Go brin bod fawr neb sy'n darllen Blogmenai yn gwybod pwy ydi Mick Antoniw, ond mae'n ymddangos ei fod yn Aelod Cynulliad Pontypridd. Cyn iddo ddod yn Aelod Cynulliad roedd yn ennill ei fara menyn yn llafurio fel twrna yn y maes holl bwysig hwnnw - anafiadau personol. Roedd yn gweithio i Thompsons cyn mynd yn AC. Thompson's ydi'r cwmni sy'n ceisio argyhoeddi'r bobl hynny sy'n gweld teledu yn ystod y dydd i ddod ag achos cyfreithiol yn erbyn rhywun neu'i gilydd os oes bricsan wedi syrthio ar eu troed, os ydynt wedi llithro ar rew neu wedi codi'n rhy gyflym a chael clec ar eu coryn.
Ta waeth, yn ol Golwg360 mae Mick eisiau mewnbwn i broses ethol ymgeisyddion rhanbarthol Plaid Cymru am y seddi rhanbarthol. Neu i fod yn fanwl gywir mae eisiau sicrwydd na fydd Leanne Wood yn sefyll yn unrhyw un o'r rhanbarthau.
Yn bersonol dwi'n cael rhywbeth yn ddigon annwyl am y bobl bach rhyfedd hynny sydd o dan yr argraff bod pawb a phopeth yn fusnes iddyn nhw. Mae'n debyg bod gwaith blaenorol Mick wedi ei annog i stwffio ei drwyn i pob twll a chornel. Ond, wedi dweud hynny efallai y dyliwn nodi nad ydi Mick yn aelod o Blaid Cymru, na fu erioed yn aelod o'r blaid honno, ac mae'n anhebygol iawn o fod yn aelod yn y dyfodol. Mewn geiriau eraill dydi pwy sy'n sefyll dros y Blaid yn lle yn ddim oll i'w wneud efo fo - ddim mwy nag ydi pwy sy'n sefyll tros Lafur ym Mhontypridd yn fater i mi.

2 comments:
Mae'r coc yna yn y wasg lleol yn galw am "living wage". Tynnwyd ei sylw at y ffaith fod cynghorwyr Llafur y cyngor lleol, (h.y. Rh.C.T. y cyngor yn yr ardal y mae'n cynrychioli, nid Casnewydd, yn cyngor ble mae'n byw) wedi gwrthod cynnig gan Blaid Cymru ar y cyngor i sicrhau cyflog teg "living wage" i bob un o weithwyr y cyngor.
Do'n i rioed wedi cylwed yr enw o'r blaen. Diolch ma fy addysgu
Post a Comment