Thursday, September 20, 2012

Perfformiad economaidd Iwerddon

Un o'r prif ddadleuon a ddefnyddir yn erbyn annibyniaeth i Gymru ydi'r ffaith ein bod yn wlad dlawd - llawer rhy dlawd i allu edrych ar ol ni'n hunain.  Yn aml cysylltir y ffaith nad ydym yn wlad fawr efo hyn - rydan ni'n llawer saffach o dan adain gwlad fawr gyfagos. Doedd y ddadl erioed yn dal dwr wrth gwrs - mae yna lawer o wledydd bychain sy'n llwyddo yn economaidd, ac mae'n weddol amlwg nad ydi'r trefniadau cyfansoddiadol a geir ar hyn o bryd wedi gwneud Cymru yn gyfoethog.

Tan rhyw bedair blynedd yn ol roedd esiampl dda o wlad fechan yn llwyddo yn economaidd wrth law - ein cymydog agosaf, Iwerddon.  Aeth yr hwch trwy'r siop wrth gwrs, am yr un rheswm ag aeth yr hwch drwy'r siop Brydeinig - cwymp y sector ariannol, a gor ddibyniaeth ar y sector honno.

Ond, mae unrhyw un sy'n byw yn agos at yr A55 ac yn gweld y loriau anferth sy'n cario nwyddau - nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu yn bennaf - trwy ddiffeithdir cynhyrchu Gogledd Cymru - tuag at farchnadoedd mawr Ewrop yn gwybod bod mwy i'r stori na hynny.  Ac mae yna fwy iddi na hynny wrth gwrs.  Mae'r graffiau isod yn dangos perfformiad y DU o ran masnach efo gwledydd eraill.  Fel y gwelwch, hyd yn oed yn nannedd dirwasgiad, mae'r Iwerddon - gwlad sy'n mewnforio pob car a phob litr o olew - yn gwerthu mwy na mae'n ei brynu, tra bod y DU yn gwneud y gwrthwyneb.


10 comments:

Anonymous said...

Ond rwyt ti wedi anghofio son am un peth sy'n gwneud Iwerddon i ddioddef o'u cwymp yn fwy na ni ym Mhrydain....a hynny yw eu bod ynghlwm wrth yr Ewro. Mae Prydain wedi gallu 'argraffu' arian i dalu am gymaint o bethau ac ar yr pryd achosi'r bunt i wanhau. Nid yw'r Iwerddon wedi gallu gwneud hyn

Cai Larsen said...

Ond yr Ewro sydd wedi syrthio yn erbyn y bunt mewn blynyddoedd diweddar wrth gwrs.

Anonymous said...

O 2009 ymlaen. Mae'n amlwg y dylai arian y Gwyddelod fod wedi cwympo mwy. Gellir dweud yr un peth am y Groegwyr. Ond maent wedi eu parlysu gan yr Ewro. Wyt ti'n cytuno neu nag wyt y byddai'r Iwerddon mewn sefyllfa gwell petai nhw'n gallu rheoli cyfraddau llog eu hunain a gallu 'argraffu' arian fel y mynnent? Neu wyt ti'n meddwl fod yr Ewro wedi bod yn llwyddiant ysgubol? Yr un cyfraddau llog dyweder i'r Iwerddon a'r Almaen; neu yr Almaen a Gwlad Groeg?

Cai Larsen said...

Na, dwi'n cytuno y byddai'n well ar Iwerddon pe na byddent yn yr Ewro. Ond mae'r ffaith bod cynhyrchu mor iach n yn er gwaethaf hualau'r Ewro yn adrodd cyfrolau am yr hyn y gellir ei wneud o gael grym go iawn.

Anonymous said...

Dwi'n cytuno. A dweud y gwir wrthyt, dadlau yr ydw i.....nid o blaid y bunt, ond o blaid arian ei hunan i Gymru. Wrth gwrs, petai ni'n gallu newid lefelau trethiant byddai hynny yn un arf ac yn ddechrau. Byddwn i wrth fy modd petai'r Ewro yn gweithio ond nid yw wedi troi allan fel 'ny. Ac ni wneith e weithio yn y dyfodol ychwaith.

Cai Larsen said...

Mi weithith yr Ewro i rhai gwledydd sydd ac economiau tebyg - ond ddim i'r amrediad o wledydd sydd gen ti yn perthyn ar hyn o bryd.

Anonymous said...

Mae'n amwlg dy fod ti yn hoff o'r Ewro ac fe hoffet petai Prydian yn rhan ohono. Ie, Cymru a'r un cyfraddau llog a'r Almaen. :-)) Ideoleg sy'n rhedeg dy feddwl di ac nid synnwyr cyffredin economaidd.

Cai Larsen said...

Ar beth yn union mae'r sylw uchod wedi ei seilio?

glynygof said...

Mae yna ddau ddiffig sylfaenol yn economi Prydain.
Yn gyntaf yr ydym yn talu mwy am fewnforion nag sydd yn cael ei dderbyn am allforion pob mis. Mae pob llywodraeth er y chwedegau wedi rhedeg i lawr diwidiannau cynhyrch yn y wlad gan feddwl fod y diwidiant arian a bancio yn bwysicach.
Yn ail mae y llywodraeth yn talu allan fwy nag y mae yn ei dderbyn mewn trethi ac yn gorfod benthyg y gwahaniaeth ac mae y llogau ar yr arian yma yn swm sylweddol pob mis.Mae yn well gan y llywodraeth yn Llundain weld miliynnau yn ddi waith a mewnforio nwyddau wedi eu cynhyrch yn y Dwyrain Pell na gwneud unrhyw beth i adfer i diwidiannau cynhyrchu yn y wlad yma.Maet ofn tramgwyddo eu cyfeillion yn y Ddinas sydd yn gwneud elw mawr wrth fewn forio nwyddau i'r wlad.
Nid yw yr Ewro wedi bod yn llwyddiant ysgubol oherwydd fod cymaint o wledydd gyda economiau mor wahanol yn ceisio rhannu yr un arian.Mae wedi bod o fantais fawr i'r Almaen gan eu bod yn gallu allforio nwyddau ceir etc i wledydd eraill Ewrop yn rhatach nag y buasant wedi dal at y Deuchmark ond mae wedi bod yn anfantais mawr i wledydd fel Yr Iwerddon a Gwlad Groeg fe fuasai y gwledydd yma wedi gallu di brisio y Punt neu Drachma ac ni fuasent mewn cymaint o ddyled heddiw.

Anonymous said...

Medd glyngof

"Nid yw yr Ewro wedi bod yn llwyddiant ysgubol oherwydd fod cymaint o wledydd gyda economiau mor wahanol yn ceisio rhannu yr un arian."

Rwy'n cytuno 100 % a beth rwyt ti wedi dweud. Mae beth wyt ti wedi dweud yn y frawddeg uchod hefyd yn wir am UK PLC