Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn rhagweld y dewis yma. 'Dwi'n siwr y bydd gan David well gafael ar fanylion ynglyn a Chymru na'i ragflaenydd - dynas nad oedd hyd yn oed yn gwybod am hir i Carwyn Jones gymryd lle Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru. Does yna ddim amheuaeth ei fod yn fwy galluog o lawer na Cheryl Gillan - yng nghyd destun y swydd yma o leiaf.
Ond - fel mae eraill wedi nodi, mae'n ddewis problematig - llugoer ar y gorau tuag at ddatganoli, amhoblogaidd gydag 'adain Gymreig' ei blaid ei hun, ac amhoblogaidd yn ehangach hefyd. Mae'n wyneb cyhoeddus oeraidd i'r Blaid Geidwadol Gymreig - a dydi gwleidyddion felly ddim yn apelio yng Nghymru. Mae gwleidyddion lliwgar, huawdl neu gynnes o ran cymeriad yn tycio yn llawer gwell yma.
Yn ychwanegol at hynny mae blog David yn adrodd cyfrolau am ei agweddau gwaelodol at wleidyddiaeth. Daw'r deunydd craidd yn bennaf o etholaeth David ac ardaloedd cyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf o'r gweddill yn ymwneud a materion 'cenedlaethol' yn ystyr Prydeinig y term hwnnw. Ychydig iawn, iawn o dystiolaeth sydd ynddo ei fod yn gweld dimensiwn Cymreig i wleidyddiaeth - os ydym yn anwybyddu y blogiadau sy'n ymwneud ag ymgyrchu yn etholiadau'r Cynulliad. Yn yr ystyr yna mae teimlad hen ffasiwn, cyn ddatganoli i'w flogio - bron iawn fel darllen stwff rhywun oedd yn blogio yn 1993 - nid bod neb wrthi bryd hynny wrth gwrs, hyd yn oed Nic Dafis.
Felly dyna ni - mae i'r ddraig Geidwadol Gymreig ddau ben, ac felly dau wyneb - un Andrew RT Davies ac un David Jones - y naill yn crechwenu'n hunan fodlon ar yr etholwyr a'r llall yn gwgu'n biwis arnynt.
Mi gawn gip maes o law ar pa mor boblogaidd ydi'r ddraig honno yn is etholiad De Caerdydd / Penarth. Mi gawn ni olwg llawnach yn etholiadau Ewrop yn 2014. Mi fyddai dod ar ol UKIP a cholli'r sedd Doriaidd yn drychineb iddynt - ond mae'n drychineb a allai'n hawdd ddigwydd.
12 comments:
Beth yw ymateb Mr Bebb?
Bydd yn ddibynnol ar wrthynebiad y Libs i aildrefnu etholaethau i sicrhau sedd i'w hamddiffyn yn yr etholiad nesaf?
Wel, dwi'n meddwl y gall bellach fod yn weddol siwr o gefnogaeth y Lib Dems yn hynny o beth.
Petai'r ffiniau yn newid byddai dyrchafiad DJ yn broblem iddo mi dybiaf.
Ond efo'r polau fel ag y maent dydi hyn oll ddim yma nag acw - byddai holl seddi'r Toriaid ag eithrio Trefalddwyn ac o bosibl Mynwy yn syrthio.
Mae lobiwyr o'r farn fod Cheryl yn fodlon gwrando ar ddadl dda ac yn awyddus i geisio llenwi'r bylchau yn ei gwybodaeth o Gymru. Rwyf yn amheus o benodiad David Jones,dyn a dreuliodd flynyddoedd cynnar ei yrfa wleidyddol yn celu'r ffaith ei fod o'n siarad Cymraeg - gweithred od iawn. Hawdd maddau i Cheryl am beidio sylweddoli mai Carwyn anweledig ac anweithredol yw Prif Weinidog Cymru? ("Gweinidog cyntaf",wir!)
O ol reit mi newidia i fo i Prif Weinidog - ond fedra i ddim dallt pam bod angen teitlau gwahanol yn Saesneg ond ddim yn y Gymraeg.
Gwrddes i Cheryl Gillan pan ddoeth hi i'n lle gwaith ni ac mi oedd hi'n berson hyfryd a hynod barchus i weithiwr gwbwl ddinod fel fi
Gwell Cymraes, Cymraes oddicartref?. Does dim mwy gwenwynig na Chymro sy'n siarad cymraeg ac yn casau y wlad ai maco
Brwynwen:
"..i weithiwr gwbwl ddinod fel fi"
Cwbl ddi-nôd ydi Cymru a'i phobl i'r Toriaid Saesnig.
D'oes dim yn bod ar ddaliadau ceidwadol, mae rhain yn rhan o'r byd wleidyddol ymhob wlad. Ond plaid estron i Gymru yw y Blaid Doriaidd. Peidiwn byth ac anghofio hyn.
Ddim just y toriaid cofia Maen Tramgwydd, dyw Cymru ddim yn rhan o feddylfryd un o'r pleidiau prydeining
Plaid seisnig yw'r Blaid Lafur hefyd. Y cwbwl oeddwn i'n deud oedd fod Cheryl Gillian wedi bod yn neis ifi a dani'n cael pwysigion yn dod rownd y lle gwaith weithie a dan nhw ddim i gyd yn barchus i'r 'gweithiwrs', ond mi oedd hi
Sgwn i y rheswm na chafodd Guto Bebb y swydd oherwydd fod on "rhy Gymraeg a Chymreig"?
Dyna'r rheswm yn ol Syr Wyn Roberts na chafodd o y swydd - amheauon fod on rhy Gymraeg ei naws.
Rhyfedd o fyd.
Mae gan Guto lai o brofiad na'r sawl a gafodd eu dyrchafu wrth gwrs.
Ahaa, іts nіce conѵersation on the topic of thiѕ
pаragraрh аt thіs place at thiѕ weblog, I havе
reaԁ аll that, so at this time me also commenting at this рlасe.
my weblog fast payday loans
My web site : fast payday loans
Very goοd post. І'm experiencing some of these issues as well..
Feel free to visit my webpage - payday loans
Excellеnt, what a ωebpagе it is!
This web site presents valuable informаtiоn to us, κeep it uρ.
Also νisit my web sitе; Property for Sale
Post a Comment