Gan bod ein bwletinau newyddion wedi eu dominyddu gan lofruddiaethau yn America am ddyddiau, beth am son ychydig am lofruddiaeth yn y wlad honno a holi pam bod marwolaeth llond dwrn o bobl nad oeddynt yn hynod nag enwog yn ystod eu bywydau wedi bod yn stori mor fawr yng Nghymru am gyfnod mor hir.
Serch hynny mae'r nifer abseliwt o lofruddiaethau yn America yn uchel - tua 14,700 (tua 700 ydi'r ffigwr yn y DU) y flwyddyn yn ol y ffigyrau diweddaraf - tua 40 y diwrnod. Tri a laddwyd yn Boston, ac eto mae cyfryngau wedi bod yn llawn o'r stori am ddyddiau lawer bellach. Rwan mae yna resymau penodol am hyn am wn i. Digwyddodd y llofruddiaethau yn ystod ras sydd a phroffeil Byd eang, ac ni ddaeth y stori i ben gyda'r llofruddiaethau - roedd yna chwilio am y sawl oedd yn gyfrifol am ychydig ddyddiau.
Ond mae'r stori hefyd yn gweddu i naratif sy'n apelio at Americanwyr - un o fygythiad i America gan bobl ddrwg ac afresymegol nad ydynt yn Americanwyr. Mae diwydiant ffilmiau'r wlad wedi ei seilio ar ail adrodd y naratif yma trosodd a throsodd a throsodd. Dydi'r stori ddim cweit yn gweddu i'r naratif - gan bod y ddau lofrudd wedi treulio'r rhan fwyaf o'u bywydau yn America - ond mae'n ddigon agos. Mae'r stori wedi dominyddu'r newyddion yn yr UDA oherwydd ei bod yn cyfenwi rhywbeth sy'n apelio at wylwyr a darllenwyr Americanaidd am resymau diwylliannol.
Ond y cwestiwn diddorol ydi pam bod cyfryngau'r DU - a rhai Cymru fach yn arbennig wedi mopio cymaint ar y stori? Mae gwasanaeth y newyddion y Bib yng Nghymru wedi bod yn chwilio am bobl sy'n byw yn Boston sy'n siarad Cymraeg i siarad am y digwyddiad, am bobl sy'n byw yn America, am bobl oedd yn rhedeg ym marathon Boston ac am bobl sy'n rhedeg yn marathon Llundain.
Llofruddwyd tros i hanner cant o drigolion Irac mewn cyfres o ffrwydriadau ychydig oriau wedi ymysodiad Boston, ond dwi ddim yn meddwl i newyddion y Bib yng Nghymru son am y peth, heb son am gribino'r Ddaear am siaradwyr Cymraeg sydd a rhyw fath o gysylltiad efo'r digwyddiad. Llofruddir tua 470,000 o bobl ar hyd a lled y Byd yn flynyddol. Mae'r rheswm am yr hierarchiaeth llofruddiaethau yma yn un gweddol hawdd i'w ganfod mewn gwirionedd - roedd y stori yn cael sylw di ddiwedd gan BBC y DU, ac mae'r Bib ar lefel Prydeinig - fel y rhan fwyaf o'r cyfryngau Prydeinig - yn cymryd eu harwain gan y cyfryngau Americanaidd i raddau mwy na'r un wlad arall bron. Mae'r rhesymau am hyn yn ymwneud a iaith gyffredin, cysylltiadau diwylliannol agos a ffordd debyg iawn o edrych ar faterion rhyngwladol.
Mae gan BBC Cymru gyfeiriad golygyddol ychydig yn wahanol i un y BBC yng ngweddill y DU mewn materion cartref, ond pan mae'n dod i faterion rhyngwladol does yna ddim gwahaniaeth o gwbl. Mewn geiriau eraill mae Bib y DU yn cymryd ei arwain gan gyfryngau'r UDA, ac mae'r Bib yng Nghymru yn cymryd ei arwain gan y Bib yn Lloegr. Mae'n arwydd nad ydi'r Bib yng Nghymru wedi llwyddo i dorri ei gwys ei hun o ran materion rhyngwladol - mae'n edrych ar y Byd mawr y tu hwnt i Gymru trwy'r un llygaid yn union a'r Bib yn Llundain.
12 comments:
Pa ogwydd wahanol allai BBC Cymru gymeryd ar ddigwyddiadau Boston ?.
A yw effeithiau terfysgaeth ar Gymru yn wahanol ?
Nid son am y gogwydd newyddiadurol ydw i - mae hwnnw'n fater ychydig yn wahanol.
Son am lefel y sylw rhyfeddol a roddir i dri llofruddiaeth allan o'r hanner miliwn a geir yn Fyd eang mewn blwyddyn.
Dwi'n cytuno fod perspectif rhifau o rhan trychinebau/llofruddiaethau yn rhyfedd - ond rhaid cofio ei bod gryn dipyn yn haws cael hyd i gyswllt Cymreig a Chymraeg yn Boston, Waco neu Anchorage, hyd yn oed , nad ydyw yn Islamabad, Mombasa neu Schezuan.Yr oedd tri person o fewn fy ngweithle (uniaith) wedi bod yn Boston , un gydag ewythr yno.
Mae'n wir bod cysylltiadau rhwng y Gymru Gymraeg ac America - ond mae gen ti lawer o bobl sy'n byw yng Nghymru gyda'u cefndir ym Mhacistan - gan gynnwys rhai sy'n siarad y Gymraeg yn iawn.
Pam oedd y bîb yn rhoid cyn gymaint o sylw i Boston a bron iawn dim i'r ffrwydiad mawr yn West, Texas? Mi oedd yna 14 wedi cael ei ladd gan y ffrwydiad ac mae'r stori wedi cael ei ysgubo o dan y carped ac ei anghofio.
Dydi stori sydd yn ymwneud yn ei hanfod a llanast iechyd a diogelwch ddim yn cynhyrfu cynulleidfa Americanaidd. Mae un am ymysodiad ar America, ei gwerthoedd ac ati yn gwneud hynny. Felly mae Fox, CNN ac ati yn gwneud llawer o'r naill stori a llawer llai o'r llall. Ac mae'r cyfryngau Prydeinig yn dilyn hynny.
Yn ol y Sunday Times mae 85 yn cael eu llofruddio yn America pob dydd.
Mae'r Sunday Times yn uwd o nonsens idiotaidd ac mae'r sawl sy'n sgwennu i'r papur yn dioddef o'r Gwilym Owen Syndrome - methiant llwyr i wirio ffeithiau.
Dwi'n siwr bod 85 llofruddiaeth y diwrnod yn ffigwr cywir bymtheg mlynedd yn ol, ond mae'r cyfraddau llofruddiaeth wedi syrthio fel carreg ers hynny.
Maen ddiddirol bod newyddion teledu BBC Cymru yn rhoi cymaint o sylwi newyddion ryngwladol tra bod gwefan newyddion Cymraeg y BBC ddim yn rhoi sylw i stwff rhyngwladol o gwbl gan ddweud nad oes galw.
Dwin meddwl bod dau prif reswm -
Mae newyddion teledu Cymraeg yn cystadlu yn uniongyrchol yn erbyn newyddion teledu Saesneg - mae pobl am wylio eu hanner awr o newyddio teledu yn Saesneg neu'n Gymraeg, ond ddim am fuddsoddi awr mewn gwylio'r ddau.
Maen cmryd yr un faint o ymdrech i sgwennu stori rhyngwladol yn Gymraeg ag ydyw stori Cymreig. Ond yn achos stori teledu rhyngwladol neu brydeinig mae'r delweddau i gyd ganddyn nhw yn barod, wedi eu darparu gan y BBC yn ganolog, felly mae'n llawer haws arwain efo newyddion rhyngwladol na newyddion cymreig.
Dwin anghytuno i raddau am stori Boston gyda llaw. Mae'r marathon yn ddigwyddiad o bwys rhyngwladol ac felly yn mynd i ddenu sylw o bob rhan o'r byd. Roedd fy myfyrwyr o dramor yn dweud bod rhaglenni newyddion eu gwledydd nhw wedi bod yn rhoi'r union yr n faint o sylw i'r stori.
Sori am gamgymeriadau yn teipio ar yr iPad.
Ifan
Sylwadau diddorol - fel arfer - Ifan.
Dwi'n derbyn bod marathon Boston yn ddigwyddiad o bwys ac yn amlwg does gen i ddim mynediad i holl donfeddi'r Byd, ond mi fydda i'n gwylio Al Jazeera a gwasanaeth rhyngwladol Ffrainc. Byddwn yn derbyn eu bod yn rhoi blaenoriaeth uchel i'r stori - ond doeddyn nhw ddim yn rhoi llawer iawn o amser iddi.
Hi, The topic that you have discussed in the post is really amazing, I think now I have a strong hold over the topic after going through the post. I will surely come back for more information.
Medical Clinic in Silver Spring
This is a very informative article.I was looking for these things and here I found it. Oscar Wylee was founded during a renaissance of change - to provide classically inspired, artisanal-quality eyeglasses at an unprecedented price-point. Sunglasses Online
Post a Comment