Mae'n ddiddorol bod Guto Bebb yn priodoli'r ffaith na ddewiswyd yr un o'r aelodau seneddol Cymreig yn Ysgrifennydd Seneddol i David Jones oherwydd i (o leiaf) dri ohonynt ddweud y byddant yn gwrthwynebu bwriad y llywodraeth i ddiwygio Ty'r Arglwyddi. Mi allwn gymryd hynny efo pinsied go lew o halen wrth reswm, ond rhywbeth arall aeth a fy sylw a dweud y gwir.
Mae hi'n bosibl bod yr aelodau seneddol Toriaidd o Gymru yn teimlo yn ddigon cryf am fater yr Arglwyddi i fod yn fodlon rhoi eu pennau tros y pared a gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth. Ond mae yna eglurhad arall. Rydym wedi edrych ar effaith tebygol newid y ffiniau etholiadol yng Nghymru ar gynrychiolaeth y Toriaid yma - byddai'r rhan fwyaf o'u seddi yn cael eu colli.
Gan bod y ffiniau a geir ar hyn o bryd yn ei gwneud yn nesaf peth i amhosibl i'r Toriaid gael mwyafrif llwyr, byddai'n anodd i aelod seneddol Toriaidd bleidleisio yn erbyn eu newid - hyd yn oed os byddai'r aelod hwnnw yn colli ei sedd o ganlyniad i'r newidiadau. Ond roedd yn amlwg yn ystod y dyddiau cyn bod y bleidlais i'w chynnal y byddai'r Lib Dems yn gwrthod cefnogi'r newidiadau i'r ffiniau os nad oedd y newidiadau i Dy'r Arglwyddi yn mynd rhagddynt.
Hynny yw, roedd yn bosibl i aelodau seneddol Toriaidd bleidleisio yn erbyn y newidiadau i'r ffiniau yn anuniongyrchol - trwy brocsi fel petai. Byddai dod a'r mesur Ty'r Arglwyddi lawr yn dod a'r mesur i newid y ffiniau i lawr. Byddai hynny yn ei dro yn rhoi cyfle i nifer o'r aelodau seneddol Toriaidd gadw eu seddi - er y byddai hynny yn groes i fuddiannau'r Blaid Doriaidd yn wrth gwrs.
Rwan dydw i ddim eisiau swnio'n sinicaidd na Maciofelaidd _ _ _ ond _ _ _.
4 comments:
Tybed pam bod Plaid Cymru yn erbyn amddiffyn ein gwlad rhag yr holl tyrbinau gwynt i gynhyrchu trydan i Loegr? Ai er mwyn safio'r byd ynteu a oes rheswm arall?
Blog ddiddorol.
Parthed ail-wampio'r seddau. Mi fyddai ail-wampio seddau'r Gogledd yn golygu y byddai Guto Bebb yn gorfod cystadlu yn uniongyrchol yn erbyn David Jones am sedd newydd y Glannau ( neu beth bynnag fyddai'r enw ar y sedd honno).
Pwy fysa'r ffefryn yn y ras arbennig honno ys gwn i ? DJ y Tori fu'n Dori erioed, neu cyn-Welsh Nash, sy'n cynhyrfu'r dyfroedd lle bynnag mae'n mynd ?
A fu Bebb yn genedlaetholwr?
mae bebb yn dal yn genedlaetholwr
Post a Comment