioan bod y bleidlais wrth-Gymreig yn debyg o gael ei gwasgaru i sawl cyfeiriad a phrofi'n llai effeithiol oherwydd hynny.

Wedi dweud hynny, dwi dal yn ei gweld hi'n dalcen caled i PC ennill rheolaeth lwyr( 16 sedd) o gofio'r traddodiad annibynnol ar yr ynys. I wneud hynny, bydd angen perswadio etholwyr i bleidleisio dros 2 neu 3 ymgeisydd PC mewn rhai etholaethau a greddf naturiol llawer o bobl fydd rhannu eu pleidleisiau.

Er mwyn llwyddo, bydd rhaid i PC drin yr etholiadau fel Etholiad Cynulliad i bob pwrpas a pherswadio llawer mwy o bobl i ddod rownd i guro drysau a chreu synnwyr o fomentwm. Mi fyddwn i hefyd yn gobeithio y bydd yna stori ynys gyfan yn cael ei datblygu a negeseuon mwy pendant yn cael eu cyflwyno i bobl e.e creu prentisiaethau, creu a denu swyddi newydd ayb. Dydi'r neges amwys bresennol ynghylch yr angen am newid ddim yn ddigon ynddo'i hun.

Ioan said...

Mae nifer o'r annibynwyr yn dod o wardiau bach iawn e.g. Keith Evans yn Cadnant. Mae'r ward newydd yn anferth (drost 6000).

Dwi hefyd yn meddwl bydd yr Annibynwyr yn cael cweir - pobol wedi cael llond bol o'r chwarae plant, a phob plaid yn cannu'r un diwn (angen newid).

Anonymous said...

Od fod yna gyn-gynghorydd Gwynedd sy'n dal i fyw ar y tir mawr(Bangor) yyn ol y papurau etholiad yn sefyll. Siawns fod na ddigon o ymgeiswyr heb fynd i chwilio am rai i Wynedd?

Anonymous said...

Oes 'na dactegau efo faint o ymgeiswyr ddylai plaid sefyll mewn ward? Mi ron' i'n meddwl bod pawb o bob plaid yn dueddol o gael yr un bleidlais, fellu waeth i chi sefyll 3 ym mhob ward?

Anonymous said...

Rwy'n gwybod bugger all am beth yw beth ar Ynys Mon ond mae'n siwr o fod yn anodd darogan canlyniadau mewn llefydd lle na fu etholiad ers blynyddoedd - dim patrwm pleidleisio etc.

Mae wardiau aml-aelod yn siwr o fod o fantais i bleidiau gyda rhyw fath o drefniadaeth ac sy'n medru cynnig nifer helaeth o ymgeiswyr ac fe ddylai trafferthon y cyngor effeithio ac y rhai hynny (o bob lliw gwleidyddol) a fu'n gyfrifol am y trafferthion hynny.

Mae'n ymddangos i mi fod cyfle i Blaid Cymru a Llafur Newydd wneud yn dda felly.

Diddorol fod UKIP yn sefyll ym mhob ward.. Cyfle iddyn nhw ddod drwy'r canol fel yr awgryma Penderyn ond yn anhebygol os mai un ym mhob ward sydd ganddyn nhw.

Ond fel ddywedais i, rwy'n gwybod dim mewn gwirionedd!